Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD DONALDSON
Derbyn cyflwyniad
ynghylch adolygiad yr Athro Donaldson o'r cwricwlwm a'i argymhellion. Gellir
canfod yr adolygiad llawn yn:
Cofnodion:
Eglurodd y CA bod
yr Athro Donaldson wedi cynnal adolygiad o’r cwricwlwm. Mae ei adroddiad
'Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’i asesiad yng
Nghymru’ yn amlinellu canfyddiadau ac argymhellion.
Eglurodd y CA fod
y cyflwyniad wedi'i rannu â CYSAG Conwy a Sir y Fflint yn y drefn honno. Derbyniwyd
ymateb gan gynrychiolydd ffydd yn CYSAG Sir y Fflint a dynnodd sylw at bryderon
ynghylch ehangder y ddogfen, a gwerth y cyflwyniad wrth grynhoi gofynion yr
Adolygiad.
Gyda chymorth
cyflwyniad PowerPoint tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol gan y CA. Ymhelaethodd
ar y meysydd allweddol perthnasol a materion o fewn y ddogfen a allai effeithio
ar gyflwyno darpariaeth Addysg Grefyddol:-
·
Cwestiynau
ar gyfer y ddadl fawr a chynnwys yr holiadur.
·
Diben
y cwricwlwm.
·
Meysydd
o ddysgu a phrofiad- amlinellwyd 6 maes gan y CA.
·
Egwyddorion
pedagogaidd – tynnodd y CA sylw at 9 pwynt.
·
Draws
y cwricwlwm.
·
Rôl
gref sydd gan athrawon wrth lunio cwricwlwm.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr G. Craigen ynghylch y ddarpariaeth gan
Lywodraeth i gynorthwyo a pharatoi athrawon ar gyfer y dull canlynol o ddarparu
cwricwlwm newydd a gwahanol iawn, yn dilyn yr adolygiad, eglurodd y CA na
fyddai’n cael ei weithredu’n llawn tan 2020. Fe eglurodd fod yr adolygiad wedi
darparu llawer o argymhellion ond nid oedd unrhyw arwydd ynghylch sut y
byddai’n cael ei weithredu a byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y cam nesaf drwy
greu cynllun gwaith.
Cyfeiriodd y CA yn benodol at y cyfleoedd a fyddai’n cael eu creu ym
mlynyddoedd 7 ac 8. Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Roberts at y broses asesu a
fabwysiadwyd yn yr Alban, a chyfeiriodd at lwyddiant clwstwr y Rhyl, roedd o’n
teimlo nad oedd wedi cael ei ailadrodd ym Mhrestatyn. Eglurodd y CA yn y dyfodol y byddai myfyrwyr yn
cael eu hasesu yn erbyn sgiliau nid lefelau, gyda chonsortia yn cynhyrchu
portffolio o bwyntiau asesu. Cyfeiriwyd yn benodol at effaith sylweddol o ran
profion FfLlRh a’r angen i ysgolion cynradd ac uwchradd gydweithio'n agosach yn
y dyfodol.
Yn ystod y
drafodaeth a ddilynodd tynnwyd sylw at y materion canlynol:-
-
Pwysigrwydd
Cyfnod Allweddol 3 yn darparu pynciau o ran fframwaith ar gyfer arholiadau a
lefelau sgiliau myfyrwyr.
-
Byddai'r cyngor a roddir gan CYSAG yn berthnasol i gytuno
ar y maes llafur ar gyfer cyflwyno Addysg Grefyddol. Cyfeiriwyd at barhad Fframwaith enghreifftiol a
dull cyffredinol.
-
Rhoi statws cyfreithiol i’r maes llafur a gytunwyd arno
mewn ysgolion i ddarparu sylfaen ar
gyfer holl Addysg Grefyddol.
-
Cynrychiolwyr
athrawon o fewn CYSAG i fonitro darpariaeth Addysg Grefyddol, a fyddai'n rhoi
mynediad uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth.
Amlinellodd y CA
y model presennol a'r defnydd o gynrychiolwyr athrawon ar CYSAG. Esboniodd
y byddai’r model newydd rhywfaint yn wahanol gan y byddai’n bwydo lawr i
grwpiau fel llinell gyfathrebu. Cytunodd aelodau o CYSAG y byddai'r CA yn ysgrifennu
at ysgolion i symud ymlaen â’r dull newydd. Byddai
athrawon yn cael eu gwahodd i gymryd rhan gyda grwpiau bach ac yna gallent eu
cynrychioli ar CYSAG. Tynnodd Mr G. Craigen, sylw at bwysigrwydd cydymffurfio â
gofynion cynrychiolaeth Undeb Athrawon petaent yn cynyddu cynrychiolaeth athro
ar CYSAG.
PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, derbyn a nodi y cyflwyniad ar Adolygiad Donaldson.
Dogfennau ategol: