Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL LLANBEDR

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi ynghlwm) yn rhoi manylion trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst, 2016 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn rhoi manylion trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i fwrw ymlaen i ymgynghori’n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd Williams y rhesymeg y tu ôl i'r adolygiad o ysgolion cynradd yn y sir a chyd-destun Ysgol Llanbedr fel rhan o'r adolygiad ehangach o ardal Rhuthun.  Roedd yr achos dros newid wedi'i gynnwys yn yr adroddiad yn amlygu amcanestyniadau o ran lleoedd gwag a materion dros gynaliadwyedd a hyfywedd yr ysgol a safonau addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol.  Yn dilyn penderfyniad i wrthod y cynnig cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda'r Eglwys yng Nghymru ynglŷn â dyfodol yr ysgol.  Roedd yr Esgobaeth wedi cyflwyno cynnig amgen a oedd yn cynnwys atal yr ymgynghoriad arfaethedig i gau ysgol i ganiatáu i bartner ffederasiwn gael ei sicrhau a newid statws i gwirfoddol a gynorthwyir, gydag ymrwymiad i adolygu dyfodol yr ysgol ym mis Mai 2018. Roeddent yn credu y byddai'r cynnig hwn yn mynd i'r afael ag amcanion y Cyngor o leihau costau a mynd i'r afael â lleoedd gwag.  Dywedodd y Cynghorydd Williams y gellid cyflwyno cynigion mwy manwl yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol a byddai swyddogion yn gweithio gyda’r Esgobaeth yn hynny o beth.

 

Roedd y Cabinet wedi ystyried yr adroddiad a myfyrio ar eu cyfarfod diweddar gyda’r Esgobaeth ynghylch eu cynnig.  Oherwydd y diffyg manylder ac achos busnes cadarn, ni ellid gwneud gwerthusiad o hyfywedd y cynnig.  Eglurwyd y byddai unrhyw ddatblygiad o'r cynnig angen cael ei wneud gan yr Esgobaeth, ond byddai swyddogion yn barod i weithio gyda nhw a darparu unrhyw wybodaeth berthnasol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Huw Williams ei siom bod y mater o gau yn dal i gael ei ystyried a gofynnodd i’r ymgynghoriad gael ei ohirio er mwyn caniatáu amser i’r cynnig ar gyfer ffederasiwn gael ei ddatblygu – teimlodd y gall sgyrsiau yn y dyfodol â darpar bartneriaid gael ei beryglu os byddai’r ymgynghoriad ar gyfer cau yn mynd ymlaen.  Hefyd atgoffodd y Cabinet bod cyllid i ddatblygu’r cynigion adolygu ardal Rhuthun wedi'i sicrhau ac nad oedd yn ddibynnol ar gau’r ysgol.  Roedd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd yn teimlo'n gryf y dylid gohirio’r ymgynghoriad ac y dylai’r Cyngor a’r Esgobaeth gydweithio i ddatblygu cynnig y ffederasiwn.  Roedd y Cynghorydd Martyn Holland yn amlygu manteision ffedereiddio fel dewis real yn lle cau ac yn cyfeirio at y goblygiadau posibl ar niferoedd y disgyblion sy'n deillio o ddatblygiadau tai newydd.  Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am eglurhad ar nifer y disgyblion a phwysleisiodd yr angen i feddwl am y plant yr effeithir arnynt.  Darparwyd yr ymatebion fel a ganlyn –

 

·         eglurwyd bod y cynnig i gau ysgol yn destun ymgynghoriad newydd a byddai aelodau’n aros â meddwl agored ac yn ystyried yr holl ymatebion, gan gynnwys unrhyw gynnig amgen a gyflwynwyd

·         rhoddwyd sicrhad y byddai hyfywedd unrhyw gynigion amgen yn cael eu hasesu a’u cyflwyno i'r Cabinet ynghyd ag ymatebion i'r ymgynghoriad llawn ar gyfer ystyriaeth

·         y ffigwr amcanestyniad disgyblion oedd 53 erbyn 2020 – roedd capasiti wedi'i adolygu ar gais y corff llywodraethu a byddai’n cynyddu i 77 o Medi 2016, eto ar gais y Corff Llywodraethu

·          cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar y mater ffederasiwn a phan gafodd ei godi’n wreiddiol, roedd hyn yn cynnwys pam bod ffedereiddio gydag Ysgol Borthyn wedi’i ddiystyru, methiant yr Esgobaeth i gyflwyno cynnig amgen ar gyfer ffedereiddio yn gynharach, a phwysleisiwyd yr angen am bartneriaid ffederasiwn bodlon.

 

Teimlai’r Cabinet y dylid datrys yr ansicrwydd ynghylch dyfodol yr ysgol mor fuan â phosibl ac nad oedd digon o wybodaeth wedi'i darparu gan yr Esgobaeth i gyfiawnhau atal ymgynghoriad ffurfiol ar gau’r ysgol.  Roedd y Cabinet yn fodlon y byddai’r Esgobaeth yn cael digon o amser yn ystod y cyfnod ymgynghori i ddatblygu cynnig manwl amgen ac roeddent yn croesawu'r ymagwedd honno.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y cynigion i gau Ysgol Wirfoddol a Reolir Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Wirfoddol a Reolir Borthyn, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

 

Dogfennau ategol: