Eitem ar yr agenda
ASESIAD O AMDDIFFYNFEYDD ARFORDIROL Y RHYL
Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Uwch
Beiriannydd (copi ynghlwm) sy'n cyflwyno adroddiad drafft ar yr Asesiad o
Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, a gomisiynwyd gan y Cyngor ar ôl llifogydd
arfordirol fis Rhagfyr 2013.
10.10 a.m. tan 10.45 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd
ac Amgylcheddol a’r Uwch Beiriannydd a oedd yn cyflwyno adroddiad drafft i’r
Aelodau ar yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, a gomisiynwyd gan y
Cyngor ar ôl llifogydd arfordirol fis Rhagfyr 2013, gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Roedd y Pwyllgor wedi ystyried Strategaeth
Rheoli Risg Llifogydd Lleol Sir Ddinbych ym mis Rhagfyr, 2014 ac roedd wedi
mynegi dymuniad i weld yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl; i ddeall
ymatebion Llywodraeth Cymru (LlC) a Chyfoeth Naturiol Cymru iddo, ac i ystyried
y goblygiadau o ran unrhyw waith a allai fod yn ofynnol, a ffynonellau ariannu
posibl sydd ar gael.
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yr adroddiad
sy'n amlinellu natur yr Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, y prif
gasgliadau, trafodaethau dilynol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, cyfraddau
llifogydd eiddo, cynlluniau i liniaru risg a manylion ariannu.
Cyfeiriodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a Phennaeth y Gwasanaeth
Priffyrdd ac Amgylcheddol at yr adroddiad ac adroddiad yr ymgynghorydd ar yr
Asesiad o Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl, gan bwysleisio mai adroddiad
technegol iawn ei natur oedd yr adroddiad. Roedd yr adroddiad
wedi'i gomisiynu yn sgil y digwyddiad llifogydd arfordirol ym mis Rhagfyr, 2013
i asesu'r llifogydd tebygol o’r môr a achosir gan ddigwyddiad 1 mewn 200
mlynedd a pha mor debygol yw y bydd ddigwyddiad tywydd mor ddifrifol yn digwydd
eto. Eglurwyd y gallai darlleniad cyntaf o adroddiad yr
ymgynghorydd beri pryder, fodd bynnag, roedd ei asesiadau wedi bod yn seiliedig
ar gyfuniad o ddigwyddiadau tywydd, morol a seryddol i gyd yn digwydd ar yr un
pryd, a fyddai'n ddigwyddiad prin iawn.
Wrth ymateb i gwestiynau Aelodau, gwnaeth swyddogion:-
· egluro’r gwaith
lliniaru llifogydd a'r gwaith amddiffyn yr arfordir a wnaed hyd yma ers
digwyddiad llifogydd 2013 a'r gwaith arfaethedig a fydd yn cychwyn cyn diwedd y
flwyddyn galendr hon, roedd pob un wedi cael croeso da gan breswylwyr lleol. Byddai’r holl
waith hyn yn lleihau'r proffil risg ar gyfer llifogydd arfordirol difrifol yn
yr ardal, serch hynny, ni ellid byth ddileu'r risg yn llwyr;
· darparu trosolwg o sut
y byddai'r cynllun arfaethedig yn gweithio, a byddai’r cwrs golff yn cael ei
ddefnyddio fel safle i gronni dŵr llifogydd yn ystod adegau o lifogydd
difrifol. Pwysleisiwyd
bod y cynllun wedi ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r Clwb Golff ac am y
rhesymau pam y byddai angen i ddŵr gael ei gronni yno yn ystod argyfwng,
ni ddylai fod unrhyw atebolrwydd gan y Clwb ar gyfer iawndal am ddifrod i'r
grin yn ystod digwyddiad tywydd anarferol;
· egluro, os caiff ei adeiladu, byddai Morlyn
Ynni'r Llanw Gogledd Cymru arfaethedig, yn lleihau'r risg ymhellach o ddŵr
môr yn torri dros yr amddiffynfeydd arfordirol gan y byddai'n lleihau maint a phŵer
y tonnau sy’n taro'r draethlin. Fodd bynnag, ni fyddai’n cael ei adeiladu yn y
dyfodol agos felly roedd rhaid cymryd mesurau eraill i leihau'r risg o'r môr ar
gyfer y tymor byr i dymor canolig;
· egluro’r cynlluniau
ariannu amrywiol sydd ar gael i'r Cyngor i ariannu gwaith ymateb i lifogydd
mewn argyfwng a gwaith lliniaru yn y gorffennol;
· amlinellu’r gwaith a wnaed i gynghori
preswylwyr ar sut i ddiogelu eu heiddo os ceir llifogydd ar raddfa fach ac i
roi sicrwydd iddynt o'r gwaith sydd ar y gweill i leihau perygl o lifogydd mawr
yn y dyfodol;
· cadarnhau bod
Wardeiniaid Llifogydd eisoes ar waith yn ardal y Rhyl ond bod angen gwneud mwy
o waith gyda hwy i'w cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth preswylwyr o beth i’w
wneud mewn llifogydd;
· gwirio bod y Cyngor
hefyd yn gweithio gyda chwmnïau yswiriant ac ati i egluro’r perygl tebygol o
lifogydd yn yr ardal ac felly helpu preswylwyr i gael yswiriant cartref a
chynnwys fforddiadwy;
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd awgrymodd Aelodau y gallai fod yn
ddefnyddiol yn y dyfodol pe gwnaed mwy o ddefnydd o'r cyfryngau/cyfryngau
cymdeithasol ar gyfer rhybuddio pobl o lifogydd sydd ar fin digwydd. Teimlwyd hefyd
y byddai'n werth chweil cyfathrebu, ar y cyd â budd-ddeiliaid eraill, neges
gadarnhaol i'r preswylwyr sy'n amlygu fel yr oedd y Cyngor yn buddsoddi'n drwm
mewn mesurau lliniaru llifogydd mewn cyfnod o gyni mewn ymgais i ddiogelu pobl
ddiamddiffyn ac amlygu'r gwaith partneriaeth da a oedd yn digwydd rhwng yr holl
fudd-ddeiliaid i gyflawni'r gwaith hwn.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn:-
(a) derbyn ac yn nodi cynnwys
yr adroddiad,
(b) nodi, er mwyn eglurder, nad
oedd yr amleddau gorlifo a ddyfynnir yn yr adroddiad yn gyfystyr â'r ffigurau
“amlder llifogydd eiddo”, a ddefnyddir fel arfer yn asesiadau Llywodraeth Cymru
o risg, a
(c) cymeradwyo datblygiad y
cynlluniau lliniaru risg llifogydd sydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor Sir ar
hyn o bryd.
Dogfennau ategol: