Eitem ar yr agenda
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2016 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Perfformiad a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 28 Ionawr, 2016.
Materion yn codi:-
6. Cludiant Ysgolion Cynradd – holodd y Cynghorydd Arwel
Roberts ynghylch y sefyllfa bresennol mewn perthynas â’r ddarpariaeth cludiant
ysgol i blant o Ruddlan sy’n mynychu Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl. Roedd ei bryderon
yn gysylltiedig â’r ffaith fod disgwyl i gludiant am ddim gael ei dynnu’n ôl ar
ddiwedd tymor y gwanwyn a bod y rhieni’n parhau i aros i gael gwybod a fyddai
ganddynt hawl i gludiant, am ddim neu’n rhatach, o ddechrau tymor yr haf. Roedd
yn poeni hefyd nad oedd ef, fel un o’r aelodau lleol, yn cael gwybod am
faterion yn ymwneud â’r mater hwn ac, er gwaetha’r gefnogaeth ar draws y
pleidiau i’w argymhelliad yn y cyfarfod diwethaf bod y Cyngor yn defnyddio’i
bŵer diamod i drefnu teithio rhatach i’r disgyblion, does dim fel petai’n
digwydd.
Sicrhaodd y Cydlynydd Archwilio’r Aelodau fod yr argymhelliad a
gymeradwywyd yn y cyfarfod diwethaf wedi’i anfon ymlaen at y Pennaeth Addysg a
fyddai, maes o law, wrth gwblhau’r gwaith diogelwch y ffyrdd ar y llwybr ac ar
ôl cynnal yr asesiad diogelwch ffyrdd ar y llwybr ‘newydd’, yn ystyried
canfyddiadau’r asesiad ac argymhelliad y Pwyllgor mewn perthynas â’r mater hwn.
Os, yn dilyn y broses honno, yr ystyriwyd bod y llwybr yn ddiogel a bod gan
rieni bryderon ynghylch ei ddiogelwch o hyd, roedd ganddynt yr hawl i apelio i
Bennaeth y Gwasanaeth.
Nododd y Cynghorydd Roberts ei fod yn
dymuno i’r pwyllgor Archwilio edrych ar y mater eto. Gofynnodd y Cydlynydd
Archwilio iddo lenwi ‘ffurflen cynnig Archwilio’ i alluogi’r Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i ystyried ei gais. Awgrymodd y Prif
Weithredwr y gallai Archwilio ddymuno, os ystyrir bod y llwybr yn ddiogel,
ystyried effeithiolrwydd y trefniadau newydd maes o law.
Rhoddodd y Prif
Weithredwr wybod, mewn ymateb i bryderon yr Aelodau yn y cyfarfod diwethaf am y
llwybr penodol hwn, iddo ofyn bod asesiad diogelwch y ffyrdd yn cael ei
gomisiynu i sicrhau bod asesiad y Cyngor yn gywir. Calonogodd y Cynghorydd
Roberts a’r Pwyllgor y byddai Pwyllgor yr Aelodau Etholedig lleol yn cael
gwybod am ganlyniad yr asesiad diogelwch y ffyrdd ac unrhyw benderfyniad
cysylltiedig cyn y rhieni. Aeth ati hefyd i ymchwilio i’r honiad na fu
swyddogion yn fodlon i rannu gwybodaeth gydag aelodau lleol yn yr achos hwn, ac
adrodd nôl i’r aelodau ar y mater.
Calonogodd yr aelodau fel mater o gwrteisi, y byddai’r swyddogion yn
rhoi gwybod i’r aelodau lleol am faterion yn eu wardiau.
Gan ymateb i ymholiad ar y mater cludiant ysgolion uwchradd a gyfeiriwyd
gan y rhieni am Adolygiad Barnwrol, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod y
Cyngor wedi penderfynu datrys y mater y tu allan i’r llys gyda’r teulu dan
sylw. Pwysleisiodd nad oedd er lles y Cyngor i wneud i’r plant gerdded ar
lwybrau peryglus ac roedd llwybrau cludiant i’r ysgol yn cael eu hadolygu’n
gyson wrth i ffactorau newydd effeithio ar y llwybrau. Tynnodd sylw’r Aelodau hefyd
at y ffaith y byddai’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion yn cael ei adolygu’r
flwyddyn nesaf a rhoddodd wybod i’r Aelodau y dylent ei astudio’n ofalus i
sicrhau eu bod yn fodlon â’r grymoedd a ddirprwyir i’r swyddogion.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod y Cofnodion
yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel gwir gofnod.
Dogfennau ategol: