Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CASGLIADAU AC ARGYMHELLION Y GRWP TASG A GORFFEN TAI FFORDDIADWY

I ystyried adroddiad gan y Rheolowr Cynllunio Strategol a Thai (copi yn amgaeëdig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chynnig sylwadau ar ganfyddiadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy

 

9:40am – 10:30am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd yr adroddiad a oedd yn cynnwys casgliadau ac argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen.  Eglurodd fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn Adroddiad Gwella Blynyddol y Cyngor Mai 2014 ar yr angen i'r Awdurdod i egluro ei ymagwedd tuag at ddarparu tai fforddiadwy.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Grŵp Tasg a Gorffen wedi gwneud cyfanswm o 20 o argymhellion, roedd manylion pob un ohonynt yn yr adroddiad.  Roedd materion a godwyd gan aelodau mewn sesiwn Briffio'r Cyngor yn ddiweddar lle trafodwyd adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen (TaG) wedi eu rhestru yn Atodiad II, ynghyd â'r argymhellion perthnasol yn yr adroddiad a fyddai'n mynd i'r afael â'r materion hyn.  Er byddai'r argymhellion gan waith y Grŵp Tasg a Gorffen yn cael eu defnyddio i lywio'r strategaeth dai ddrafft newydd, a byddai'n ffurfio rhan o'r cynllun darparu ar gyfer y strategaeth honno, roedd rhai camau gweithredu eisoes wedi eu cychwyn gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phroblemau a nodwyd e.e. deddfwriaeth oedd gan  Lywodraeth Cymru ar y gweill a chanllawiau o ran caniatáu adolygiadau rhannol o Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl), roedd Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) wedi cael eu cyflwyno a'u cymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor o ran caniatáu trosi adeiladau gwledig segur ar gyfer tai ar y farchnad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol dros Barth y Cyhoedd a’r Swyddogion:

·         roedd yn rhaid i'r Cyngor gynnal adolygiad cynhwysfawr o'i CDLl bedair blynedd ar ôl ei fabwysiadu.  Byddai angen gwneud adolygiad Sir Ddinbych yn 2017;

·         Roedd yr arwyddion diweddaraf gan LlC yn awgrymu dylai'r ddeddfwriaeth sydd ei angen i ganiatáu adolygiadau rhannol fod yn ei lle rywbryd yn ystod haf 2015, ac y byddai'r canllawiau cysylltiedig ar gael ar yr un pryd.  Byddai hyn, gobeithio, yn galluogi'r Cyngor i weithredu rhai o argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen;

·         Roedd y broses sy'n ymwneud â gwneud cais a chaniatáu ceisiadau cynllunio mewn pentrefannau yn hynod feichus, fodd bynnag, efallai gellir adolygu’r broses hon fel rhan o'r adolygiad rhannol - yn amodol ar ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth newydd;

·         byddai'r Strategaeth Dai newydd, a fyddai'n cael ei chyflwyno i'r pwyllgor archwilio ym mis Medi a'r Cyngor llawn ym mis Hydref 2015, â phum prif thema.  Tai Fforddiadwy fyddai ail thema’r Strategaeth, ond byddai materion yn ymwneud â thai fforddiadwy hefyd yn ymddangos yn y rhan fwyaf o'r chwe thema;

·         mewn perthynas â bancio tir, ni ellid newid terfynau amser ar gyfer datblygu safle yn dilyn caniatâd cynllunio yn lleol.  Roedd y rheolau mewn perthynas â hyn yn destun deddfwriaeth LlC.  Byddai'n rhy hwyr nawr i wneud sylwadau mewn perthynas â diwygio'r terfynau amser fel rhan o'r ymgynghoriad ar y Mesur Cynllunio newydd.  Fodd bynnag, byddai'r Cyngor yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater;

·         byddai'r Pennaeth Cyllid ac Asedau Dros Dro newydd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer gwireddu'r gwerth gorau posibl i'r Cyngor ar gyfer ail-fuddsoddi'r £500K a amcangyfrifwyd i gael ei wireddu ar ôl ymadawiad y Cyngor o’r system Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS) – byddai’r opsiynau a fyddai'n cael eu hystyried yn cynnwys adeiladu tai cyngor newydd (o bosibl mewn partneriaeth gyda thrydydd parti); gwneud gwaith gwella pellach ar stoc tai presennol y Cyngor (e.e. gwaith allanol neu amgylcheddol - gwaith nad oedd yn dod o dan y cynllun Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), gan ddefnyddio'r arian a arbedwyd at y diben o dynnu i lawr arian allanol ac ati);

·         Roedd gwaith wedi dechrau ar adolygiad o ddaliadau tir y Cyngor i asesu a oedd unrhyw daliadau wedi eu lleoli mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf am dai fforddiadwy.  Yn y dyfodol byddai angen gwneud gwaith mewn partneriaeth â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i nodi a oedd ganddynt unrhyw daliadau tir a fyddai'n addas ar gyfer datblygu tai fforddiadwy.  Byddai angen trafodaeth fanwl ac adeiladol gyda phob parti pe bai tir i’w sicrhau ar gyfer tai fforddiadwy, gan yn y mwyafrif o achosion, ni fyddai tir a glustnodwyd ar gyfer y math yma o dai yn gwireddu ei werth llawn ar y farchnad agored;

·         Byddai’r Cynllun Gweithredu Tai Fforddiadwy, a ddatblygwyd gyda’r bwriad o gyflawni argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen, a oedd yn cynnwys dyddiadau targed ar gyfer cyflawni pob argymhelliad, yn ffurfio rhan o Strategaeth Tai cyffredinol y Cyngor maes o law

 

Pwysleisiodd y Cynghorwyr:

§  Dylai’r ddarpariaeth tai fforddiadwy yn y dyfodol gynnwys cymysgedd o anheddau dwy a thair ystafell wely i deuluoedd a fyddai'n darparu cyfleoedd i deuluoedd i symud i fyny'r ysgol dai a galluogi deiliaid tai tro cyntaf i gael troed ar yr ysgol dai, boed yn denantiaid, yn rhannu perchnogaeth neu yn berchnogion preswyl;

§  yr angen am unrhyw dai cymdeithasol sy'n cael ei hadeiladu yn y dyfodol i gynnwys cafeat eu bod wedi'u heithrio rhag unrhyw gynllun 'hawl i brynu' er mwyn lleihau'r risg o brinder tai o'r fath yn y tymor canolig i'r tymor hir;

§  yr angen i ganolbwyntio ar anghenion tai trigolion a'r agwedd gwerth am arian i drethdalwyr - byddai buddsoddi mewn tai fforddiadwy o ansawdd da ar gyfer rhai o drigolion mwyaf diamddiffyn y Sir yn y tymor hir yn dod â manteision ariannol i'r Cyngor, gan y byddai llai o arian trethdalwyr yn cael ei ddefnyddio i ychwanegu at renti gormodol yn y sector preifat drwy Fudd-dal Tai;

§  yr angen i godi ymwybyddiaeth o'r gofrestr tai fforddiadwy a'r broses ar gyfer cofrestru heb godi disgwyliadau pobl.  Dywedodd y swyddogion eu bod ar hyn o bryd yn gweithio gyda gwerthwyr tai ac awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru i ddatblygu dull mwy syml i'r broses hon, gyda golwg ar osgoi dyblygu a'r angen i lenwi ffurflenni cofrestru hir tan yn llawer hwyrach yn y broses ddyrannu

 

Dywedodd Cynghorwyr a oedd wedi bod yn aelodau o’r Grŵp Tasg a Gorffen pa mor dda roedd yr aelodau a'r swyddogion wedi gweithio gyda'i gilydd yn ystod yr adolygiad hwn, roedd wedi bod yn broses wirioneddol gwerth chweil ac adeiladol.  Maent yn awr yn gobeithio y gellid cadw’r momentwm ac y gellid darparu’r argymhellion cyn gynted â phosibl er budd y trigolion.  Cytunodd y swyddogion i anfon nodyn briffio i’r aelodau yn eu diweddaru ar y cynnydd hyd yma gyda chyflawni'r Cynllun Gweithredu Tai Fforddiadwy, a chytunodd yr aelodau dylai’r Strategaeth Tai ddrafft gael ei chyflwyno i'r Pwyllgor i'w archwilio ym mis Medi 2015. Felly:

 

Penderfynwyd: 

 (i) yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y casgliadau a'r argymhellion a gyflwynwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy; a

 (ii) cyflwyno Strategaeth Tai ddrafft y Cyngor i'r Pwyllgor i'w archwilio yn ei gyfarfod ym mis Medi 2015, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo a’i fabwysiadu ym mis Hydref 2015

 

Dogfennau ategol: