Eitem ar yr agenda
CYDLYNU FFRYDIAU CYLLID CYMUNEDAU
Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm Datblygu Economaidd a Busnes y De (copi ynghlwm)
sy’n amlinellu’r sefyllfa gyfredol gyda’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) a chronfeydd
eraill sydd ar gael ar gyfer buddion Cymunedol.
9.35 a.m. tan 10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd adroddiad
gan Arweinydd Tîm Datblygu Economaidd a Busnes y De oedd yn amlinellu’r
sefyllfa gyfredol gyda’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) a chronfeydd eraill sydd ar
gael ar gyfer buddion Cymunedol wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Roedd yr adroddiad yn nodi'r
sefyllfa gyfredol ac argaeledd ffynonellau cyllid posibl, yn amodol ar feini
prawf cymhwyso, ar gyfer buddion Cymunedol. Roedd yn nodi’r gefnogaeth sydd ar gael i grwpiau Cymunedol wrth wneud cais
am gyllid trwy asiantaethau allanol a rhwydweithiau cefnogaeth, ac yn darparu
canllawiau ynglŷn â phrif ffynonellau’r UE a mathau eraill o gyllid sydd
ar gael ar hyn o bryd.
Roedd canllaw i’r prif
ffynonellau cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd wedi’u darparu ac yn cynnwys
Cyllid yr UE a Chronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020. Eglurwyd y byddai swm y
cyllid cyfatebol yn amrywio yn ôl pob thema a phrosiect. Roedd cyfraddau lefelau grant
y rhaglen wedi’u darparu i nodi’r lefelau grant a ragwelir. Roedd amcanion buddsoddi
ar gyfer rhaglenni yng Nghymru wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Hysbysodd yr Arweinydd Tîm y Pwyllgor wrth gyflwyno ei
hadroddiad bod:-
·Canolbwynt rownd
newydd Cyllid Ewropeaidd wedi newid. Dan y rhaglen
newydd byddai llai o brosiectau lleol yn derbyn cyllid, byddai pwyslais ar
brosiectau strategol mawr fyddai’n cael eu darparu naill ai yn isranbarthol, yn
rhanbarthol neu hyd yn oed yn genedlaethol:
·Penodwyd
Cadwyn Clwyd fel y Grŵp Gweithredu Lleol i ddarparu elfen ARWEINYDD y
Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) 2014/20, ond gan nad oedd yr Undeb Ewropeaidd
wedi cymeradwyo’r CDG hyd yn hyn, ni fyddai’r cyllid ar gyfer y prosiectau’n
cael ei ryddhau ac o ganlyniad roedd y staff wedi’u rhyddhau neu roeddent dan
hysbysiad diswyddo. Nid oedd hyn yn sefyllfa ddelfrydol ond
roedd tu hwnt i reolaeth y Cyngor;
·Roedd
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy wedi'u penodi yn weinyddwyr Cronfa Fferm
Wynt Gwynt y Môr yn ddiweddar. Roedd hyn
yn gais consortia, a oedd yn cynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint ymysg y partneriaid
eraill. Roedd y Grŵp Ymgynghorol yn awr
wedi trefnu cyfarfod ar 7 Ebrill i drafod meini prawf cymhwyso prosiect a sut i
symud ymlaen â dosbarthiad grant ac arian.
Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe gynghorodd yr
Arweinydd Tîm-
- O ran Cronfa
Gymunedol Gwynt y Môr roedd rhai anghysondebau ynglŷn â pha mor bell i
mewn i’r arfordir y dylid dyrannu buddion y Gronfa, y rheswm dros hyn yw er bod
y tyrbinau eu hunain oddi ar y lan roedd effaith weledol ar hyd yr arfordir, ac
roedd y cysylltiadau a’r is-orsaf gysylltiol ar y tir, gyda’r is-orsaf ger
Llanelwy, a
- Fel
rhan o waith Grŵp Ymgynghorol Gwynt y Môr roedd gan swyddogion Sir
Ddinbych berthynas waith dda gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy. Hyd yma
roedd Sir Ddinbych wedi’i gynrychioli ar Grŵp Ymgynghorol Gwynt y Môr gan
swyddogion, ond nawr bod gweinyddydd y gronfa wedi’i benodi mae’n debyg y
byddai’r aelodaeth a’r strwythurau yn cael eu hadolygu;
- Roedd
symiau o arian gohiriedig yn cael eu gweinyddu gan nifer o adrannau’r Cyngor
e.e. y Parth Cyhoeddus, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaethau Priffyrdd
a’r Amgylchedd, yn dibynnu ar y rheswm pam fod y symiau gohiriedig wedi’u
dyrannu. Cadarnhaodd bod holl symiau gohiriedig
mannau agored wedi’u hymrwymo;
- Gofynion
cyllid cyfatebol ar gyfer y rownd newydd o gyllid Ewropeaidd fyddai: Cronfeydd Strwythurol: 75% cyllid grant, 25% cyllid cyfatebol; CDG: 80% cyllid grant, 20% cyllid cyfatebol.
Nid oedd arian cyllid cyfatebol wedi’i ddyrannu gan y
Cyngor eto. Byddai dyraniad cyllid cyfatebol yn
cael ei ystyried ar rinweddau pob prosiect. Roedd
un prosiect wedi’i gyflwyno hyd yn hyn, roedd hyn yn ymwneud â phrosiect
sgiliau addysg ar gyfer myfyrwyr 14 i 19 mlwydd oed oedd mewn perygl o adael
byd addysg Byddai elfen cyllid cyfatebol y
prosiect ar ffurf staff y Cyngor yn prynu darpariaeth cwricwlwm amgen i
leihau’r risg o adael byd addysg;
- Byddai
cefnogaeth i gael gwybodaeth a derbyn cyllid ar gyfer prosiectau yn y dyfodol
ar gael trwy Gyngor Gwirfoddol Cymru, oedd yn darparu cefnogaeth benodol ar
gyfer y math hwn o waith. Byddai
gwybodaeth ar gael ar wefan GwerthwchiGymru hefyd;
- Roedd
dadansoddiad bwlch yn cael ei gyflawni i geisio nodi meysydd o wasanaethau
anstatudol fyddai'n elwa o gyllid CDG yn y dyfodol. Eglurwyd y byddai gan y Cynghorwyr rôl
bwysig wrth symud ymlaen fel cyswllt rhwng cymunedau a ffrydiau ariannu, gan y
byddent yn allweddol i gyfeirio grwpiau cymunedol ac ati at CGGSDd / Cyngor
Gwirfoddol Cymru, i gael cyngor a chefnogaeth;
- Nid
oedd yr holl gronfeydd cymunedol yn darparu cyllid datblygu at ddibenion
cwmpasu prosiectau, fodd bynnag roedd cyllid datblygu ar gael ar gyfer rhai
prosiectau’r Loteri FAWR;
- Roedd
rhai prosiectau isadeiledd mawr sy’n cael eu noddi gan Fwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, megis trydaneiddio’r rheilffordd yng Ngogledd Cymru, neu'r
morlyn llanw arfaethedig, y tu hwnt i gwmpas Cronfeydd Strwythurol Ewrop
oherwydd eu maint a'r gost;
- Nid
oedd yn ymwybodol o gyllid cymunedol sydd ar gael i gynorthwyo rhai sy’n prynu
tai am y tro cyntaf i gael mynediad i’r farchnad dai, ond byddai’n holi’r
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i weld os oeddent yn cynnig cyllid i’r
diben hwn, a byddai’n gwirio i weld os oedd y rheolau yn ymwneud â symiau
gohiriedig ar gyfer gofodau gwyrdd wedi newid.
Roedd y Pwyllgor yn awyddus bod Aelod Etholedig
yn cael ei benodi i gynrychioli Sir Ddinbych ar gorff olynol Bwrdd Ymgynghorol
Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr gan fod Gweinyddydd y Gronfa wedi’i benodi yn awr.
Cytunwyd hefyd y dylid nodi, yn y gwahoddiad i CGGSDd fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor,
dymuniad yr Aelodau i drafod rôl CGGSDd gyda’i gynrychiolwyr i gynorthwyo
cymunedau i dderbyn y ffrydiau amrywiol o gyllid cymunedol allanol sydd ar gael
iddynt.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD -
(a) derbyn yr
wybodaeth, yn amodol ar yr arsylwadau uchod;
(b) nodi rôl yr
Aelodau yn y gymuned i nodi prosiectau a chodi ymwybyddiaeth o ffynonellau
cyllid sydd ar gael i grwpiau cymunedol gyda’r diben o wneud y gorau o’r buddion
i’r cymunedau a chefnogi darpariaeth blaenoriaethau corfforaethol a Chynllun
Corfforaethol y Cyngor;
(c) argymell y
dylid cyflwyno sylwadau i Grŵp Ymgynghorol Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr yn
nodi y dylai bod Aelod Etholedig ar y corff perthnasol fydd yn goruchwylio
dyfarniad cyllid grant yn y dyfodol; a
(d) bod cyfarfod gyda Chyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych yn y dyfodol yn cynnwys trafodaeth ar rôl y sefydliad i
gynorthwyo a chefnogi grwpiau cymunedol i gael cyngor ynghylch ffrydiau cyllid
cymunedol allanol.
Dogfennau ategol: