Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED, Y SECTOR GWIRFODDOL A’R TRYDYDD SECTOR YN SIR DDINBYCH

Trafodaeth gyda chynrychiolwyr o Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych am eu rôl wrth hybu a chefnogi ymwneud cymunedol, a gan y sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn y sir.

9:35am – 10:45am 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych, o Bartneriaeth Arfordirol y Rhyl ac o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i'r cyfarfod i roi cyflwyniad byr ynglŷn â’u sefydliadau a’u swyddogaeth wrth hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad cymunedol, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn y sir.  Roedd copïau o sleidiau’r cyflwyniad yn amlinellu gwaith y tri chorff a’r grwpiau sydd wedi elwa o ganlyniad i’w gwaith wedi eu cyhoeddi fel rhan o bapurau’r Pwyllgor.  Cafwyd trosolwg o’r gwaith y mae Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl yn ei wneud i reoli a gweinyddu'r arian cymunedol sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol RWE Innogy UK Ltd. (arian Ffermydd Gwynt Gogledd Hoyle a Gwastadeddau’r Rhyl), gan gynnwys cyhoeddusrwydd ynglŷn â’r gronfa, y broses o ymgeisio a dyfarnu, y sefydliadau sydd wedi elwa o’r gronfa a'r mathau o brosiectau a ariennir. 

 

Aeth y Cynrychiolwyr ati, mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, i:-

 

·ddweud eu bod yn croesawu ceisiadau gan bob math o brosiectau cymunedol ac ati a bod pob cais yn cael ei ystyried ar ei deilyngdod ei hun yn ôl meini prawf penodol;

·amlinellu aelodaeth Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl a dweud, yn amodol ar wirio cyfansoddiad y sefydliad a thrafod y mater gydag aelodaeth Partneriaeth Arfordirol y Rhyl, y byddai’r swyddogion yn ysgrifennu'n ffurfiol at y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor benodi Cynghorydd Sir i wasanaethu ar Bartneriaeth Arfordirol y Rhyl;

·ddweud fod Partneriaeth Arfordirol y Rhyl wedi dyfarnu arian i Asiantaeth Datblygu Cymunedol Sir Ddinbych i’w chefnogi hyd nes y byddai’n cau ym mis Mawrth 2015, a’u bod o fis Ebrill 2015 wedi sicrhau cytundeb gyda Chanolfan Wellington ar Ffordd Wellington i alluogi lleoli’r offer a arferai fod wedi'i leoli yn yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn Stryd Bodfor i fod yn hygyrch i’r cyhoedd eu defnyddio yng Nghanolfan Wellington.  Er bob trigolion bellach yn dod yn ymwybodol fod yr offer wedi symud lleoliad, roedd Partneriaeth Arfordirol y Rhyl hefyd yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i’r lleoliad newydd;

·gadarnhau eu bod wedi cysylltu â Chanolfan y Foryd mewn perthynas â chanfod cartref i hen offer yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol ac ati, ond na fu hynny'n llwyddiannus, a dyna pam eu bod yn awr wedi eu lleoli yng Nghanolfan Wellington.  Mynegodd Partneriaeth Arfordirol y Rhyl eu diolch i Ganolfan Wellington am eu cymorth.

 

Amlinellodd Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych beth yw swyddogaeth ei sefydliad.  Tynnodd sylw at yr ystod eang o sefydliadau sydd yn rhan o’r trydydd sector yn y Sir, yn amrywio o sefydliadau mawr sector cyhoeddus megis cymdeithasau tai i grwpiau bach lleol megis clybiau ar ôl ysgol annibynnol ac ati. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw mai’r hyn sydd yn eu hysgogi yw anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau:-

 

·hyd at ddiwedd mis Mawrth 2015 fod gan Gyngor Gwasanaethau  Gwirfoddol Sir Ddinbych 50 aelod o staff (rhan-amser a llawn amser) ac o 1 Ebrill, oherwydd toriadau yn y gyllideb, roedd nifer y staff wedi gostwng i 15 (neu i 7 cyfwerth ag amser llawn).  O blith y 7, câi 4 eu hariannu ar gyfer prosiectau penodol - un ohonynt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn golygu mai dim ond 3 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn sy’n weddill i ymdrin â’r holl waith arall, gan gynnwys gweinyddu a chefnogi grwpiau cymunedol i ganfod a gwneud ceisiadau am gyllid;

·roedd swyddog rhan-amser arall wedi ei ariannu'n rhannol gan y Cyngor at ddibenion prosiectau wedi eu hariannu gan ofal cymdeithasol.  Roedd y swyddog hwn a’r swyddog a ariennir gan y Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda'i gilydd;

·Ar hyn o bryd roedd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn y broses o hysbysebu a recriwtio am swyddog datblygu a llywodraethu a fyddai'n gweithio’n benodol gyda grwpiau ar draws y Sir i roi cyngor a chymorth gyda cheisiadau grant.  Edrychir ar y mathau hyn o rolau fel swyddi i ddod ag 'adenillion ar fuddsoddiad' gan fod y cyllid cymunedol sy’n cael ei dynnu i mewn i’r Sir gan swyddogion o'r fath yn llawer mwy na chyflog ac argostau cysylltiedig y gweithwyr;

·Oherwydd toriadau ariannol ar gyfer 2015/16 roedd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn gweithredu ar hyn o bryd â diffyg o £45 mil yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn gyfredol.  Roedd hyn wedi ei gymhlethu ymhellach yn sgil colli'r grant Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn o tua £1 mil gan y Cyngor Sir;

·Nid yw Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn darparu gwasanaethau yn uniongyrchol i ddefnyddwyr gwasanaeth h.y. rhoi cymorth i rai sy’n gadael gofal. Fodd bynnag, maent yn cefnogi sefydliadau ac asiantaethau sy'n darparu’r gwasanaethau hynny e.e. Gweithredu Dros Blant;

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol er nad oedd gan y Cyngor gyllid i ddarparu swyddi swyddogion dynodedig i gefnogi gwaith sefydliadau megis Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl, eu bod eisoes yn darparu cymorth i sefydliadau ar ffurf data perthnasol i gefnogi ceisiadau am gyllid ac ati.  Yn ogystal, daethpwyd at y Cyngor i weld os gallai’r Cyngor ryddhau amser swyddogion i wirio ceisiadau cyn eu cyflwyno. Roedd y cais hwn o dan ystyriaeth.

 

Anogwyd aelodau i amlygu bodolaeth cronfa newydd Fferm Wynt Gwynt y Môr i grwpiau cymunedol o fewn eu hardaloedd ac amlygu manteision posibl y gronfa a fydd yn cael ei lansio yn swyddogol yn yr haf.  Bydd y gronfa hon, a fydd yn cael ei rheoli a'i gweinyddu gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, gyda chyfranogiad Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn werth oddeutu £700 mil bob blwyddyn.  Mae disgwyl i’r meini prawf ymgeisio gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf, ond dylai mapiau sy'n dangos y cymunedau cymwys fod ar gael o fewn y ddeufis nesaf.  Efallai y bydd rhai sefydliadau’n dymuno ymgeisio am arian o'r gronfa hon i gyflogi cydlynydd ariannu cymunedol neu swydd o’r fath.  Awgrymodd yr Aelodau y gellid ariannu swyddi debyg fel rhan o'r Cynlluniau Tref ac Ardal mewn rhai ardaloedd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol am eu presenoldeb ac am ateb cwestiynau'r aelodau, gan ddweud ei bod yn gobeithio y gallai’r Cyngor a'r trydydd sector gydweithio â’i gilydd yn effeithiol yn y dyfodol er budd trigolion y sir.  Felly:

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn

 

(a)   Derbyn cyflwyniadau Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych, Partneriaeth Arfordirol y Rhyl a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, ac yn

(b)   eu gwahodd yn ôl i gyfarfod arall yn y dyfodol i drafod gweithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a sefydliadau cymunedol, gwirfoddol a'r trydydd sector ar draws y Sir.

 

 

Dogfennau ategol: