Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TRETH Y CYNGOR 2015/16 A MATERION CYSYLLTIEDIG

I ystyried adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau a’r Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau (copi'n amgaeedig), yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y penderfyniadau angenrheidiol er mwyn gosod y lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y penderfyniadau angenrheidiol i osod lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16.  Cyfeiriodd yn benodol at -

 

·        brif nodweddion y gyllideb fel a gymeradwywyd ar 3 Chwefror 2015

·        sylwadau'r Swyddog Adran 151 ar gadernid amcangyfrifon y gyllideb a digonolrwydd y cronfeydd wrth gefn

·        dadansoddiad o'r praeseptau gan Gynghorau Tref/Cymuned a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, ac

·        argymhellion ar gyfer lefelau Treth y Cyngor ar gyfer 2015/16.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at y penderfyniadau ariannol anodd a wnaed gan yr awdurdod a chododd bryderon fod Llywodraeth Cymru yn dyfarnu grantiau amrywiol ac arian i Gynghorau ar adeg mor hwyr yn y flwyddyn ariannol wrth osod toriadau llym ar yr un pryd.  Roedd y canlyniad yn achosi anawsterau i Gynghorau sy’n cynllunio eu strategaethau ariannol ac ystyriwyd pe bai cyllid ar gael dylid ei ddyrannu o flaen llaw er mwyn helpu Cynghorau i gysgodi yn erbyn y toriadau gwaeth.  Nododd yr aelodau ei bod yn arferol i Lywodraeth Cymru ddyfarnu arian yn 4/6 wythnos olaf y flwyddyn ariannol a gwnaethant gydnabod yr anawsterau ar gyfer cynllunio ariannol o ganlyniad i'r dull hwnnw, yn enwedig o ystyried y sefyllfa ariannol bresennol.  Trafododd yr Aelodau y ffordd ymlaen ac roeddent yn teimlo ei fod yn fater ar gyfer archwilio adeiladol gyda'r bwriad o newid y ffordd yr oedd cyllid yn cael ei ddyrannu er mwyn gwella rheolaeth ariannol.   O ganlyniad, cytunwyd bod y mater yn cael ei drosglwyddo i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio i gael ei amserlennu'n briodol ar gyfer archwilio.  Roedd y Cynghorydd Stuart Davies yn awyddus i'r Gweinidog perthnasol gael ei alw i gyfrif, ond rhoddwyd gwybod nad oedd gan yr awdurdod unrhyw rym i alw Weinidog gerbron y pwyllgor archwilio.  O ran y dyraniad diweddar o £1.5m i'w wario ar offer chwarae erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, rhoddodd y Cynghorydd Huw Jones sicrwydd bod trefniadau'n cael eu gwneud gyda'r bwriad o wario cyfran £48k Sir Ddinbych cyn gynted ag y bo modd.

 

Ystyriodd yr Aelodau y praeseptau gan y Cynghorau Tref / Cymuned a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a gofynnodd y Cynghorydd Bobby Feeley am ddadansoddiad o'r hyn a gyflawnwyd ac a fyddai'n debygol o gael ei gyflawni yn seiliedig ar swm praesept yr Heddlu.  Cytunwyd i ysgrifennu at Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu ar gyfer y dadansoddiad hwnnw ynghyd â chopi o'r Cynllun Gweithredu a gynhyrchwyd ar gyfer y rhanbarth ac awgrymwyd hefyd y gallai aelodau geisio craffu ar y wybodaeth honno i ganfod beth oedd wedi ei gyflwyno ar gyfer y praesept.  Cafodd yr Aelodau sicrwydd o ddatganiad y Swyddog Adran 151 lle ystyriodd fod cynigion y gyllideb yn synhwyrol ac yn gadarn ac yn ddigonol a phriodol o ran y balansau cyffredinol.  Yn olaf, ystyriwyd y lefelau a argymhellir o Dreth y Cyngor a chyfeiriwyd at waith y Gweithgor Strategaeth Safleoedd Carafanau o ran y potensial i godi refeniw treth y cyngor ar gyfer blynyddoedd i ddod  Nodwyd unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau y byddai'r canfyddiadau yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor llawn.

 

Pleidleisiodd yr Aelodau ar argymhellion yr adroddiad fel a ganlyn -

 

31 pleidlais o blaid, 0 yn erbyn a 0 yn ymatal.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo'r argymhellion canlynol yn unfrydol -

 

(a)       bod y Cyngor Sir, fel yr Awdurdod Bilio, yn ystyried y praeseptau a dderbyniwyd gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a'r Cynghorau Tref / Cymuned a datgan lefelau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16;

 

(b)       bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16, yn unol ag Adrannau 32 i 34 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) a'r Rheoliadau Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol (Cymru) 2008 fel adran 3 Atodiad A;

 

(c)        bod y symiau a gyfrifwyd gan y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16, yn unol ag Adrannau 34 (2) i 36 (1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y Ddeddf) fel adran 4 Atodiad A;

 

(d)       bod symiau Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16 ar gyfer pob un o'r categorïau o anheddau fel a ddangosir yn Atodiad C yr adroddiad, a

 

(e)       bod lefel y disgownt ar gyfer Dosbarth A, B ac C fel a ragnodir o dan Reoliadau Treth y Cyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 2004 yn cael ei gosod ar sero ar gyfer blynyddoedd ariannol 2015/2016 a 2016/2017 trwy fod yn dymor y Cyngor hwn gyda'r cafeat bod hyn yn ddibynnol ar ddim newidiadau i ddeddfwriaeth neu amodau lleol.

 

 

Dogfennau ategol: