Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH TYMOR HIR AR GYFER YR YSTÂD AMAETHYDDOL

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Rheolwr Prisio ac Ystadau (copi yn amgaeedig) sy'n gofyn i’r Pwyllgor archwilio a rhoi sylwadau ar y strategaeth arfaethedig ar gyfer Ystâd Amaethyddol y Cyngor yn y dyfodol cyn ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo.

 

10.10 a.m. – 10.45 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Prisio ac Ystadau, a oedd yn darparu gwybodaeth ar y strategaeth arfaethedig ar gyfer yr Ystâd Amaethyddol o 2015 ymlaen, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau’r adroddiad a strategaeth ddrafft hir dymor ar gyfer Ystâd Amaethyddol y Sir.    Eglurodd bod Gweithgor yr Ystâd Amaethyddol, oedd yn cynnwys cynrychiolaeth gan bob Grŵp Ardal yr Aelodau (GAA), wedi llunio strategaeth ar gyfer dyfodol yr ystâd fyddai’n diddymu atebolrwydd rheoli a chynnal a chadw trwm ac yn sicrhau gwell effeithlonrwydd o adnoddau’r Cyngor wrth liniaru effaith y toriadau mewn meysydd corfforaethol.     Eglurodd, pe bai’r strategaeth yn cael ei chymeradwyo a’i mabwysiadu, byddai'r daliadau amaethyddol yn cael eu gwaredu dan reolaeth, gan roi’r cynnig cyntaf i’r tenantiaid cyfredol i brynu eu daliad cyfan neu ran ohono (lle bo’n briodol).   Pe baent yn dewis prynu rhan ohono, byddai’n gweddill ohono'n cael ei rentu iddynt am gyfnod penodol o amser dan gytundeb tenantiaeth byr dymor gyda dealltwriaeth y byddai disgwyl iddynt brynu gweddill y tir ar ddiwedd y denantiaeth byr dymor, neu ei ildio.   Byddai unrhyw ddaliadau neu dir sy’n cael ei ildio'n cael ei werthu ar y farchnad agored i wireddu derbyniadau cyfalaf.   Byddai’r holl warediadau fel daliadau amaethyddol, gyda’r cyfamodau priodol a chytundebau gorswm yn rhan o’r gwerthiant.   

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau cadarnhaodd y Swyddogion y gellir cymhwyso cytundebau gorswm ar werthiant daliadau amaethyddol a thir am gyfnodau penodol o amser.    Byddai unrhyw ddaliadau fydd yn wag yn cael eu gwaredu ar y farchnad agored dan bwerau a ddirprwywyd i swyddogion / Aelod Arweiniol / Cabinet gan ddibynnu ar werth amcangyfrifedig y daliad.   Cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau at y trafodaethau sydd ar y gweill gyda choleg lleol o ran hwyluso proses i alluogi unigolion newydd i’r diwydiant dderbyn profiad ymarferol trwy gymorth a roddir gan y Cyngor.   Roedd y trafodaethau hyn yn y cam trafod ar hyn o bryd, ni wnaed unrhyw gytundeb hyd yma.   Awgrymodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg y byddai’n fuddiol cysylltu â sefydliadau eraill lle y rhoddir cyfle i unigolion sy’n newydd i’r diwydiant i redeg fferm am flwyddyn i gael profiad ymarferol a phrofiad rheoli gwerthfawr.    

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r Swyddogion:

·Y gellir cymhwyso trefniadau cyfamod a gorswm am gyfnod penodol o amser;

·Er mwyn codi ‘rhenti marchnad’ ar anheddau, adeiladau fferm, ffiniau a thir ac ati, roedd yn rhaid iddynt fod o ‘ansawdd y farchnad';

·Roedd y mwyafrif o ddaliadau sy’n eiddo i’r Cyngor y tu allan i safleoedd CDLl dynodedig ac felly ni allant elwa o werth tir y CDLl;

·Roedd llawer o’r buddsoddiadau diweddar yn yr Ystâd wedi’u hariannu naill ai trwy gyllid grant Ardal sy’n Agored i Niwed gan Nitradau neu gan y tenantiaid eu hunain;

·roedd yr ail-osodiad newydd diwethaf ar yr ystâd tua 10 mlynedd yn ôl;

·Gallai ystadau preifat elwa o fanteision treth ar gyfer ail-fuddsoddi, nid oedd y rhain ar gael ar gyfer ystadau cyhoeddus;

·Roedd y Cyngor wedi ysgrifennu at denantiaid yn amlinellu cynnwys y strategaeth arfaethedig a hyd yn hyn roedd 13 tenant wedi mynegi fod ganddynt ddiddordeb mewn prynu eu daliadau neu ran o’u daliadau;

·Rhagwelir y byddai’r Strategaeth yn un hirdymor oherwydd telerau’r tenantiaethau presennol, roedd rhai yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ond byddai’n cymryd tua 10 i 15 mlynedd arall i ddarparu'r strategaeth gyfan gan fod gan rai tenantiaid denantiaethau hirach;

·Ni ellir aildrafod hyd tenantiaethau heb resymau cyfreithiol dilys;

·Byddai’r holl ymrwymiadau dan Strategaeth Ystâd Amaethyddol 2010 yn cael eu hanrhydeddu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at ddaliad sy’n eiddo i’r cyngor a gymynroddwyd i’r Cyngor dan gyfamod y caiff ei osod i unigolyn sy'n newydd i’r diwydiant ffermio.   Roedd gan Gyngor Cymuned lleol bryderon ers cryn amser y byddai’r Cyngor Sir yn ceisio gwaredu’r ddaliadaeth fel rhan o strategaeth yn y dyfodol.   Gofynnodd am gael cofnodi pe bai’r Cyngor Sir yn penderfynu gwaredu’r daliad hwn bod y Cyngor Cymuned wedi nodi y byddai’n cyflwyno her gyfreithiol i’r penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar gyfamod y cymynrodd gwreiddiol.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl trwy bleidlais y mwyafrif:

 

PENDERFYNODD y pwyllgor argymell i’r Cabinet-

 

(a) ei fod yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu'r strategaeth ar gyfer dyfodol yr Ystâd Amaethyddol; a  

(b) nododd y Pwyllgor y byddai’r cyfamod(au) mewn perthynas â’r daliad a nodwyd uchod, ac unrhyw ddaliadau Ystadau eraill yn cael eu hymchwilio a’u cadarnhau cyn gwaredu’r daliad (daliadau).

 

 

Dogfennau ategol: