Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

AILSTRWYTHURO’R GWASANAETH DATBLYGU ECONOMAIDD A BUSNES

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) sy'n nodi cyd-destun ac amcanion yr adolygiad o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor.

11.30 a.m. tan 12.05 p.m.

 

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CCUECh) gyda phapurau’r cyfarfod. Roedd yn nodi cyd-destun a nodau’r adolygiad o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor.

 

Roedd yr adroddiad yn egluro sut y byddai’r adolygiad yn cefnogi blaenoriaeth Cynllun Corfforaethol y Cyngor ar gyfer datblygu’r economi leol a'r weledigaeth a nodwyd yn y Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol.  Roedd y cyngor yn wynebu targed lleihau’r gyllideb o £17miliwn dros y 2 flynedd nesaf gyda chyfanswm arbedion o £11miliwn wedi’u nodi, gan adael balans o £6miliwn ac nid oedd llawer o obaith o setliadau ariannol gwell yn y dyfodol rhagweladwy.  Roedd y gostyngiadau presennol yn y gyllideb ar ben toriadau o dros £20 miliwn sydd wedi'u gwneud ers 2009, ac roedd graddfa'r her yn golygu bod gwasanaethau'r Cyngor yn wynebu newidiadau sylweddol.  Cynhaliwyd yr adolygiad o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor yn y cyd-destun hwn ac roedd yr egwyddorion a ddefnyddiwyd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad ar ailstrwythuro'r Gwasanaeth, roedd yr Arweinydd a'r CCUECh yn pwysleisio bod y Cyngor wedi datblygu Cynllun Corfforaethol uchelgeisiol iawn ac wedi gosod targedau heriol iawn iddo’i hun yn ei Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, roedd rhai i'w cyflawni erbyn 2017.  Yn y misoedd diwethaf roedd y Cyngor wedi rhoi addewid y byddai’n ymdrechu i gyflawni'r Cynllun a’r Strategaeth er gwaethaf wynebu toriadau digynsail i'w gyllideb ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.   O ganlyniad i'r toriadau ariannol difrifol hyn roedd rhaid i wasanaethau gael eu teilwra i gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon, a dyna’r rheswm dros ailstrwythuro’r Gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes.   Rhoddodd yr arweinydd a'r CCUECh sicrwydd i Aelodau fod y strwythur rheoli a darparu traws-sirol newydd wedi’i hanelu at gyflawni'r tri phrif darged yng Nghynllun Cyflawni’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol - mwy o bobl mewn gwaith, incwm aelwydydd uwch a rhagor o fusnesau lleol iachach.  Amlinellwyd rolau’r swyddi o fewn y strwythur, ynghyd â'r swydd ychwanegol yn y Gwasanaeth Gwella a Moderneiddio Busnes.  Wrth ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth y CCUECh a’r Arweinydd gadarnhau:-

 

·nad oedd cyfrifoldeb am gyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol yn ymwneud â datblygu economaidd a'r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn gyfrifoldeb i’r Gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes yn unig, roedd gan holl wasanaethau'r Cyngor fudd ynddynt a rôl i’w chwarae wrth eu cyflawni;

 

·Byddai Cynlluniau Tref ac Ardal yn dod yn Gynlluniau cyflenwi â chanolbwynt yn y dyfodol.  Byddai rôl Cefnogwr y dref yn cael ei hadolygu er mwyn ei gryfhau a byddai camau gweithredu neu agweddau ar Gynlluniau Tref ac Ardal yn cael eu neilltuo i Benaethiaid Gwasanaeth i'w cyflawni o fewn terfynau amser penodol.  Byddent yn atebol am gyflawni'r prosiectau hyn gan y byddent yn rhan o'u Cynlluniau Gwasanaeth;

 

·ymgynghorwyd â Chefnogwyr Tref a’r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol ar y cynigion ailstrwythuro;

 

·roedd rhai agweddau o'r flaenoriaeth gorfforaethol datblygu economaidd yn cael eu datblygu ar wahanol lefelau e.e. roedd datblygu sgiliau addysgol/cyflogwr, trydaneiddio rhwydwaith rheilffordd Gogledd Cymru, hyrwyddo'r rhanbarth fel ardal ar gyfer busnes yn cael eu datblygu’n rhanbarthol drwy gyfrwng Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, tra’r oedd agweddau eraill mwy lleol megis hybu Sir Ddinbych fel lleoliad da ar gyfer busnes yn digwydd ar lefel Sir;

 

·nid oedd LlC bob amser yn cymryd sylw o gyngor awdurdodau lleol neu gyrff rhanbarthol ar beth fyddai’n cyflawni'r canlyniadau economaidd gorau ar gyfer yr ardal.  Ar adegau roedd hyn yn dwysáu ymdrechion awdurdodau lleol i ysgogi datblygu economaidd, felly roedd rhaid i awdurdodau lleol fod yn greadigol ac yn arloesol yn eu dull gweithredu;

 

·byddai cyllid Ewropeaidd yn cael ei weinyddu yn y dyfodol ar sail ranbarthol, Gogledd Cymru.  Roedd cadarnhad yn dal i gael ei ddisgwyl ar lle y byddai’r tîm cyllid Ewropeaidd yn cael ei leoli ac ar pryd fyddai ariannu cymunedol o brosiectau seilwaith mawr fel ffermydd gwynt ar gael.  Gan nad oedd y Cyngor bellach mewn sefyllfa lle gallai gyflogi staff tan i ffrydiau ariannu gael eu cadarnhau neu fod ar gael roedd rhaid iddo weithio gyda'r hyn a oedd ar gael iddo ar hyn o bryd, o ganlyniad, roedd y Gwasanaeth wedi’i ailstrwythuro, ar sail yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd a beth fydd ar gael yn y dyfodol;

 

·roedd adroddiad ar wahân ar ariannu cymunedol posibl yn y dyfodol, gan gynnwys arian fferm wynt ac arian Ewropeaidd, i gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 19 Mawrth 2015.   Er byddai'r gwaith o weinyddu cyllid Ewropeaidd yn symud i sail ranbarthol ni ragwelir y byddai Sir Ddinbych ar eu colled o ran unrhyw arian gan mai hwn oedd un o'r meysydd a nodwyd i elwa o Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer y cyfnod 2014-2020.  Fodd bynnag, byddai angen i’r Cyngor a'r cymunedau wrth symud ymlaen, fireinio eu harferion, a gweithio'n agosach gyda'i gilydd, wrth ddatblygu prosiectau er mwyn cynyddu’r buddion o'r cronfeydd sydd ar gael;

 

·roedd ailstrwythuro'r gwasanaeth ar y gweill a dylid ei gwblhau erbyn mis Mai, 2015.  Nid oedd lleihau nifer y swyddi mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchiad andwyol ar alluoedd deiliaid swyddi presennol.   Sail ei sefydlu oedd y cysyniad ‘digon da’ o fewn modd ariannol i hwyluso cyflawni gweledigaeth y Cyngor a'r canlyniadau a fwriedir;

 

Mynegodd Aelodau’r safbwyntiau a’r farn ganlynol:-

 

-  wrth gefnogi nodau’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol gwnaethant holi a oedd y Cyngor yn gosod targedau a oedd yn rhy uchelgeisiol iddo’i hun, yn enwedig o ran y seilwaith digidol, fel y cyfryw nid oedd materion o fewn rheolaeth y Cyngor;

 

- wrth gydnabod bod strwythur rheoli'r Gwasanaeth yn benderfyniad gweithredol, mynegwyd amheuon am gyflymder y broses a graddau’r toriadau staffio, ac a oedd y strwythur llywodraethu yn iawn;

 

- pwysleisiwyd er bod llawer o weithgarwch wedi digwydd yn ystod y tair blynedd diwethaf, roedd nifer y prosiectau a gyflawnwyd hyd yma yn ymddangos yn isel.  Felly, wrth fynd ymlaen, roedd angen llawer mwy o bwyslais ar sicrhau canlyniadau diriaethol, a byddai pob un ohonynt angen tystiolaeth;

 

- codwyd pryderon ynghylch rhanbartholi cynyddrannol canfyddedig gweinyddiaeth, llywodraethu ac ariannu materion datblygu economaidd a'r effaith bosibl ar ddatblygu economaidd yn lleol; 

 

- holwyd a fyddai gan y strwythur newydd adnoddau digonol i gyflawni'r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol yn effeithiol a'r flaenoriaeth gorfforaethol i safon ‘ddigon da’;

 

- pwysleisiwyd yr angen i gryfhau rôl y cefnogwyr tref mewn perthynas â chyflawni'r cynlluniau tref ac ardal;

 

- nodwyd pryderon o ran a oedd y Cyngor yn gwireddu elw ar fuddsoddiad o’r holl sefydliadau datblygu economaidd rhanbarthol yr oedd yn gysylltiedig â hwy, ac a oedd yr holl ddatblygiadau mawr yn y rhanbarth, er eu bod yn cael eu marchnata fel cyfleoedd/prosiectau ar gyfer Cymru, mewn gwirionedd yn ddim mwy na phrosiectau yng Nghymru gyda'r mwyafrif o'r staff yn trosglwyddo i mewn o'r tu allan i'r rhanbarth.  

 

Cadarnhawyd y byddai effaith ailstrwythuro'r Gwasanaeth o ran cyflawni canlyniadau yn cael ei fesur gan y Grŵp Tasg a Gorffen ‘Torri’r Brethyn’ drwy ei waith ar effaith y toriadau yn y gyllideb ar y gallu i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:-

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod, cefnogi'r rhesymeg dros yr adolygiad o swyddogaeth Datblygu Economaidd a Busnes y Cyngor a'r canlyniadau y disgwylir a fydd yn deillio o'r adolygiad.

 

 

Dogfennau ategol: