Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL RHEWL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol Rhewl a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r cynigion statudol gofynnol ar gyfer cau’r ysgol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Rhewl, a

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor yr adeiladau ysgol newydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn manylu ar y canfyddiadau o'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer dyfodol Ysgol Rhewl ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi’r cynnig statudol gofynnol ar gyfer cau’r  ysgol gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau’r ysgol newydd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Williams gefndir i'r adolygiad o ysgolion cynradd yn y sir ac esboniodd gyd-destun y cynnig fel rhan o'r adolygiad o ysgolion ardal Rhuthun ehangach, gan dynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â lleoedd gwag a buddsoddi mewn adeiladu ysgolion newydd i sicrhau’r addysg orau bosibl ar gyfer disgyblion yn yr ardal.  Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad roedd y farn yn parhau y byddai’r cynnig i gau’r ysgol a throsglwyddo disgyblion yn cynrychioli’r dewis gorau  i sicrhau bod disgyblion yn yr ardal yn gallu parhau i gael mynediad i addysg o safon dda mewn cyfleusterau modern, addas i bwrpas.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad a chanfyddiadau'r ymgynghoriad, yn arbennig o ran effaith iaith a gofynnwyd am eglurhad yn y cyswllt hwn a cholli darpariaeth ddwyieithog.  Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch capasiti mewn ysgolion eraill i symud disgyblion a phryderon rheoli traffig.  Darparwyd yr ymatebion canlynol -

 

·        cyfeiriodd swyddogion at ganllawiau Llywodraeth Cymru 'Diffinio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg' (2007) a'r broses categoreiddio iaith a oedd yn canolbwyntio ar ddarpariaeth a chyrhaeddiad.  Roedd ysgol gynradd dwy ffrwd yn cynnig dau fath o ddarpariaeth gyda'r opsiwn o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg neu Saesneg. Roedd y canlyniadau ar gyfer y ffrwd Gymraeg fel Categori 1 a’r ffrwd Saesneg fel Categori 5. Cyfeiriwyd hefyd at Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru (2010) a oedd yn cynnwys diffiniad o ddarpariaeth ddwyieithog – term a ddefnyddir i gyfeirio at ystod eang o sefydliadau dysgu ac addysgu a allai gynnwys amrywiaeth o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.  Tra yn hanesyddol roedd rhai disgyblion o Ysgol Rhewl wedi trosglwyddo i’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol uwchradd nid oedd neb wedi gwneud hynny yn y blynyddoedd diwethaf.  Os byddai’r ysgol yn cau byddai yna ddarpariaeth amgen o fewn y cyd-destun categoreiddio

·        wrth gydnabod y cyfoeth o ymatebion yn erbyn y cynnig, roedd yr achos dros gau yn seiliedig ar yr angen i ad-drefnu ysgolion a mynd i'r afael â lleoedd gwag a materion cynaliadwyedd.  Dim ond 20 o’r 54 o ddisgyblion oedd yn byw yn Rhewl/Llanynys gyda'r gweddill yn byw y tu allan i'r ardal honno

·        rhoddwyd sicrwydd y bydd digon o gapasiti yn y system ysgol i adleoli disgyblion – roedd y cynnig yn cyd-daro ag agor ysgolion newydd yng Nglasdir ac yn dilyn trafodaethau â rhieni byddai digon o le yn cael ei gynllunio i ddarparu ar gyfer disgyblion

·        cadarnhawyd y byddai astudiaeth rheoli traffig yn cael ei gynnal ynghyd ag asesu llwybrau mwy diogel fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb manwl o safle Glasdir.

 

Siaradodd y Cynghorydd Merfyn Parry yn erbyn y cynnig a chyfeiriodd at ei e-bost diweddar i'r Cabinet yn manylu ar ei farn ar yr adroddiad a gyflwynodd ef ar ran llywodraethwyr Ysgol Rhewl.  Tynnodd sylw penodol at y pwyntiau canlynol –

 

·          pryderon ynghylch addasrwydd y llwybr ar gyfer disgyblion o Rewl i Glasdir

·         cyfeiriad at argymhellion y Pwyllgor Seneddol na ddylai ysgolion newydd gael eu datblygu ger prif ffyrdd, fel y cynigiwyd yng Nglasdir

·         cyfeiriad at adroddiad diweddar i’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar gategoreiddio iaith ysgolion a statws Ysgol Rhewl

·         nid oedd statws dwyieithog yr ysgol wedi derbyn sylw priodol – unwaith yr oedd yn hysbys bod asesu yn y Gymraeg yn ddangosydd ar gyfer darparu trwy gyfrwng y Gymraeg roedd 4 disgybl wedi eu nodi ar unwaith a allai gael eu hasesu yn y Gymraeg gyda 10 – 12 o ddisgyblion posibl a allai gael eu hasesu yn ddiweddarach

·         pe bai rhieni'n dymuno cael darpariaeth Categori 2 yr unig opsiwn fyddai Ysgol Llanfair

·         byddai’n cael effaith enfawr ar y gymuned pe bai’r ysgol yn cau

·          nid oedd effaith y datblygiad tai ar gyfer y dyfodol wedi'i egluro.

 

Dywedodd y Cynghorydd Parry bod y Cabinet wedi trafod rhinweddau ysgol Categori 2 o dan yr eitem flaenorol ond roedd bellach yn trafod cau ysgol o'r fath ac yn gorfodi rhieni i ddewis rhwng Categori 1 (Cymraeg) a Chategori 5 (Saesneg).

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol -

 

·         cadarnhawyd y broses gategoreiddio ar gyfer ysgolion yn Sir Ddinbych fel yr adroddwyd i'r Pwyllgor Archwilio Cymunedau – cydnabuwyd dros y 2/3 blynedd diwethaf na fu unrhyw ddisgybl yn yr ysgol drwy'r ffrwd cyfrwng Cymraeg o ran canlyniadau ond roedd yr ysgol wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r cynnig hwnnw a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Yng nghyd-destun y lleoliad dwy ffrwd, y canlyniadau disgwyliedig oedd Categori 1 ar gyfer y ffrwd Gymraeg a Chategori 5 ar gyfer y ffrwd Saesneg

·         y cynnig oedd i gau'r ysgol gyda disgyblion sy'n trosglwyddo i Ysgol Pen Barras (Categori 1) neu Stryd Rhos (Categori 5) - os oedd dewis y rhieni ar gyfer Categori 2 byddai ceisiadau'n cael eu hasesu fel rhan o'r broses derbyn ysgol arferol yn seiliedig ar gapasiti, fodd bynnag ni fyddai cludiant ysgol am ddim yn cael ei ddarparu os oedd hynny'n cynnwys mynd heibio ysgol sy'n cynnig yr un ddarpariaeth

·         eglurwyd argymhellion y Pwyllgor Seneddol ac roeddent yn cyfeirio at Gymru a Lloegr – nid oeddent yn cael eu hystyried yn berthnasol yn yr achos hwn.

 

Mewn ymateb i'r cwestiynau pellach eglurwyd polisi’r Cyngor ynghylch gwaredu hen adeiladau ysgol ac eglurwyd y byddai unrhyw dderbyniadau cyfalaf a gynhyrchir yn cael eu clustnodi ar gyfer moderneiddio prosiectau addysg.  Rhoddwyd sicrwydd hefyd bod y Cabinet wedi cael golwg ar holl ymatebion i'r ymgynghoriad a'r cyfle i brofi unrhyw gynnig arall.

 

Diolchodd y Cynghorydd Parry i'r Cabinet am ddarllen yr ymatebion ac anogodd aelodau i feddwl yn ofalus am y cynnig i gau ysgol bentref ffyniannus.  Wrth wneud yr argymhellion dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams na chymerwyd y penderfyniad i argymell cau’r ysgol yn ysgafn ac roedd ganddo lawer o empathi gyda'r ysgol ond roedd yn credu mai dyma’r opsiwn gorau ar gyfer dyfodol addysg disgyblion yn Sir Ddinbych.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Rhewl, a

 

(b)       chymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor yr adeiladau ysgol newydd.

 

Ar y pwynt hwn (4.30pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: