Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIOGELWCH BWYD, SAFONAU A CHAFFAEL - DIWEDDARIAD

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi yn amgaëdig) sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnydd wnaed yn erbyn argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Diogelwch Bwyd

 

10:45am – 11:30am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd yr adroddiad a rhoddodd y Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd fanylion am y gwaith a oedd wedi ei wneud o fewn y deuddeg mis diwethaf o ran yr agwedd reoliadol o ddiogelwch bwyd a safonau ac i wella caffael a rheoli contractau ymarferion caffael bwyd y Cyngor ei hun ar gyfer y gwahanol sefydliadau y mae'n ei weithredu.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol ei fod mynd gyda swyddogion diogelwch bwyd a safonau masnach ar rai o'u hymweliadau, gan gynnwys ymweliadau â ffreuturau ysgol.  Roedd wedi cael argraff dda iawn gan drylwyredd eu gwaith a'u proffesiynoldeb wrth gynnal eu gwaith o ddydd i ddydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd:

·         mae’n ofyniad statudol i fannau gwerthu bwyd arddangos eu sgôr hylendid bwyd (sef y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd). Gall methu cydymffurfio â hyn arwain at Rybudd Cosb Benodedig;

·         Roedd pob man gwerthu bwyd, boed yn breifat neu gyhoeddus, yn destun arolygiadau hylendid bwyd a safonau;

·         dyletswydd pob busnes unigol oedd cofrestru'r ffaith eu bod yn gwerthu bwyd neu ddiod gyda'r awdurdod lleol.  Byddai swyddogion fel mater o drefn, fel rhan o'u hymweliadau â busnesau eraill, yn cadw llygad am allfeydd newydd sy'n gweithredu yn yr ardal a gwirio cofnodion y Cyngor i sicrhau eu bod wedi cofrestru.  Os yw'n amlwg nad oedd ganddynt, byddai’r busnes yn cael eu cysylltu i'w cefnogi gyda’r broses honno neu brosesau cysylltiedig eraill;

·         Byddai busnesau sy'n sgorio sgôr hylendid bwyd o 1 neu 2 yn cael ei rhoi mewn categori 'risg uwch' ac felly angen mwy o gymorth i wella eu sgôr.  Roedd swyddogion safonau bwyd yn mabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at y busnesau hyn a byddai'n cynnig cyngor a chefnogaeth i'w helpu i wella mewn pryd ar gyfer yr arolygiad dilynol.  Croesawodd y rhan fwyaf o fusnesau'r gefnogaeth a roddwyd gan ei fod er eu lles i wella eu 'sgoriau'.  Roedd amseriad yr arolygiadau dilynol yn ddibynnol ar natur y broblem y tu ôl i'r sgôr cychwynnol a'r amser sydd ei angen i’w gywiro h.y. diffyg glendid neu angen newid hen offer.  Byddai digon o amser yn cael ei roi i ddatrys problemau a nodwyd;

·         Byddai ymweliadau dilynol ac ati yn cael eu cynnwys yng nghynllun busnes y Gwasanaeth gan fod disgwyl i swyddogion ymgymryd â chanran benodol o ymweliadau o'r fath bob blwyddyn

·         cynhaliwyd ymweliadau hylendid bwyd yn ddirybudd bob yn hyn a hyn yn dibynnu ar y categori risg a roddwyd i'r busnes, a all fod rhwng 6 mis ar gyfer Categori A a 24 mis ar gyfer Categori D. Eithriad oedd hi i'r perchennog busnes wrthod mynediad i arolygydd hylendid/safonau bwyd. Os oeddent yn gwrthod y prif reswm oedd diffyg dealltwriaeth ac unwaith yr eglurwyd y sefyllfa iddynt roeddent yn caniatáu i’r ymweliad fynd rhagddo;

·         Pe bai angen i gynhyrchydd bwyd arbenigol fod yn bresennol yn ystod arolygiad byddai’r ymweliad wedyn yn cael ei threfnu ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod yr holl staff perthnasol wrth law;

·         roedd yr arolygwyr hylendid bwyd yn gweithio ar draws y sir, ond roeddent yn blaenoriaethu eu gwaith fesul ardal er mwyn lleihau costau teithio ac ati. Fodd bynnag, os oeddent mewn ardal yn ymateb i gŵyn efallai y byddant hefyd yn ymgymryd â nifer o arolygiadau arferol yn yr un ardal er mwyn bod yn gost effeithiol;

·         Roedd ffeiriau teithiol ac allfeydd bwyd symudol yn cael eu rheoli gan yr un rheoliadau hylendid a diogelwch bwyd.  Roedd y busnesau hyn wedi eu cofrestru gydag 'awdurdod cartref' y perchennog busnes, fodd bynnag, nid oedd hyn yn gwahardd unrhyw awdurdod yr oeddent yn ymweld ag o rhag eu harolygu neu ddelio ag unrhyw gwynion a dderbyniwyd;

·         byddent yn gwirio ac yn adrodd yn ôl i'r aelodau ar y tendr a'r broses diwydrwydd dyladwy a ddefnyddiwyd gyda chontract Gwasanaeth Arlwyo’r Cyngor a ddyfarnwyd i Hughes Meats Bangor;

·         mewn perthynas â sgoriau hylendid isel a roddwyd i ddau ysbyty yn y Sir dros y misoedd diwethaf, dywedwyd bod y Bwrdd Iechyd yn awyddus i weithio gyda swyddogion i ddatrys y problemau a nodwyd.  Cadarnhawyd bod gan y Cyngor y staff angenrheidiol i gefnogi'r gwaith hwn.

 

Gan fod y sgoriau hylendid isel hyn mewn ysbytai lleol yn achosi pryder i drigolion gofynnodd y Pwyllgor am gael copïau o'r adroddiadau arolygu a nodyn briffio ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddatrys y problemau.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth gofynnodd y Pwyllgor i'r Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd a'r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd i gyfleu gwerthfawrogiad yr aelodau i staff y Gwasanaeth am eu gwaith caled a'u hymdrechion yn y maes hwn.  Felly:

 

Penderfynwyd:

 

 (i) yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn pob un o'r argymhellion yn yr Adroddiad Grŵp Tasg a Gorffen; a

 (ii) bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ymhen deuddeng mis ar y cynnydd a wnaed yn ystod 2015/16 gyda diogelwch bwyd, safonau a chaffael. 

 

Dogfennau ategol: