Eitem ar yr agenda
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi
wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a
rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
10.55 a.m. – 11.10 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a ofynnodd i’r Pwyllgor adolygu a chytuno
ei Flaenraglen Waith a darparodd ddiweddariad ar faterion perthnasol gyda’r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cafodd copi o ‘ffurflen gynnig yr Aelodau’ ei gynnwys yn Atodiad 2.
Esboniodd y Cydlynydd Archwilio na fyddai unrhyw eitemau yn cael eu cynnwys ar
flaenraglen waith yn y dyfodol heb i ‘ffurflen cynnig Archwilio’ gael ei llenwi
a’i derbyn i’w chynnwys gan y Pwyllgor neu’r Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio. Roedd cymorth i’w llenwi ar gael gan y Cydlynydd
Archwilio.
Cafodd
Flaenraglen Waith y Cabinet ei chynnwys yn Atodiad 3, ac mae tabl yn crynhoi
penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn rhoi cyngor ar gynnydd o ran eu
gweithrediad, ynghlwm yn Atodiad 4.
Ystyriodd y Pwyllgor ei Flaenraglen ddrafft ar gyfer
cyfarfodydd i’r dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd y diwygiadau a’r ychwanegiadau
canlynol:-
12 Ebrill,
2016 (Cyfarfod Arbennig):-
-
Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd y cyfarfod a alwyd i
ystyried Dyfodol y Gwasanaethau Darparwyr Oedolion, a chanfyddiadau’r Grŵp
Gorchwyl a Gorffen mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Oedolion Mewnol.
Esboniodd y Pwyllgor Archwilio y byddai’n cysylltu ag Aelodau’r Pwyllgor i gael
cadarnhad a oeddent ar gael i fynychu’r cyfarfod. Esboniodd y Cynghorydd C.
Hughes nad oedd yn gallu cadarnhau ar hyn o bryd y byddai ar gael i fynychu’r
cyfarfod yn sgil ymrwymiadau gwaith.
28 Ebrill, 2016:-
-
Cytunodd y Pwyllgor i sesiwn gyfarwyddyd cyn y cyfarfod i
holl Aelodau’r Pwyllgor, cyn eu cyfarfod gyda swyddogion BT a Llywodraeth Cymru
mewn perthynas â Chyflwyno Band Eang yn Sir Ddinbych. Byddai’r sesiwn cyn y
cyfarfod yn rhoi cyfle i Aelodau nodi meysydd i’w cwestiynu yr oeddent yn
dymuno canolbwyntio arnynt yn ystod y cyfarfod. Gofynnodd yr Aelodau i amser
cychwyn y cyfarfod cyhoeddus gael ei aildrefnu o 9.30 a.m i 10.00 a.m. a bod y
sesiwn gyfarwyddyd cyn y cyfarfod yn dechrau am 9.00 a.m.
Amlinellodd y Prif Weithredwr ei bryderon mewn perthynas
â sut mae’r gwaith o Gyflwyno Band Eang yn dod yn ei flaen yn Sir Ddinbych.
Teimlai y dylid gofyn am fanylion yn nodi pa ardaloedd sydd wedi’u cwblhau,
cynlluniau i’r dyfodol a’r amserlenni priodol.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan yr Aelodau, cadarnhaodd y Pwyllgor
Archwilio y byddai’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn symud yn ei flaen y
gwaith o benodi Aelodau i’r swyddi gwag ar Aelodaeth y Pwyllgor. Esboniodd y
Cynghorydd J.R. Bartley y byddai’n barod i gyflwyno’i enw i’w Arweinydd
Grŵp ar gyfer un o’r swyddi gwag. Mewn ymateb i awgrym i ddefnyddio
Aelodau dirprwy, esboniodd y Pwyllgor Archwilio fod y Cyfansoddiad yn destun
adolygiad ar hyn o bryd.
Cyfarfu’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio ar 3 Mawrth 2016 ac ni chyfeiriwyd unrhyw faterion at y Pwyllgor.
Gofynnodd yr SC i’r Aelodau lenwi a chyflwyno’r Ffurflenni Holiadur
Hunanwerthuso a ddosbarthwyd yn ddiweddar. Pwysleisiwyd pwysigrwydd llenwi’r
ffurflenni, gan y byddai’r Cyngor, yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn destun
Asesiad Corfforaethol.
PENDERFYNWYD
– yn amodol ar y diwygiadau a’r cytundebau uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith
fel a osodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
Dogfennau ategol:
- FWP Report, Eitem 7. PDF 104 KB
- FWP App 1, Eitem 7. PDF 132 KB
- FWP App 2, Eitem 7. PDF 157 KB
- FWP App 3, Eitem 7. PDF 116 KB
- FWP App 4, Eitem 7. PDF 91 KB