Eitem ar yr agenda
DYFODOL LLWYDDIANNUS - ADRODDIAD DONALDSON
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) ar yr Adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru gan yr Athro Graham Donaldson.
9.35 a.m. 10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg wedi’i anfon
gyda phapurau’r cyfarfod.
Ym mis Mawrth 2014
comisiynwyd yr Athro Graham Donaldson gan y Gweinidog Addysg i gynnal adolygiad
annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru o’r Cyfnod Sylfaen
hyd at Gyfnod Allweddol 4. Cynhwyswyd canfyddiadau’r adolygiad yn Atodiad 1 yr
adroddiad - Dyfodol Llwyddiannus, Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a Threfniadau
Asesu yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gwmpas yr Adolygiad, ac yn
ystyried y goblygiadau i addysg a gwasanaethau sy’n gysylltiedig ag addysg yn
Sir Ddinbych pe bai argymhellion yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu gan
Lywodraeth Cymru (LlC).
Roedd yr adroddiad
yn tynnu sylw at ddiffygion y cwricwlwm presennol ac yn gwneud cyfres o
argymhellion i daclo’r rhain a gwella sut mae plant yng Nghymru’n cael eu dysgu
a’u hasesu. Roedd y cynigion yn rhai radical a phellgyrhaeddol. Amlinellwyd y
prif benawdau yn yr adroddiad, a rhestrwyd yr argymhellion yn Atodiad 2.
Eglurwyd fod yr
adolygiad, yr ymgynghorir arno ar hyn o bryd, yn awgrymu newidiadau radical i’r
ffordd y cyflwynir addysg yng Nghymru. Hwn fyddai’r newid mwyaf ers cyflwyno’r
cwricwlwm cenedlaethol, a byddai addysg yn cael ei chyflwyno drwy chwe maes
dysgu a phrofiad - celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; dyniaethau;
ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; a gwyddoniaeth a
thechnoleg.
Byddai’r adolygiad
yn cyflwyno tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a
chymhwysedd digidol. Byddai pob athro’n gyfrifol am y rhain, a byddent yn rhoi
sylw ar y deiliannau i’r dysgwyr, i’w paratoi a’u cymhwyso ar gyfer marchnad
waith yr G21ain. Byddai’r broses asesu yn llai biwrocrataidd na’r un bresennol
a byddai mwy o ryddid o ran cyflwyno’r cwricwlwm.
Cafwyd cadarnhad,
pe bai’r weledigaeth a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei mabwysiadu’n
llwyr, neu elfennau ohoni, byddai yna heriau o safbwynt cynnal a chyflwyno’r
cwricwlwm presennol wrth gynllunio a pharatoi i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yr
un pryd.
Roedd y Pennaeth
Addysg o blaid y newidiadau arfaethedig ac yn awyddus i’w gweld yn cael eu
mabwysiadu’n llwyr, nid fersiwn hybrid o’r model presennol a’r model newydd.
Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau:-
·cytunodd hi i holi pam na fu unrhyw bennaeth
cynradd yn rhan o dîm cynghorwyr allanol yr Adolygiad a faint o gynghorwyr o
ddiwydiant, busnes a’r sector preifat a gafodd ran mewn datblygu canlyniadau’r
Adolygiad;
·pwysleisiodd fod yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Aelodau yn amlinellu’r
weledigaeth i’r cwricwlwm addysg yng Nghymru yn y dyfodol. Byddai manylion y
cymorth ariannol a sut byddai’n cael ei weithredu yn dilyn unwaith i LlC gytuno
ar y polisi terfynol;
·cadarnhaodd nad oedd bwriad i gael gwared â phrofion PISA, gan eu bod yn
fesur oedd yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Fodd bynnag, pe bai’r cwricwlwm
newydd yn cael ei gyflwyno, dylai baratoi’r myfyrwyr i berfformio’n well yn y
profion PISA;
·byddai cynlluniau i hyfforddi ac uwchsgilio athrawon yn barod i’r
cwricwlwm newydd yn cael eu llunio unwaith y byddai’r polisi terfynol wedi’i
gytuno. Byddid yn ymgynghori â’r undebau athrawon ayb. ar hyn ac ar bob agwedd
arall o weithredu’r polisi yr adeg honno;
·cadarnhaodd, mewn ymateb i sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd gan yr Aelod
Cyfetholedig Dr Dawn Marjoram nad oedd yn gallu bod yn bresennol, ei bod wedi
siarad â swyddogion LlC ddwywaith am ysgolion arbennig a’u bod nhw wedi
cadarnhau y byddai’r hyn sy’n digwydd mewn ysgolion arbennig yn parhau fel rhan
o gynllun gweithredu adroddiad Donaldson.
Dywedodd y
swyddogion fod angen parhau â datblygiad parhaus sgiliau’r Iaith Gymraeg rhwng addysg ysgol a’r gweithle drwy wella’r
defnydd o’r iaith yn y gymuned. Roedd angen trafodaeth genedlaethol ar
ddiffiniad economaidd a manteision sgiliau ieithyddol, opsiynau ar gyfer rhoi
siaradwyr Cymraeg abl ar y llwybr cyflym, sgoriau presennol presennol
prifysgolion Cymru a’r posibilrwydd o golli pobl ifanc dalentog i brifysgolion
y tu allan i Gymru.
Gofynnodd yr
Aelodau i adroddiad yr Adolygiad gael ei ddosbarthu i’r Cynghorwyr Sir i gyd,
gan bwysleisio ei bwysigrwydd ac yn gofyn am eu mewnbwn. Cytunodd y Pwyllgor y
byddai’n ddefnyddiol hefyd cael sesiwn arno mewn cyfarfod Brîffio’r Cyngor.
Dywedodd yr Aelod
Arweiniol Addysg fod y model a gynigir wedi’i seilio ar y model Albanaidd, sydd
wedi hen ennill ei blwyf, a chadarnhaodd y Pennaeth Addysg fod modelau o
wledydd eraill wedi cael eu harchwilio hefyd gan Dîm yr Arolwg.
Yn dilyn trafodaeth
ddofn:-
PENDERFYNWYD
– fod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:-
(a) yn derbyn yr
adroddiad ac yn argymell fod y Cyngor yn cyfrannu sylwadau i ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar Adroddiad Donaldson, yn pwysleisio’r angen a’r pwysigrwydd
o fabwysiadu’r argymhellion yn eu cyfanrwydd er mwyn bod yn sail i’r agenda
addysg yng Nghymru yn y dyfodol ,
(b) yn gofyn i’r
adroddiad gael ei ddosbarthu i’r Cynghorwyr Sir i gyd gan bwysleisio ei
bwysigrwydd o safbwynt ceisio gwella deilliannau disgyblion, gofyn iddynt
gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a threfnu sesiwn Frîffio i’r Cynghorwyr Sir i
gyd ar gynnwys yr adroddiad ac
(c) yn cytuno y dylai’r pwyllgor archwilio fonitro cynnydd a gweithrediad
argymhellion yr Adolygiad maes o law wedi i Lywodraeth Cymru gytuno ar ei
pholisi terfynol.
Dogfennau ategol: