Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2014/15

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr:  Cefnogi Busnes (amgaeir copi) sy'n cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2014/15 ar gyfer sylwadau’r Pwyllgor cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol (eisoes wedi'i ddosbarthu). 

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er bod gwasanaethau gofal cymdeithasol y Sir yn gwella roedd yna bob amser le i wella ymhellach.  Ymhlith yr heriau sydd o'n blaen oedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a fyddai'n dod i rym yn llawn yn Ebrill 2016. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

·       Bod yr heriau ar gyfer y flwyddyn i ddod wedi eu manylu o fewn yr adroddiad.

·       Amlinellodd ymrwymiad y Gwasanaeth i drigolion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n dymuno cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mynychodd deilydd portffolio iaith Gymraeg y Cyngor, y Cynghorydd Huw Ll Jones Grŵp Monitro Iaith Gymraeg y Gwasanaeth a byddai’r Cynghorydd Arwel Roberts yn bresennol yn y dyfodol agos.  Roedd y Grŵp yn monitro cydymffurfiaeth y Gwasanaeth gyda'r cynllun gweithredu "Mwy Na Geiriau".

·       Rhoddodd fanylion y broses i sicrhau bod y gwasanaethau a gomisiynir yn ateb anghenion defnyddwyr y gwasanaeth a’r Cyngor, a’r newidiadau i’r broses gwynion a anelwyd at hwyluso datrys cwynion.

·       Eglurodd y talwyd taliadau uniongyrchol i gyfrif o ddewis y defnyddiwr gwasanaeth i ganiatáu iddynt dalu am eu gofal.  Gall y cyfrif fod yn un swyddfa bost, banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd.

·       Roedd Sir Ddinbych yn perfformio'n dda o ran y dangosydd "oedi wrth drosglwyddo gofal".  Bu rhai problemau o ran oedi wrth drosglwyddo gofal yn ne’r sir, a oedd yn bennaf oherwydd natur wledig yr ardal.  Roedd y problemau’n fwy cyffredin pan oedd angen dau ofalwr yn bresennol ar yr un pryd.  Roedd y Cyngor a'r Gwasanaeth Iechyd yn cydweithio'n agos i ddatrys y mater hwn.

·       Roedd risgiau sy'n gysylltiedig â chyfuno Gwasanaethau Addysg a Phlant o dan un Pennaeth Gwasanaeth yn cael eu rheoli'n dda, ac roedd aelodau etholedig yn cael eu briffio’n rheolaidd ar gynnydd y prosiect.

·       Roedd y posibilrwydd o gau cartrefi gofal preswyl wedi'i nodi fel her yng nghynllun y llynedd, roedd gwaith yn cael ei wneud ar y rhain ar hyn o bryd.  Roedd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol wedi pwysleisio'r angen i aelodau etholedig gyfathrebu'n glir i drigolion y rhesymau tu ôl i'r cynigion i leddfu eu pryderon o ran newidiadau arfaethedig yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau.

·       Eglurodd beth oedd yn cael ei ystyried fel "symud" ar gyfer plentyn mewn gofal.  Roedd y rhain wedi cynnwys symudiadau cadarnhaol e.e. yn ôl i rieni, rhyddhau o'r ysbyty neu fabwysiadu.  O ganlyniad roedd gan yr ystadegau sy'n ymwneud â’r dangosydd perfformiad penodol hwn y potensial o beidio â rhoi’r darlun llawn.   Roedd y Cyngor wedi'i ddewis fel un o'r awdurdodau peilot ar gyfer treialu mesurau "canlyniad" ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.  Diben y cynllun peilot hwn oedd dyfeisio set ddata ystyrlon ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a fyddai'n cynorthwyo awdurdodau i wella gwasanaethau ar eu cyfer.

·       Er gwaethaf cofrestru cyfradd uchel o absenoldeb oherwydd salwch o'i gymharu â gwasanaethau eraill y cyngor, roedd perfformiad yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwella ac yn cymharu’n dda yn erbyn cyfartaledd Cymru a'r DU ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

·       Briffio'r Aelodau am ddatblygiadau sy'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai’r Bwrdd yn destun mesurau arbennig.   Byddai'r Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn mynychu cyfarfod y prynhawn hwnnw gyda'r Swyddog Atebol sydd newydd ei benodi ar y Bwrdd, Mr Simon Dean.  Byddai Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weithredwr yn cyfarfod y Swyddog Atebol yr wythnos ganlynol.  Roedd Cadeirydd BIPBC wedi rhoi sicrwydd y byddai'n "fusnes fel arfer" ac, o ganlyniad, roedd y Cyngor yn hyderus y byddai cynlluniau eisoes ar y gweill yn cael eu cyflawni.  Byddai’r Aelod Arweiniol a swyddogion yn ceisio sicrwydd bod rhaglenni cyfalaf eisoes wedi eu cyhoeddi h.y. prosiect Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn cael eu cyflawni ac y byddai'r ffrydiau ariannu parhaus eraill a phrosiectau a’r Gronfa Gofal Canolraddol yn parhau. 

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(a)  I dderbyn yr adroddiad a’i gymeradwyo fel darlun clir o berfformiad yn 2014/15.

(b)  Bod perfformiad y gwasanaethau wrth ddarparu eu gwasanaethau a mynd i'r afael â heriau a nodwyd ar gyfer 2015 yn cael ei fonitro'n agos drwy broses herio gwasanaeth, gydag unrhyw feysydd pryder yn cael eu codi gyda’r Pwyllgor, a

(c)  Bod yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn hysbysu aelodau'n llawn am y datblygiadau sy'n ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'u heffaith ar drigolion a gwasanaethau’r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: