Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD

Nodi presenoldeb aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.

 

Cofnodion:

Adroddodd Aelodau'r Pwyllgor Safonau am eu presenoldeb mewn cyfarfodydd fel a ganlyn –

 

Ni adroddodd y Cynghorydd Barry Mellor unrhyw broblemau gyda chyfarfodydd y Cyngor Sir a’r Pwyllgor Cynllunio roedd wedi mynd iddynt yn ddiweddar.  Fodd bynnag, roedd presenoldeb gwael yn bryder yn rhai o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a oedd yn fater anodd i'w ddatrys.  Roedd cofnodion presenoldeb Cynghorwyr wedi eu dosbarthu’n ddiweddar i Arweinwyr y Grwpiau a’u rhannu gyda'u grwpiau ond wrth i ddiwedd tymor y Cyngor nesáu ac i’r uno symud ymlaen teimlai y gallai presenoldeb barhau i fod yn broblem.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Jones at ei bresenoldeb yng Nghyngor Cymuned Derwen yng Nghlawdd Newydd ar 16 Medi 2015. Roedd wedi derbyn y gwaith papur perthnasol ar gyfer y cyfarfod ar ôl cyrraedd ac roedd nifer dda yn bresennol yn y cyfarfod ac roedd cefnogaeth dda gan y Cynghorydd Sir lleol, Eryl Williams.  Cafwyd trafodaethau da trwy gydol y cyfarfod ar ystod o bynciau lleol ac roedd y clerc yn fedrus ac yn brofiadol iawn ac roedd y cyfarfod wedi rhedeg yn dda.

 

Darparodd yr Aelod Annibynnol Julia Hughes drosolwg manwl o saith cyfarfod unigol yr oedd wedi bod iddynt, a dyma grynodeb ohonynt -

 

Cyngor Cymuned Bryneglwys (1 Chwefror 2016) - roedd gan y Cadeirydd ffordd dda o gadeirio, gan sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr.  Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan yn y cyfarfod fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw.

 

Cyngor Cymuned Llandrillo (5 Chwefror 2016) - roedd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, wedi sicrhau bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr.  Roedd y Clerc yn barod iawn i helpu, yn effeithiol ac yn effeithlon ac yn cynorthwyo pawb a oedd yn bresennol.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr angen.

 

Cyngor Tref Corwen (10 Chwefror 2016) - Cafwyd cyfraniad ardderchog gan y Cynghorydd Sir lleol Huw Jones ar nifer o eitemau.  Sicrhaodd y Cadeirydd, gyda chymorth y Clerc, bod y cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth a bod eitemau’n cael sylw trylwyr ac roedd y Clerc yn effeithlon iawn.  Roedd pob aelod yn parchu ei gilydd ac yn cymryd rhan fel y bo'n briodol ac wedi helpu i sicrhau bod pob maes yn cael sylw ac wedi helpu cytuno ar gamau i'w cymryd ac yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am rai o'r camau hynny yn ôl yr angen.

 

Cyngor Cymuned Gwyddelwern (15 Chwefror 2016) – Roedd cyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal yn Gymraeg a darllenwyd nodiadau'r cyfarfod blaenorol, fel y nodwyd yn y llyfr cofnodion, heb fod unrhyw gopïau caled ar gael.  Yn dilyn y cyfarfod, eglurwyd bod eu gwefan yn cael ei datblygu.  Cafwyd trafodaeth am yr hyn y gallai'r cyhoedd edrych amdano yn ymwneud â chynghorau cymuned a chael safle dwyieithog a oedd yn hygyrch i bobl yn Gymraeg neu Saesneg.  Nid oedd yn glir a oedd hysbysfwrdd y pentref yn cael ei ddefnyddio i roi rhybudd o gyfarfodydd a’r rhaglen.  Amlygwyd pwysigrwydd hygyrchedd a thryloywder.  Cynhaliwyd cyfarfodydd yn y Gymraeg ac nid oeddent eisiau mynd drwy'r un materion â Chyngor Cymuned Cynwyd a byddent yn gwerthfawrogi rhywfaint o arweiniad pellach.  Cadarnhaodd Ms Hughes ei bod wedi e-bostio’r Swyddog Monitro a'r Dirprwy Swyddog Monitro mewn perthynas â hynny.

 

Cyngor Tref Llangollen (16 Chwefror 2016) - Roedd yn gyfarfod ffurfiol a phroffesiynol iawn gyda nifer o eitemau’n cael eu trafod a chytundebau trwy gynigion, eilio a phleidleisio.  Roedd y rhaglen ar PowerPoint ar y sgrin ac roedd adroddiad ysgrifenedig ar y sgrin ar gyfer pob eitem a lluniau fel y bo'n briodol.  Roedd rhaglen gyhoeddus a ffeil bapurau wedi’i argraffu ac yng nghefn yr ystafell.

 

Pwyllgor Cynllunio - Cyngor Sir Ddinbych (17 Chwefror 2016) - Roedd y cyfarfod i’w weld trwy'r ddolen gwe-ddarlledu byw ac roedd yn broffesiynol iawn ac wedi’i reoli'n dda gyda rheolaeth dda gan y Cadeirydd.  Roedd rhai problemau gyda'r llif yn dilyn y cyfieithiad Cymraeg ac o bryd i’w gilydd nid oedd y llif sain ar gyfer y Saesneg yn dychwelyd am gyfnod hir.  Adroddodd y Swyddog Monitro fod arddull tŷ’r cofnodion yn destun adolygiad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gallai hynny arwain at newidiadau.  Adroddodd hefyd ar gynlluniau i ymestyn a buddsoddi yng nghyfleusterau gwe-ddarlledu’r Cyngor a ddylai wella perfformiad.

 

Cyngor Cymuned Cynwyd (1 Mawrth 2016) - Iaith y cyngor oedd Cymraeg ond gallai'r Clerc neu unrhyw aelod o'r cyngor gyfieithu os oedd angen.  Canolbwyntiodd y rhan fwyaf o'r cyfarfod ar ddatblygu gwefan y cyngor.  Trafodwyd yr anawsterau o ran argraffu’r cofnodion yn y papur newydd cymunedol a'r gobaith y byddai modd ei ddatrys cyn gynted â phosibl.  Cyfeiriwyd hefyd at y gŵyn ac adroddiad dilynol yr Ombwdsmon y dylai'r cyngor hefyd ddarparu dogfennau yn Saesneg.  Roedd rhai materion yn parhau o ran datblygu gwefan y cyngor a hygyrchedd gwybodaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am eu hadborth a oedd wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chofnodi’r adroddiadau llafar oddi wrth aelodau a fu yn y cyfarfodydd.