Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CYFALAF 2014/15 - 2017/18 AC ARGYMHELLION Y GRŴP BUDDSODDI STRATEGOL

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r aelodau ar elfen 2014/15 y Cynllun Cyfalaf, a gofyn am gymeradwyaeth y prosiectau a nodwyd i'w cynnwys yn y Cynllun Cyfalaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am elfen 2014/15 y Cynllun Cyfalaf ac yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cynllun Cyfalaf 2015/16 ynghyd â phrosiectau a nodwyd ar gyfer eu cynnwys yn unol ag argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol a dyraniadau cyfalaf sy’n codi o gynigion adolygiad ardal cynradd Rhuthun.  Aeth â’r aelodau drwy'r adroddiad gan dynnu sylw at yr adrannau canlynol -

 

·        crynodeb o'r Cynllun Cyfalaf Cyffredinol a'r elfen Cynllun Corfforaethol

·        crynodeb o brosiectau cyfalaf yn ôl maes gwasanaeth a chynlluniau unigol

·        y wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau cyfalaf mawr

·        argymhellion y Grŵp Buddsoddi Strategol gan gynnwys y rhesymeg y tu ôl i gyn-ddyrannu derbyniadau cyfalaf ar gyfer prosiectau penodol, a

·        darpariaeth gynradd ardal Rhuthun – roedd cyllid yn ei le fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol ond roedd angen cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer dyrannu gwirioneddol.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Thompson-Hill i gwestiynau a godwyd ynghylch gwahanol agweddau ar y Cynllun Cyfalaf a dyraniadau penodol, gan gynnwys cynnydd gyda gwahanol gynlluniau.  Roedd prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol -

 

·        cyfeiriwyd at gymhlethdodau cyllid allanol a chytunwyd i gynnwys briffio i aelodau ar gyllid Ewropeaidd a chyllid allanol arall mewn sesiwn briffio’r Cyngor yn y dyfodol – roedd y swm o arian allanol a sicrhawyd ar gyfer prosiectau penodol wedi ei gynnwys yn adroddiadau cyllid misol y Cabinet

·        gofynnwyd bod Aelodau Lleol yn cael eu gwneud yn gwbl ymwybodol o werthu asedau a derbyniadau cyfalaf a gynhyrchir yn eu hardaloedd

·        o ran y rhaglen goleuadau stryd, eglurwyd mai bwriad y cynllun yw disodli llusernau presennol gyda llusernau LED ar sail debyg am debyg.  Er bod y llusernau newydd yn darparu golau cyfeiriadol o ansawdd gwell gan leihau llygredd golau, derbyniwyd y byddai budd wrth adolygu darpariaeth bresennol i ganfod a oedd gostyngiad mewn ardaloedd penodol yn cael ei gyfiawnhau

·        trafodwyd rhinweddau'r dyraniad dros dro o £1.615m i gyflwyno rhaglen o adfywio trefol drwy gyflenwad llety busnes modern ac roedd tua 7/8 o gynlluniau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, gan gynnwys Cil Medw.  Cyfeiriwyd hefyd at y gwaith o drawsnewid yr hen westy Bee & Station yn ofod swyddfa a'r angen i’r fenter honno gael ei defnyddio'n llawn

·        trafodwyd y rhesymeg y tu ôl i fuddsoddiad blaenorol, presennol ac yn y dyfodol mewn ysgolion penodol ynghyd â nod y Cyngor o wella safonau mewn addysg ac adeiladau ar draws y sir gyfan a chydnabyddiaeth o'r cyflawniadau sylweddol a wnaed eisoes yn y cyswllt hwnnw dros y blynyddoedd diwethaf.  Rhoddwyd eglurhad o gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ac er bod y Cyngor mewn sefyllfa i symud ymlaen gyda'r cynigion ar gyfer adeiladau ysgol ar gyfer ardal Rhuthun heb ddibynnu ar gyllid ysgolion yr 21ain ganrif, o ystyried rhagwelediad a chynllunio'r Cyngor roedd posibilrwydd y gallai cyllid Band A gael ei sicrhau ar gyfer y prosiectau hynny

·        wrth ystyried y dyraniadau cyfalaf ar gyfer darpariaeth gynradd yn ardal Rhuthun, eglurwyd y cynnig ar gyfer y ddwy ysgol (adleoli Stryd y Rhos / Ysgol Penbarras) ar safle a rennir yng Nglasdir.  Cafwyd peth trafodaeth am benderfyniad y Gweinidog i wrthod y cynnig i gau Ysgol Llanbedr er gwaethaf dod i'r casgliad bod achos addysgol cydlynol ar gyfer y cynnig a fyddai'n arwain at ddosbarthiad tecach o gyllid ar draws ysgolion y sir.  Ymatebodd y Prif Weithredwr i gwestiynau a sylwadau a godwyd yn y cyswllt hwnnw gan gynghori nad oedd yn cytuno â phenderfyniad y Gweinidog ac roedd achos clir o blaid y cynnig.  Ni ellid rhoi sicrwydd ynghylch prosesau ymgynghori yn y dyfodol yng ngoleuni dynameg Llywodraeth Cymru ond rhoddwyd sicrwydd y byddai ymgynghoriadau yn y dyfodol mor gynhwysfawr ag y bo modd.  Cadarnhawyd bod costau ymgynghori yn cael eu talu o gyllideb y gwasanaeth moderneiddio addysg

·        dywedwyd wrth yr aelodau am y polisi i gynnig hen adeiladau ysgol i'r gymuned leol yn y lle cyntaf ac roedd amserlenni priodol yn cael eu paratoi ar gyfer yr achosion busnes hynny cyn i adeiladau gael eu cynnig ar y farchnad agored.  Byddai derbyniadau cyfalaf a gynhyrchir o werthu hen adeiladau ysgol yn cael eu clustnodi ar gyfer prosiectau moderneiddio addysg, ond nid oedd prosiectau cyfredol yn dibynnu ar dderbyniadau cyfalaf ysgolion i fod yn ariannol hyfyw

·        Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams ddiwygiad i'r argymhellion, a eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i gynnwys penderfyniad ychwanegol i adlewyrchu cynllunio ariannol rhagweithiol y Cyngor mewn perthynas â chyllid o ddatblygiadau ffermydd gwynt ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd teyrnged i waith y swyddogion a'r Grŵp Buddsoddi Strategol o fewn y broses a oedd wedi arwain at gyflwyno argymhellion teg ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ar draws y sir gyfan.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau ar argymhellion yr adroddiad a’r diwygiad fel a ganlyn -

 

32 pleidlais o blaid, 0 yn erbyn ac 1 yn ymatal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn -

 

(a)       nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar elfen 22014/15 y Cynllun Cyfalaf a’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau mawr;

 

(b)       cefnogi argymhelliad y Grŵp Buddsoddi Strategol fel y nodir yn Atodiad 5 ac fel a grynhoir yn Atodiad 6 yr adroddiad;

 

(c)        cymeradwyo Cynllun Cyfalaf 2015/16, a

 

(d)       chymeradwyo achosion busnes a dyraniad cyfalaf ar gyfer darpariaeth Cynradd Ardal Rhuthun:

 

·        disodli darpariaeth bresennol Ysgol Stryd y Rhos / Ysgol Penbarras ar Safle Glasdir

·        adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn

·        adeilad ysgol newydd ar gyfer ysgol ardal Llanfair a Phentrecelyn, yn amodol ar ganlyniad y cynigion trefniadaeth ysgolion, ac

 

 (e)      yn argymell bod swyddogion yn edrych yn rhagweithiol ar y defnydd o arian o ddatblygiadau ffermydd gwynt yn y sir mewn cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (11.55am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: