Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r cynigion statudol gofynnol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal newydd.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016; ac i’r Eglwys yng Nghymru sefydlu Ysgol Ardal Wirfoddol a Reolir newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016, ac

 

(c)        nodi’r opsiwn i rieni wneud cais i anfon eu plant i Ysgol Pen Barras fel ysgol arall pe baent yn dymuno i’w plant aros o fewn ysgol Categori 1.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn a gofyn am gefnogaeth y Cabinet i gyhoeddi’r cynigion statudol gofynnol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal newydd.   Y cynnig yw y bydd yr ysgol ardal newydd yn Ysgol Wirfoddol dan Reolaeth yr Eglwys yng Nghymru (dwy ffrwd) Categori Iaith 2.  Byddai’r ysgol ardal newydd yn defnyddio safleoedd presennol hyd nes oedd wedi’i chyfuno ar un safle mewn adeilad newydd.

 

Eglurodd y Cynghorydd Williams gyd-destun y cynnig fel rhan o'r adolygiad ysgolion ardal Rhuthun ehangach i ddiogelu cynaliadwyedd darpariaeth addysg yn yr ardal yn y dyfodol.  Prif faes y gynnen oedd categoreiddio arfaethedig yr ysgol newydd.  Cefnogodd mwyafrif o ymatebwyr yr ymgynghoriad o Ysgol Llanfair ysgol Categori 2 tra roedd ymatebwyr o Ysgol Pentrecelyn eisiau Categori 1 (cyfrwng Cymraeg).  Wrth ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd yn bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion teuluoedd Cymraeg a Saesneg eu hiaith.  Roedd perygl y byddai rhieni o gartrefi teuluoedd di-Gymraeg yn dewis anfon disgyblion i ysgolion cyfrwng Saesneg os oedd yr ysgol ardal newydd yn Gategori 1. O ganlyniad, ystyriodd y Cynghorydd Williams mai Categori 2 oedd yr opsiwn gorau ar gyfer cynnal ac o bosibl cynyddu nifer y disgyblion sy’n cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith.  Roedd gan y ddwy ysgol ethos a diwylliant Cymraeg cryf gyda phob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith ac roedd yn hyderus y byddai hyn yn parhau yn yr ysgol ardal newydd.

 

Ystyriodd y Cabinet yr ymatebion i'r ymgynghoriad a dadleuon ynghylch y cynnig a gofynnwyd am eglurhad am ddiffiniadau categoreiddio iaith o fewn ysgolion a chanlyniadau disgwyliedig.  Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch dynodiad crefyddol, buddsoddi cyfalaf a goblygiadau ariannol; ynghyd â hyfywedd yr ysgol arfaethedig pe bai rhieni yn boicotio’r ysgol ardal newydd.  Fel aelod lleol dywedodd yr Arweinydd am ei gysylltiadau personol gyda'r ddwy gymuned a llwyddiant y ddwy ysgol.  Tynnodd sylw at bwysigrwydd pwyso a mesur yr holl wybodaeth a gyflwynwyd er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau posibl ar gyfer darparu addysg yn yr ardal.  Cododd gwestiynau hefyd ynglŷn ag ethos yr ysgol newydd a'r rhesymau dros beidio dilyn opsiynau eraill a awgrymwyd ar gyfer darpariaeth leol.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd -

 

·         esboniwyd cyd-destun y broses gategoreiddio a chyfeiriwyd at ddogfen arweiniad Llywodraeth Cymru (2007) er mwyn diffinio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  Cyfeiriwyd hefyd at Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru (2010) o ran addysg ddwyieithog.  Nodwyd bod disgyblion ffrwd Gymraeg mewn ysgolion Categori 2 yn gorfod cyflawni'r un canlyniadau â disgyblion mewn ysgolion Categori 1.  Roedd y rhan fwyaf o ddisgyblion o Ysgol Llanfair yn trosglwyddo i'r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol uwchradd.  Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg gyda'r nod o bob disgybl yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y ddwy iaith - roedd yn cefnogi ysgol Categori 2 i hwyluso'r broses hon

·         roedd yr ymgynghoriad wedi'i gynnal mewn partneriaeth ag Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru, Llanelwy oedd yn cefnogi'r cynnig ar gyfer ysgol Categori 2 a Reolir yn Wirfoddol gan yr Eglwys yng Nghymru

·         o ran cynaliadwyedd ysgol ardal yn y dyfodol dywedodd swyddogion os oedd holl rieni o Ysgol Pentrecelyn (35 o ddisgyblion) yn ceisio darpariaeth Categori 1 yn y dyfodol byddai’r ysgol yn dal yn gynnig ymarferol.  Roedd Ysgol Llanfair (94 o ddisgyblion) yn cefnogi ysgol Categori 2 a byddai perygl mawr o ran hyfywedd os byddai’r cynnig yn newid i Gategori 1.

·         pe bai rhieni yn dymuno anfon eu plant i’r ysgol Categori 1 amgen agosaf, gellid datblygu capasiti yn adeilad yr ysgol newydd ar gyfer Ysgol Pen Barras a byddai ceisiadau’n cael eu hystyried yn unol â pholisi derbyn

·         tynnwyd sylw'r aelodau at baragraff 4.9 o fewn yr adroddiad yn manylu ar y trefniadau llywodraethu a'r trefniadau diogelu i sicrhau ethos cryf presennol a chedwid statws i'r Gymraeg yn yr ysgol newydd.

·         roedd swyddogion yn ymhelaethu ar yr opsiynau a gyflwynwyd gan Ysgol Pentrecelyn a pham eu bod wedi cael eu diystyru fel yr opsiwn gorau ar gyfer yr ardal.

 

Roedd y Cynghorydd Arwel Roberts yn siarad o blaid dynodiad Categori 1 ar gyfer yr ysgol ardal newydd.  Teimlai bod dyfodol y Gymraeg o dan fygythiad a byddai'r cynnig categoreiddio iaith yn groes i Strategaeth Addysg Llywodraeth Cymru.  Cododd gwestiynau hefyd ynglŷn â chanlyniadau cludiant ysgol a disgyblion.  Roedd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts yn awyddus am gyfaddawd derbyniol i’r ddwy ysgol ac wedi codi cwestiynau ynghylch y prosesau statudol a'r categoreiddio iaith.  Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Davies am eglurhad pellach ar nifer o'r pwyntiau a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad.  Darparwyd yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd -

 

·         ategwyd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig ar gyfer ysgol Categori 2 fel modd o ehangu'r iaith Gymraeg

·         cydnabuwyd y byddai newid mewn arweinyddiaeth bob amser yn risg ond rhoddwyd sicrwydd o ran mesurau ar waith i ddiogelu yn erbyn gwanhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ardal newydd yn y dyfodol

·         esboniwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer darparu cludiant ysgol, yn enwedig o ran categorïau iaith ac ysgol ffydd

·         esboniwyd y broses statudol pe bai’r Cabinet yn penderfynu cyhoeddi'r hysbysiad i gau ysgol – roedd perygl y gallai unrhyw her yn y dyfodol gael effaith negyddol ar y potensial i adeiladu ysgol ardal newydd

·         ni ystyriwyd bod dynodi'r ysgol ardal newydd yn ysgol Eglwys yn risg gydag ychydig o wrthwynebiad i'r elfen honno o'r cynnig

·         darparwyd ymateb i'r holl bwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i’r gwahanol gategorïau ysgolion mewn adolygiadau ardal eraill

·         Adroddodd y Cynghorydd Huw Jones ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg a sut roedd Sir Ddinbych yn anelu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y sir – darparodd rai ystadegau i ddangos y cynnydd mewn safonau Cymraeg o fewn ysgolion dros y blynyddoedd diwethaf.

 

Ar ôl ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad a'r ymatebion i faterion a godwyd, ac o gofio nad oedd dim gwahaniaeth yn y canlyniadau ar gyfer disgyblion yn y ddwy ysgol, cefnogodd y Cabinet y cynnig fel ffordd o sicrhau’r ddarpariaeth addysg orau posibl ar gyfer disgyblion yn yr ardal.  Diolchodd yr Arweinydd i'r aelodau am eu cyfraniad i'r drafodaeth gan dynnu sylw at yr angen i gefnogi'r Gymraeg a'i gwneud yn hygyrch i bawb drwy ddarparu cyfle i siaradwyr di-Gymraeg i ddysgu.  Ni all y Cyngor gynnal y nifer presennol o ysgolion o fewn y sir ac roedd ganddo ddyletswydd i sicrhau darpariaeth addysg gorau posibl o fewn yr ardal.  Roedd yn gobeithio y byddai creu ysgol ardal newydd yn dwyn y ddwy gymuned ynghyd i'r perwyl hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016; ac i’r Eglwys yng Nghymru sefydlu Ysgol Ardal Wirfoddol a Reolir newydd ar y safleoedd presennol o 1 Medi 2016, a

 

(c)        nodi’r opsiwn i rieni wneud cais i anfon eu plant i Ysgol Pen Barras fel ysgol arall pe baent yn dymuno i’w plant aros o fewn ysgol Categori 1.

 

Ar y pwynt hwn (3.40pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: