Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SAC 2014/15

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol, sy'n crynhoi'r canfyddiadau allweddol o Adroddiad Gwella Blynyddol SAC ynghylch trefniadau cynllunio ac adrodd Sir Ddinbych er mwyn bodloni dyletswyddau gwelliant parhaus statudol (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad, a oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17, wedi ei ddosbarthu eisoes.

         

Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr adroddiad a oedd yn crynhoi canfyddiadau allweddol Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ynglŷn â threfniadau cynllunio ac adrodd Sir Ddinbych er mwyn cyflawni dyletswyddau gwelliant parhaus statudol.  Hysbysodd yr adroddiad y Pwyllgor o Gasgliad a Chynigion Gwella Swyddfa Archwilio Cymru.    Y casgliad cyffredinol oedd:-

 

“Parhaodd y Cyngor i wneud cynnydd o ran cyflawni gwelliannau ym mhob un o'i amcanion blaenoriaeth ac mae ei hanes o ran cyflawni ei amcanion ariannol yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i sicrhau gwelliant parhaus yn 2015-16.”

 

Ni chafwyd unrhyw argymhellion ffurfiol a dim ond dau Gynnig Gwella oedd wedi'u gwneud.  Esboniwyd y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn disgwyl i’w hargymhellion gael eu gweithredu, ac roedd y cynigion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.  Roedd rhestr o gasgliadau allweddol o amrywiol gyrff archwilio wedi’u rhestru o Dudalen 8 o'r adroddiad, ac roeddent yn cynnwys y meysydd Perfformiad, Defnydd o Adnoddau, Llywodraethu, Cynllunio Gwelliant ac Archwiliadau Adrodd, ac Archwilio Cyfrifon.  Cafodd y negeseuon allweddol eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) grynodeb manwl o'r materion a'r meysydd canlynol: -

 

·                 Cyfranwyr Asesu Perfformiad.

·                 Canfyddiadau Asesu Perfformiad.

·                 Adnoddau Defnyddwyr.

·                 Llywodraethu.

·                 Cynigion ar gyfer Gwella.

·                 Casgliad Cyffredinol.

 

Cafodd y ddau gynnig ar gyfer gwella eu hamlygu gan gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn argymell y dylai'r Cyngor: -

 

·                 Sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau yn glir ar gyfer cyflawni’r amcan tai fforddiadwy newydd.

·                 Adolygu ei arferion gwaith yn erbyn yr argymhellion yn Adroddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Leol 2014-15 yr Archwilydd Cyffredinol, a gweithredu gwelliannau yn ôl yr angen

 

Cododd Aelodau y materion canlynol a darparwyd ymatebion perthnasol:- 

 

-                  Eglurodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru nad yw archwilio perfformiad mewn perthynas â darparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi’i gynnwys yn rhaglen waith Swyddfa Archwilio Cymru.  Fodd bynnag, cadarnhaodd y gellid codi'r mater gyda swyddogion AGGCC, neu eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu perthnasol i'w hystyried.  Cytunodd y Cadeirydd i godi'r mater yng nghyfarfod Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio.

-                  Mewn ymateb i gwestiynau’n ymwneud â chywirdeb ffigurau a ddarparwyd mewn perthynas â darparu Tai Fforddiadwy yn Sir Ddinbych, darparodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru fanylion y ffigurau ar gyfer 2014/15. Esboniodd ei bod yn glodwiw bod y broblem wedi cael ei nodi gan Sir Ddinbych a oedd wedi bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru.  Cyfeiriwyd at y cyfraniad sylweddol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru tuag at dai fforddiadwy a'r Diwygiad Cymhorthdal ​​Refeniw Tai.  Cyfeiriodd yr HLHRDS at adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen a oedd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet.  Byddai hyn yn cael ei gwmpasu yn y Strategaeth Dai a'r Cynllun Cyflawni cyn ceisio cymeradwyaeth yn dilyn arweiniad gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio ynghylch y broses, a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn cael ei ddiweddaru o ran cynnydd yn y dyfodol.

-                  Ymatebodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru i gwestiwn gan y Cynghorydd J.A.  Davies ynghylch gofalu am gleifion a gaiff eu rhyddhau o'r ysbyty.  Eglurodd fod crynodeb o Adroddiad Blynyddol AGGCC, sy’n rhoi manylion am y gwaith a wnaed, wedi’i ddarparu, a bydd yr Adroddiad Blynyddol nesaf, gan gynnwys adroddiad cynnydd, yn cael ei drefnu ar gyfer ei gyflwyno yn yr hydref.

-                  Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion yn Atodiad 5. Eglurodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, er nad oedd unrhyw rwymedigaeth i'w derbyn, y byddai SAC yn ceisio tystiolaeth bod yr argymhellion wedi cael eu hystyried.  O ystyried natur pwysig y materion a godwyd, teimlai'r Cadeirydd y byddai'n briodol i ddarparu rhesymau dros achosion o ddiffyg derbyn.  Gofynnodd hefyd am gael tystiolaeth ynghylch y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r argymhellion.  Darparodd yr HBIM sicrwydd bod yr argymhellion wedi cael ystyriaeth o ddifrif, a bod Penaethiaid Gwasanaeth wedi ymgynghori ar astudiaethau cenedlaethol.  Amlinellodd y gweithdrefnau a fabwysiadwyd ar gyfer ymdrin ag argymhellion, a goblygiadau astudiaethau cenedlaethol, a chadarnhaodd y byddai adroddiad cryno yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Medi.

-                  Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cadarnhaodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru ei fod yn teimlo bod trefniadau rheoli risg y Cyngor yn gadarn ac yn addas at y diben.

 

Nododd y Pwyllgor y Casgliadau, y Cynigion Gwella, a’r Canfyddiadau Allweddol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.  Byddai Cynlluniau Olrhain o ran y Cynigion Gwella yn cael ei hadrodd yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o ymateb y Cyngor cyfan i'r Gwelliant Blynyddol.  Hysbyswyd y Pwyllgor fod ymateb y Cyngor yn cael ei gydlynu gan y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad, a gofynnwyd am ymateb gan y gwasanaethau i ardaloedd perthnasol erbyn diwedd mis Gorffennaf, 2015, cyn ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Medi, 2015.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol: -

 

(a)                yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r casgliadau, y cynigion gwella, a chanfyddiadau allweddol adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

(b)                yn cefnogi’r gwaith o sefydlu Cynlluniau ar gyfer olrhain y Cynigion Gwella.

(c)                yn nodi bod y Cynlluniau yn cael eu hadrodd yn ôl i Swyddfa Archwilio Cymru fel rhan o ymateb y Cyngor cyfan i'r Gwelliant Blynyddol.

(d)                     yn gofyn i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd fonitro’r mecanwaith o ran dilyn y Strategaeth Tai a Pholisi Tai Fforddiadwy, ac

(e)                     yn cytuno bod y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio yn mynd ar drywydd ac yn hyrwyddo'r argymhellion cenedlaethol fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

                  (GW, AS i Weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: