Eitem ar yr agenda
CAEL GWARED AR ARWYDDION HEB EU HAWDURDODI ODDI AR DIR PRIFFYRDD
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
ar safbwynt polisi'r Cyngor mewn perthynas â symud arwyddion heb eu hawdurdodi
o dir priffyrdd, a sut y mae'r polisi yn cael ei weithredu.
10.55 a.m. tan 11.30 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol ar safbwynt polisi'r Cyngor mewn perthynas â symud arwyddion heb
eu hawdurdodi o dir priffyrdd, a sut yr oedd y polisi yn cael ei weithredu,
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd mater arwyddion heb eu hawdurdodi wedi'i drafod gan y Pwyllgor ar 9
Medi, 2014, ac roedd manylion y canlyniad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. Roedd y canllawiau diweddaraf i
swyddogion wedi’u cynnwys fel Atodiad 1, ac roedd y Cyngor yn gwahaniaethu
rhwng arwyddion masnachol, ac arwyddion digwyddiadau anfasnachol/cymunedol. Roedd Atodiad 2 yn rhoi rhestr o
enghreifftiau, er mwyn dangos sut mae'r gwahaniaeth wedi ei ddehongli yn
ymarferol. Oherwydd bod y polisi’n cyfeirio'n
benodol at fathau o arwyddion heb eu hawdurdodi a fyddai’n cael eu goddef,
teimlwyd y byddai’n anghywir i gyfeirio at hyn fel polisi “dim
goddefgarwch". Roedd
Atodiad 3 yn darparu ffotograffau o enghreifftiau i gynorthwyo Aelodau.
Wrth gyflwyno'r adroddiad pwysleisiodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus yr
angen am waith partneriaeth effeithiol rhwng nifer o adrannau'r Cyngor er mwyn
sicrhau triniaeth deg a chyfartal ar gyfer busnesau lleol, i helpu grwpiau
cymunedol, a sicrhau diogelwch preswylwyr wrth ymdrin ag arwyddion heb eu
hawdurdodi ar dir priffyrdd.
Mynegodd Aelodau’r safbwyntiau a’r farn ganlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd:-
- roedd y polisi
wedi gweithio’n dda ym Mhrestatyn, lle’r oedd y broblem fwy neu lai wedi ei
dileu. Roedd astudiaeth ddichonoldeb wedi’i chomisiynu yn
ddiweddar gan Gyngor Tref Prestatyn i archwilio a fyddai'n ymarferol i gynnig
gofod hysbysebu i fusnesau ar fyrddau a gaiff eu codi mewn arosfannau bws sy’n
eiddo i’r Cyngor Tref, a byddai ffi yn cael ei chodi;
- bu pryderon
mewn trefi eraill am weithredu'r polisi, yn arbennig y diffyg canfyddedig o ran
dull cyson o’i weithredu, ac roedd angen diffiniad clir o'r gwahanol gategorïau
o ddigwyddiadau e.e. digwyddiadau cymunedol;
- mewn achosion
syml, gellid gweithredu'r polisi yn uniongyrchol gan swyddogion. Fodd bynnag,
mewn achosion lle'r oedd anawsterau yn debygol o ddigwydd, dylid rhoi cyfle i’r
aelod lleol gysylltu â threfnydd y digwyddiad neu'r busnes ynglŷn â'r
arwyddion. Dylid gwneud hyn mor gynnar â phosibl yn y broses.
- oni bai yr amharwyd ar ddiogelwch priffyrdd,
cam cyntaf y broses fyddai cysylltu â pherchnogion yr arwyddion a/neu drefnwyr
y digwyddiad, er mwyn ceisio datrys y sefyllfa. Os nad oedd modd datrys
y sefyllfa, dylid rhoi gwybod i’r aelod lleol ar unwaith;
- byddai'n
ddefnyddiol i arwyddion gwybodaeth i dwristiaid gael eu cynnwys ar arwyddion
ffyrdd presennol h.y. arwyddluniau i ddynodi'r cyfleusterau sydd ar gael mewn
pentref/tref, ac
- i ganfyddiadau
gwaith gweithgor y Gwasanaethau Cynllunio, Datblygu Economaidd a Phriffyrdd
gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio maes o law i sicrhau ei fod yn cefnogi
gweledigaeth y Cyngor ac yn cyflawni ei Gynllun Corfforaethol.
Nododd yr Arweinydd ei bryderon ynghylch yr angen i sicrhau cydbwysedd
priodol rhwng hawliau a dyletswyddau’r Cyngor o ran camau gorfodi diogelwch
priffyrdd a’i rôl datblygu economaidd. Roedd angen i’r Cyngor
gael ei weld yn meithrin a chefnogi busnes yn y Sir.
Wrth ymateb i gwestiynau Aelodau gwnaeth y Pennaeth Gwasanaeth a’r Aelod
Arweiniol:-
·bwysleisio y byddai
swyddogion o'u gwirfodd yn dilyn pa bynnag bolisi yr oedd aelodau yn tybio oedd
yn briodol mewn perthynas â'r broblem hon, cyn belled nad oedd yn peryglu
diogelwch defnyddwyr y priffyrdd;
·pwysleisio nad yw'r
polisi yn bolisi dim goddefgarwch, roedd wedi ei lunio mewn ymateb i bryderon
yr aelodau o ran gormodedd o arwyddion heb eu hawdurdodi ar draws y Sir,
cyfeiriwyd yn benodol mewn cyfarfod blaenorol at y briffordd drwy Lôn Parcwr,
Rhuthun;
·tynnu sylw’r Aelodau at
y diffiniad o ddigwyddiadau cymunedol, digwyddiadau elusennol ac ati fel y
nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad;
·egluro’r gwahaniaethau
rhwng camau gorfodi priffyrdd cyhoeddus a chyfreithiau cynllunio;
·cydnabod bod
camgymeriadau wedi'u gwneud yn 2014 pan oedd arwyddion yn hysbysebu
digwyddiadau cymunedol a oedd eisoes wedi’u cynnwys yn Strategaeth
Ddigwyddiadau’r Sir, wedi’u tynnu i lawr fel rhan o weithredu'r polisi hwn. Roddwyd
sicrwydd na fyddai hyn yn digwydd eto eleni gan fod canllawiau wedi’u rhoi i
swyddogion bellach a diffiniadau ar y mathau hyn o ddigwyddiadau. Byddai'n ddefnyddiol pe gallai Aelodau ofyn i
drefnwyr digwyddiad gysylltu â'r Gwasanaeth Priffyrdd i roi cyngor iddynt o ran
pryd a lle'r oedd arwyddion hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn mynd i
gael eu codi, a gallai'r gwasanaeth wedyn roi cyngor ar addasrwydd y lleoliad
ar sail diogelwch;
·roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol wedi comisiynu darn o waith i
edrych ar sut y gallai’r Gwasanaeth Priffyrdd, Datblygu Economaidd a Busnes,
a'r Gwasanaeth Cynllunio weithio’n well gyda'i gilydd er mwyn datblygu'r
economi leol, sicrhau cydbwysedd priodol rhwng gorfodi a gweithgarwch cymorth
busnes, a chefnogi busnesau lleol. Byddai rhan o'r gwaith
hwn yn cynnwys llunio ‘pecyn croeso’ ar gyfer busnesau newydd a fyddai’n egluro
beth y gallent ei wneud a'r hyn na allent ei wneud o ran hysbysebu eu busnesau. Hyd nes y bydd
y gwaith hwn wedi’i gwblhau, byddai'r polisi presennol yn berthnasol, ond
byddai swyddogion yn cael eu cynghori i ystyried y diffiniad o amrywiol fathau
o ddigwyddiadau fel yn Atodiad 2 i'r adroddiad;
·cadarnhawyd bod byrddau
‘A’ yn cael eu caniatáu y tu allan i fusnesau cyn belled â bod digon o le i
sicrhau diogelwch cerddwyr.
Ar ddiwedd y drafodaeth
pwysleisiodd y Pwyllgor fod angen dull gweithredu synnwyr cyffredin o ran
gweithredu’r polisi, gydag Aelodau lleol yn cael gwybod am unrhyw broblemau o
fewn eu hardaloedd cyn gynted ag y byddant yn dod i'r amlwg. Roedd angen i bobl fusnes a grwpiau cymunedol gael
eu hymgysylltu ac ymwneud â'r broses yn gynnar mewn ymgais i'w cefnogi i
gyflawni eu dyheadau a'r Cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol
datblygu economaidd a strydoedd glân a thaclus, wrth gynnal ei ddyletswyddau
diogelwch cymunedol hefyd. Felly:-
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod -
(a) cefnogi'r egwyddorion a
amlinellir yn y canllawiau, eu defnydd parhaus a datblygu 'pecyn croeso i
fusnesau' i gynorthwyo a chefnogi busnesau newydd i sefydlu eu hunain a
hyrwyddo eu gwasanaethau o fewn arferion a ganiateir;
(b) mynegi cefnogaeth i
swyddogion Sir Ddinbych sy'n gorfod gweithredu'r polisi, weithiau o dan
amgylchiadau anodd;
(c) dylid diwygio'r canllawiau
polisi er mwyn cynnwys aelodau lleol yn y broses;
(d) cefnogi'r egwyddor o hawlio
costau yn ôl gan unrhyw droseddwyr mynych sy'n dewis anwybyddu rhybuddion
ysgrifenedig, a/neu unrhyw geisiadau gan aelodau lleol, ac yn parhau i osod
arwyddion yn anghyfreithlon;
(e) cefnogi’r cynlluniau unigol
sy'n cael eu datblygu mewn perthynas ag arwyddion a hysbysebion a awdurdodwyd
yn briodol, yn enwedig arwyddion twristiaeth ac arwyddion cymdogaeth (mewn
ardaloedd lle mae nifer o fusnesau’n cydfodoli); a
(f) gofyn bod canfyddiadau
gwaith gweithgor y Gwasanaethau Priffyrdd, Datblygu Economaidd a Chynllunio yn
cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio pan fydd wedi’i gwblhau i sicrhau ei
fod yn cefnogi gweledigaeth y Cyngor ac yn cyflawni ei Gynllun Corfforaethol;
Dogfennau ategol: