Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CATEGORÏAU IAITH HOLL YSGOLION SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried canfyddiadau arolwg Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o gategorïau iaith ysgolion y sir.

9.35 a.m. tan 10.10 a.m.

 

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried canfyddiadau arolwg Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg o gategorïau iaith ysgolion y Sir, gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Ar 30 Medi 2014 penderfynodd y Cabinet ofyn i’r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg adolygu categori iaith pob ysgol yn ystod tymor yr hydref a chyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Archwilio ar ddechrau gwanwyn 2015.

 

Rhoddodd y Pennaeth Addysg grynodeb o gyd-destun a meini prawf categoreiddio, sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, a rhoddodd amlinelliad o gategoreiddio a chanlyniadau’r holiadur yn Atodiad 2 hefyd.  Roedd dadansoddiad o ymatebion wedi'i gynnwys yn Atodiad 3 ac roedd yr ymatebion wedi'u gwirio yn erbyn canlyniadau addysgol presennol. 

         

Dywedodd y Pennaeth Addysg a’r Aelod Arweiniol Addysg wrth yr Aelodau:-

 

·roedd dogfen Llywodraeth Cymru (LlC) ‘Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (2007)’ yn ganllaw a oedd yn nodi disgrifiadau a chategorïau ysgolion yn ôl faint o Gymraeg sy’n cael ei defnyddio wrth addysgu a dysgu; ac yn y gwaith o redeg ysgolion o ddydd i ddydd.  Defnyddiwyd y canllawiau hyn, nad oedd ag unrhyw sail mewn deddfwriaeth, gan awdurdodau addysg ledled Cymru wrth ddatblygu gwybodaeth i rieni am gyfrwng iaith eu hysgolion;

 

·mewn ymateb i benderfyniad y Cabinet ym mis Medi 2014 roedd y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi cynnal adolygiad o holl ysgolion y sir, cynradd ac uwchradd (ar wahân i'r ysgolion arbennig), er mwyn asesu a oedd pob ysgol yn darparu eu cwricwlwm o fewn y meini prawf diffiniedig ar gyfer eu categori presennol;

 

·roedd canlyniadau'r asesiad hwn wedi nodi anghysondebau rhwng y categori iaith presennol a'r cyfrwng o ddarparu’r cwricwlwm mewn pedair o ysgolion y Sir - 3 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd. Tra’r oedd un o'r ysgolion cynradd yn ysgol dwy ffrwd (Categori 2), nid oedd yr un o'i disgyblion wedi'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar, ond roedd disgwyl i ddau gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg eleni.  Roedd ysgol gynradd arall, a oedd yn darparu ei chwricwlwm yn Saesneg yn bennaf, ond gyda defnydd sylweddol o'r Gymraeg (Categori 4), wedi nodi ei bod yn ysgol dwy ffrwd â digon o gapasiti i ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mewn gwirionedd roedd rhai disgyblion wedi eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd diweddar.  Roedd y drydedd ysgol gynradd wedi cydnabod nad oedd ganddi gapasiti digonol mwyach i ddarparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i ganiatáu iddi barhau â'i statws Categori 4 presennol.  Dylai felly fod yn ysgol Categori 5 (cyfrwng Saesneg).  O'r ddwy ysgol uwchradd ddwyieithog yn y sir, sydd ar hyn o bryd a statws Categori 2B – darparu o leiaf 80% o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd un wedi nodi y dylai bellach mae'n debyg fod yng Nghategori 2C - rhwng 50% a 79% o'i chwricwlwm yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg;

 

·yn y 7 mlynedd diwethaf roedd y Sir wedi cofnodi cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o 17% i 23%, roedd hyn yn galonogol.  Fodd bynnag roedd ffordd hir i fynd eto os oedd y Cyngor i wireddu ei uchelgais tymor hir o weld holl blant a phobl ifanc y sir yn gwbl hyderus a chymwys yn y Gymraeg ac yn Saesneg pan fyddant yn gadael yr ysgol:

 

·roedd gan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r Llywodraethwyr Ysgol rôl bwysig i'w chwarae wrth fonitro a chefnogi ysgolion i fodloni a darparu'r cwricwlwm yn unol â’i chategori iaith, a phe bai ysgol yn penderfynu na allai ddarparu yn unol â'i chategori presennol mwyach, byddai’r rhaid dilyn proses statudol er mwyn newid categori’r ysgol.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:-

 

- er bod categoreiddio iaith ysgolion yn bwnc cymhleth, roedd angen archwilio'r anghysonderau ym mhob un o'r pedair ysgol yn fanylach er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol a oedd wedi arwain at yr anghysonderau a nodi unrhyw gefnogaeth a allai fod ar gael iddynt;

 

- byddai hefyd yn ddefnyddiol i archwilio'n fanwl y cynnydd a wnaed gan bob ysgol ar hyd y continwwm iaith, yn enwedig yr ysgolion hynny a nodwyd eisoes o dan y Rhaglen Moderneiddio Addysg fel rhai a oedd eisiau cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg;

 

- dylid archwilio’r holl gynlluniau gweithredu ad-drefnu ysgolion er mwyn sicrhau bod y camau a nodwyd mewn perthynas â chategoreiddio iaith, gan gynnwys y cymorth angenrheidiol sy'n ofynnol i helpu'r ysgolion gyda darparu addysg drwy gyfrwng yr iaith benodedig, wedi eu gweithredu a’u cwblhau;

 

- byddai'n ddefnyddiol at ddiben cynnal yr ymarfer uchod i gael dau neu dri o aelodau’r Pwyllgor Archwilio i wasanaethu ar y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Mynegodd Dr D Marjoram ei ddiddordeb mewn bod yn aelod o'r Grŵp at y diben hwn.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod yn: -

 

(a) nodi canfyddiadau'r adolygiad o ddarpariaeth addysg ysgolion y Sir mewn perthynas â'u categori iaith,

(b) argymell bod y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cynnal adolygiad pellach i ganfod y rhesymau am yr anghysondebau yn y pedair ysgol a nodwyd yn yr adroddiad, gan nodi unrhyw gymorth a allai fod ar gael iddynt i’w cefnogi wrth fynd ymlaen,

(c) gofyn bod y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd yn archwilio’r cynnydd a wnaed gan bob ysgol yn y sir ar hyd y continwwm iaith, yn enwedig yr ysgolion hynny a nodwyd o dan y Rhaglen Moderneiddio Addysg fel rhai a oedd eisiau cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a

(d) gofyn bod cais yn cael ei wneud i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio benodi dau neu dri Aelod o’r Pwyllgor Archwilio i wasanaethu ar y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg at ddiben yr adolygiad pellach hwn.

 

 

Dogfennau ategol: