Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHESYMOLI LLWYBRAU GRAEANU RHAGOFALUS

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Rhwydwaith a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi ynghlwm) yn ceisio ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor ar newidiadau i’r llwybrau sydd wedi’u datblygu gyda’r bwriad o leihau costau graeanu rhagofalus.  

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad a luniwyd ar y cyd gan Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (PPGA) a’r Rheolwr Rhwydwaith (RhRh) wedi cael ei ddosbarthu ynghyd â'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn trafod sut y mae Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yn bwriadu lleihau nifer y milltiroedd a gaiff eu graenu fel mesur rhagofalus, a gymeradwywyd fel rhan o’r  broses Rhyddid a Hyblygrwydd.

 

Cyflwynodd Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol yr adroddiad a oedd yn nodi sut yr aethpwyd ati i ddatblygu’r lleihad hwn yn nifer y milltiroedd mewn ffordd resymegol a rhesymol, a rhoddodd sicrwydd y byddai’r mesurau yn cyflenwi’r arbedion gofynnol.

 

Cadarnhaodd y swyddogion y byddai angen arbed cyfanswm o £250 mil yng nghyllideb cynnal Priffyrdd ar gyfer 2015/16.  Roedd £60 mil posibl o’r holl arbedion wedi’u nodi drwy leihau nifer y llwybrau graeanu rhagofalus yn y Sir.  Roedd y llwybrau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad yn rhan o rwydwaith ffyrdd y Cyngor. Ni chafodd cefnffyrdd eu cynnwys gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol amdanynt, gan dalu’r Cyngor i’w graeanu ar ei rhan. Pwysleisiodd mai’r cynnig oedd dileu’r llwybrau a nodwyd o’r amserlen raeanu ragofalus. Caiff y llwybrau hyn eu graeanu pan fydd eira wedi disgyn neu pan fydd rhagolygon eira.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Adain: Rheoli Rhwydwaith fod mwyafrif y llwybrau dan sylw wedi’u lleoli yng ngogledd y Sir, gan fod llwybrau amgen ar gael i ddefnyddwyr y ffyrdd. Oherwydd diffyg llwybrau amgen addas yn ne’r Sir, nid oedd mor hawdd rhoi’r broses resymoli ar waith yno. 

 

Yn sgil newid yn y ddeddfwriaeth yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, rhaid i Awdurdodau Lleol gyhoeddi ymlaen llaw bellach pa lwybrau y maent yn bwriadu eu graeanu fel mesur rhagofalus yn ystod y gaeaf dilynol, felly dyna’r rheswm dros ymgynghori ar y cynigion hyn ar yr adeg hwn.

 

Tynnwyd sylw hefyd at y pwyntiau a ganlyn, sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad:-

 

·                 Yn ystod pob taith raeanu defnyddir 9 cerbyd i yrru cyfanswm o 850 cilometr a rhoddir halen ar 570 cilometr o’r ffyrdd.

 

·                 Roedd y newidiadau a gyflwynwyd i sicrhau’r canlyniadau gorau cyn tymor 2014/15 wedi arwain at rai cwynion gan y cyhoedd, felly byddai angen cynllunio a chydlynu’r ffordd y caiff y rhesymau dros y newidiadau eu cyfathrebu.

 

·                 Mae angen sicrhau gostyniad o tua 10% yn y llwybrau graeanu er mwyn cyrraedd lefel yr arbedion a nodwyd ar ffyrdd nad ydynt yn gefnffyrdd, yn dibynnu ar amodau’r tywydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau, dywedodd y swyddogion a’r Aelod Arweiniol unwaith y byddai’r penderfyniad terfynol wedi’i wneud i dynnu’r ffyrdd a nodwyd o restrau graeanu rhagofalus y Sir, y byddent yn rhoi gwybod i’r holl awdurdodau lleol cyfagos yr oedd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda hwy wrth raeanu ar draws ffiniau.  Dyma’r drefn arferol a byddai’n llywio’r trafodaethau arferol rhwng awdurdodau ynglŷn â threfniadau graeanu trawsffiniol. Byddai’r holl arbedion mewn perthynas â’r cynnig hwn yn dod o gostau’r halen/graean a fyddai’n cael ei arbed a chostau gweithredu’r cerbydau, ni fyddai unrhyw swyddi yn cael eu colli. Fodd bynnag, gallai gaeaf caled gael effaith andwyol ar yr arbedion arfaethedig.

 

O ran asesu risgiau wrth benderfynu ar y llwybrau graeanu, esboniwyd hefyd fod y swyddogion wedi ystyried y tebygolrwydd o ddamweiniau. Mewn perthynas â’r llwybrau a nodwyd ar gyfer eu tynnu o’r amserlen raeanu ragofalus, nid oedd y tebygolrwydd yn 'risg uchel', fe’i ystyriwyd yn risg ‘derbyniol’. Fodd bynnag, pe bai’n dod yn amlwg fod cyfradd uchel o ddamweiniau yn digwydd byddai hyn yn cael ei adrodd i Bennaeth y Gwasanaeth a byddai’n cynnal arolwg o’r risg a’r penderfyniad ar unwaith. 

 

Cytunodd y swyddogion y byddent yn dosbarthu’r cynigion a’r mapiau perthnasol i bob Grŵp Ardal Aelodau yn gofyn iddynt eu trafod cyn mis Gorffennaf 2015. Petai angen, byddai Swyddog Priffyrdd ar gael i ddod i gyfarfodydd y Grwpiau Ardal Aelodau i esbonio’r cynigion.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r adolygiad yn effeithio ar y gyrwyr yn unig.  Ni fyddai unrhyw effaith anghymesur ar unrhyw grwpiau â nodweddion gwarchodedig, a chyfeiriwyd yr Aelodau at gynnwys Atodiad 2.  Roedd manylion y broses ymgynghori a fabwysiadwyd, y risgiau posibl a’r mesurau i’w lliniaru, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth dilynol:-

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod a dosbarthu’r cynigion i Grwpiau Ardal Aelodau er gwybodaeth, bod y Pwyllgor Archwilio yn cymeradwyo’r newidiadau i’r llwybrau graenau rhagofalus.

 

 

Dogfennau ategol: