Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLEIDDIO MEYSYDD CARAFANNAU YN WELL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Datblygu (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) (copi ynghlwm) ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran datblygu strategaeth meysydd carafannau ar gyfer y Sir, a'i orfodi’n effeithiol trwy drafod â pherchnogion meysydd carafannau.  

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, a oedd yn deillio o bryderon yr Aelodau ynglŷn â’r defnydd tybiedig o feysydd carafannau gwyliau at ddefnydd preswyl a cholli incwm yn sgil hyn i’r Cyngor, wedi’i ddosbarthu ynghyd â’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad ac eglurodd fod cynllun peilot i asesu hyd a lled y broblem wedi amlygu cymhlethdod y gwaith a’r goblygiadau posibl o gyflwyno mesurau gorfodaeth llym, yn sydyn ar nifer o adrannau’r Cyngor ac ar unigolion a allai fod yn ‘byw’ ar rai meysydd. Roedd y cynllun peilot hefyd wedi amlygu bwlch yn y drefn arferol o rannu gwybodaeth rhwng cangen darparu gwasanaeth y Cyngor a’i wasanaethau rheoleiddio – dros amser, gall rhannu gwybodaeth fel mater o drefn osgoi gwaethygu’r broblem a chynorthwyo i gyfrifo ffigurau poblogaeth a oedd wedi effeithio ar swm y Grant Cynnal Refeniw a ddyfarnwyd i’r Cyngor.

 

O ganlyniad i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor, sef y dylai adnoddau fod ar gael i symud y prosiect ymlaen, roedd y Tîm Gweithredol Corfforaethol wedi gofyn i’r Gwasanaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio gasglu data o holl adrannau’r Cyngor ynglŷn ag unigolion a oedd wedi nodi meysydd carafannau fel cyfeiriadau wrth wneud cais am wasanaethau neu gonsesiynau.  Yn sgil y gwaith peilot cychwynnol, daeth i’r amlwg fod angen i wasanaethau rheoleiddio’r Cyngor weithio gyda pherchnogion rhai meysydd carafannau er mwyn rhoi cymorth iddynt reoli eu safleoedd yn well a chydymffurfio â’r amodau a roddwyd arnynt.

 

Roedd manylion y cynnydd a wnaed er mis Rhagfyr 2014, a chanfyddiadau astudiaeth gychwynnol o’r grŵp peilot, wedi’i gynnwys yn Atodiad 1, a oedd yn ddogfen gyfrinachol.

 

Ym mis Ionawr 2015, cynhaliwyd cyfarfod â pherchennog maes carafannau mawr i esbonio natur prosiect y Cyngor, ac roedd Atodiad 2 yn rhoi crynodeb o’r cyfarfod. Roedd swyddogion o Sir Ddinbych a Chonwy hefyd wedi cyfarfod i drafod natur y prosiect, graddfa’r broblem a’r potensial ar gyfer gweithio ar y cyd ar brotocol “Monitro Meysydd”. 

 

Atebodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Rheolwr Datblygu, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gwestiynau’r Aelodau ac fe wnaethant roi’r cyngor a ganlyn:-

 

·ni chafodd carafannau unigol a leolwyd yng ngerddi anheddau preifat eu cynnwys yn y prosiect presennol, gan fod mwyafrif y rheini a oedd yn Sir Ddinbych yn rhan atodol o’r prif annedd;

·  mae’r cyfreithiau cynllunio a thrwyddedu sy’n effeithio ar garfannau hefyd yn gymwys i gabanau gwyliau (chalets);

·  os bydd perchnogion meysydd carafannau gwyliau yn caniatáu i berchnogion carafannau fyw ar eu meysydd am holl gyfnod eu trwydded e.e. 10 mis ac ati, ac os nad yw’n bosibl i’r perchnogion carafannau hynny roi cyfeiriad ‘cartref’ mewn man arall, gallai perchennog y maes a pherchennog y garafán ill dau fod yn atebol am gael eu herlyn ar y sail nad oedd y maes carafannau yn cydymffurfio â’i amodau cynllunio a thrwyddedu fel maes ‘gwyliau’, a pherchennog y garafán am ddefnyddio carafán gwyliau fel cartref parhaol;

·  y flaenoriaeth o ran y gwaith ar gyfer y dyfodol fyddai rhwystro pobl rhag defnyddio eu carafannau fel cartrefi parhaol. Fodd bynnag, byddai angen rheoli hyn yn effeithiol i leihau effaith camau gorfodaeth ar unigolion, yr oedd rhai ohonynt yn agored i niwed.  Hefyd, byddai angen cynlluniau wrth gefn i ymdrin â chanlyniadau unrhyw gamau gweithredu ar ran y Cyngor h.y. pobl yn dod yn ddigartref.  Hefyd, gallai problem godi o ran ansawdd y carafannau mewn cymhariaeth ag ansawdd y tai sydd ar gael ar gyfer y bobl fyddai’n gorfod gadael eu carafannau a’u hamgylchiadau ‘ariannol’ i ddod o hyd i lety amgen;

·  unwaith y byddai hyd a lled y broblem ac effaith ragweladwy’r camau gorfodaeth llym yn glir, byddai angen penderfynu beth ddylai’r Cyngor ei wneud mewn perthynas â thor-amod hanesyddol a’r hyn y byddai’n ei wneud yn y dyfodol i ymdrin â thorri amodau.  Gallai cost polisi gorfodaeth hollgynhwysol fod yn uchel iawn a’r canlyniadau o bosibl yn amhosibl i’w rheoli ac yn niweidiol i enw da’r Awdurdod;

·  roedd 2 faes carafannau preswyl yn Sir Ddinbych, un yn y Rhyl a’r llall ym Mhrestatyn;

·  roedd perchnogion meysydd carafannau yn amodol i gyfraddau busnes yr Ardreth Annomestig Cenedlaethol (NNDR).  Caiff hwn ei gyfrifo gan y Swyddfa Brisio a’i gasglu’n ganolog gan y llywodraeth, gan roi canran yn ôl i’r Sir drwy’r setliad Grant Cymorth Refeniw. Nid oedd dyletswydd ar yr Awdurdod lleol felly i ddarparu gwasanaethau fel casglu gwastraff ar y meysydd hyn;

·  os amheuir bod amodau cynllunio neu drwyddedu yn cael eu torri, ni ellir defnyddio cyfreithiau Diogel Data yn gyfreithiol i atal gwybodaeth;

·  newidiwyd y rheoliadau yn ymwneud â thocynnau teithio ar fysiau am ddim yn gynharach eleni. Ni fyddai unigolion a oedd yn nodi maes carafannau fel cartref parhaol yn gymwys i dderbyn tocyn ar fws am ddim;

·  nid oedd cydymffurfiaeth â rheoliadau meysydd carafannau yn broblem a oedd yn unigryw i Sir Ddinbych, ymddengys fod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn cael trafferth i blismona a gorfodi’r amodau a ganiatáwyd. Roedd yn deg dweud hefyd fod rhai perchnogion yn hunan-reoleiddio ac yn cydymffurfio â’r amodau a roddwyd arnynt.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn fod angen ymchwilio i raddfa’r broblem, y costau posibl ac effaith yr opsiynau gorfodaeth, gan gynnwys o bosibl rhoi ystyriaeth i ddynodi rhai meysydd yn feysydd defnydd deuol – meysydd gwyliau a defnydd preswyl, ond gyda rhaniad clir rhwng y ddwy ardal ar y meysydd. Roeddynt hefyd o’r farn y dylid rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r gwaith o reoleiddio’r meysydd carafannau yn well. O ganlyniad, fe wnaeth y Pwyllgor:-

 

BENDERFYNU – yn amodol ar y sylwadau uchod:-

 

(a)            bod y Pwyllgor yn cefnogi cyfeiriad y prosiect hyd yma ac yn cydnabod maint posibl y gwaith a oedd yn mynd rhagddo; ac

(b)            y dylid cyflwyno canlyniadau’r gwaith cwmpasu ac opsiynau’r strategaeth ddrafft i reoleiddio meysydd carfannau yn fwy effeithiol gerbron y pwyllgor yn ystod haf 2015.

 

 

Dogfennau ategol: