Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN - YSGOL LLANBEDR

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n amgaeedig) ynglŷn â phenderfyniad diweddar y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar ddyfodol Ysgol Llanbedr.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi cynnwys llythyr y Gweinidog, gweler Atodiad 1 yr adroddiad

 

(b)       cytuno bod y swyddogion yn dechrau ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ac yn adrodd yn ôl i'r aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad briffio’r Cabinet ar benderfyniad diweddar y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynglŷn â dyfodol Ysgol Llanbedr ac yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ac yn adrodd yn ôl i'r aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig i gau'r ysgol oherwydd iddo ddod i'r casgliad, er bod yna ddadleuon addysgol cadarn o blaid y cynnig, roedd yr ymgynghoriad yn ddiffygiol.  Yn dilyn adolygiad o'r llythyr penderfyniad, roedd swyddogion wedi argymell ymgynghori'n ffurfiol gyda'r Esgobaeth ar ddyfodol yr ysgol.  Dywedodd y swyddogion fod gan yr Esgobaeth opsiynau amgen ar gyfer yr ysgol ac y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei cheisio yn ystod y broses ymgynghori i ganfod a fyddai unrhyw gynnig amgen yn mynd i'r afael â'r holl faterion a nodwyd.   Trafododd y Cabinet y ffordd ymlaen yng ngoleuni'r wybodaeth a gyflwynwyd a chadarnhawyd mai diben yr adroddiad heddiw oedd peidio â thrafod cau’r ysgol, ond i geisio cymeradwyaeth i ddechrau ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru.  Byddai canlyniad y trafodaethau hynny yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Ebrill/Mai.  Eglurwyd hefyd na fyddai’r canlyniad yn effeithio ar weddill  cynigion adolygiad ardal Rhuthun.

 

Roedd y Cynghorydd Huw Williams yn gwrthwynebu cau yr ysgol ac yn siomedig bod y mater wedi'i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar ôl i’r Gweinidog wrthod y cynnig.  Amlygodd fod diffygion ymgynghori wedi eu nodi er gwaethaf sicrwydd blaenorol yn hynny o beth gan swyddogion ac yn dilyn cael ei alw i mewn gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau.  Cyfeiriwyd hefyd at y straen a achoswyd i staff, rhieni a disgyblion yr ysgol o ganlyniad.  Wrth ystyried y camau nesaf dywedodd y Cynghorydd Williams fod nifer y disgyblion yn cynyddu a gofynnwyd bod yr ysgol yn cael cyfnod o sefydlogrwydd i ffynnu - anogodd y Cabinet i beidio â chychwyn ymgynghoriad ffurfiol ar gau’r ysgol ond bod y mater yn cael ei ohirio hyd nes y ceir trafodaeth anffurfiol gyda’r Esgobaeth yn y lle cyntaf.  Siaradodd y Cynghorydd Joe Welch hefyd i gefnogi'r ysgol, gan dynnu sylw at fod cyllid yn ei le i fwrw ymlaen â chynigion adolygiad ardal Rhuthun ac nad oedd yn ddibynnol ar gau yr ysgol.  Roedd yn anhapus bod y swyddogion yn bwriadu ailddechrau ymgynghori ar gau’r ysgol a chododd gwestiynau ynglŷn â chost y broses ymgynghori.  Anogodd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd y Cabinet i gymryd amser i fyfyrio, yn enwedig yng ngoleuni'r rhagamcanion disgyblion, ac argymhellodd ymgynghori ehangach.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r materion a godwyd -

 

·        Roedd y Gweinidog yn fodlon bod gan y Cyngor achos addysgol cydlynol ar gyfer cau Ysgol Llanbedr a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Borthyn

·        Yn feirniadol roedd y Gweinidog yn fodlon y byddai'r cynnig yn sicrhau dosbarthiad tecach a mwy cyfartal o gyllid rhwng ysgolion prif ffrwd yn y sir

·        Sir Ddinbych oedd yr awdurdod lleol cyntaf i weithio at y Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd ac nid oedd y diffygion ymgynghori a nodwyd gan y Gweinidog wedi cael eu codi o'r blaen mewn unrhyw fforwm arall

·        Nid oedd swyddogion ac aelodau o reidrwydd yn cytuno â chanfyddiadau'r Gweinidog ac er fod adolygiad barnwrol wedi cael ei ystyried, nid oedd yn gyfystyr â’r defnydd gorau o amser ac adnoddau a chafodd yr opsiwn i ail-gychwyn ymgynghori ei argymell yn lle hynny – roedd costau ymgynghori wedi cael eu bodloni o fewn cyllideb y gwasanaeth

·        Byddai trafodaethau anffurfiol yn cael eu cynnal gyda’r Esgobaeth yn atodol i’r cyfnod ymgynghori ffurfiol o 28 diwrnod.  Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynigion amgen a fyddai’n ymdrin â'r materion allweddol a byddai'r Esgobaeth yn cael eu gwahodd i gyflwyno’r cynigion hynny i’r aelodau

·        roedd yn ofynnol i'r Cyngor i fynd i'r afael â’r lleoedd dros ben ar draws Sir Ddinbych gyfan ac adrodd yn ôl ar hynny i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn

·        Rhoddwyd sicrwydd na fyddai cefnogaeth i’r ysgol yn cael ei lleihau yn y cyfamser, beth bynnag fo'r canlyniad.

 

Ar ôl ystyried y llythyr y Gweinidog a’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth, roedd y Cabinet yn awyddus i daclo dyfodol yr ysgol cyn gynted ag y bo modd a rhoi diwedd ar y cyfnod o ansefydlogrwydd.  Cytunodd y Cabinet fod angen ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol gyda'r Eglwys yng Nghymru yn y lle cyntaf ac y dylid adrodd canlyniadau’r trafodaethau hynny yn ôl i'r Cabinet i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)       nodi cynnwys llythyr y Gweinidog, gweler Atodiad 1 yr adroddiad

 

(b)       cytuno bod y swyddogion yn dechrau ymgynghori â'r Eglwys yng Nghymru ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ac yn adrodd yn ôl i'r aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: