Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN GWEITHREDU ARGYMHELLIAD 2 ESTYN

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi yn amgaeedig) sy'n gofyn i’r Pwyllgor benderfynu a yw argymhellion Estyn bellach wedi’u bodloni ac a oes angen unrhyw waith monitro pellach ar y cynllun gweithredu.

9.35 a.m. – 10.10 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Addysg (PA), a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Estyn yn dilyn arolwg 2012, eisoes wedi'i ddosbarthu gyda phapurau'r cyfarfod.

 

Dangosodd prif ganfyddiadau Adroddiad Estyn bod yr Awdurdod Lleol wedi derbyn safon ‘Da’ ar gyfer tri chwestiwn allweddol, ag eithrio ‘Arweinyddiaeth’, lle’r oedd wedi derbyn safon ‘Rhagorol’.          Er mwyn gwella ymhellach roedd Estyn wedi llunio argymhellion ac roedd manylion y rhain yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Swyddogion bod fframwaith a strwythur ar waith i geisio mynd i'r afael ag argymhelliad 2. Roedd gwaith helaeth wedi’i gyflawni er mwyn ceisio mapio’r grwpiau a’r gweithgareddau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y Sir.   Byddai gwaith yn parhau tan o leiaf diwedd y flwyddyn galendr gyfredol i lenwi’r gronfa ddata â gwybodaeth ynglŷn â’r holl grwpiau sy’n hysbys i'r Cyngor, a rhagwelir bod tua 1000 o grwpiau.   Pwysleisiwyd bod yr ymarfer yn fwy cymhleth a chadarn na dim ond rhestru grwpiau sy’n hysbys, roedd hefyd yn cynnwys cyfarfod y grwpiau er mwyn deall eu hanghenion yn well a sicrhau eu bod yn ymwybodol o faterion megis eu cyfrifoldebau diogelu.   

 

Pwysleisiwyd bod gwaith yn parhau o ran sicrhau cronfa ddata gyson o glybiau ar gyfer pob maes e.e. clybiau chwaraeon ac ati. Fodd bynnag, nid oedd y clybiau na’r sefydliadau dan unrhyw rwymedigaeth i ymgysylltu â’r broses.    Ni fyddai arolwg ar-lein neu dros y ffôn o’r grwpiau yn briodol ar gyfer yr ymarfer hwn, gan ei bod yn broses o gyfraniad dwy ffordd oedd o fudd i’r naill a’r llall.   O ran cynnwys sefydliadau ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau yn yr ymarfer, cynghorodd y swyddogion bod y rhain yn cael eu cynnwys naill ai fel grwpiau a ddynodwyd fel rhai ar gyfer pobl anabl neu fel grwpiau oedd yn croesawu aelodau anabl a rhai nad ydynt yn anabl.   Roedd Cynllun Lles Sir Ddinbych ‘Cefnogi Annibyniaeth a Gwydnwch’ yn ategu at weledigaeth y Sir o sicrhau bod gwasanaethau a gweithgareddau ar gael ac yn hygyrch i bawb ledled y sir.   Er bod gan rai sefydliadau eraill gronfeydd data helaeth ynglŷn â’r gwasanaethau yn y gymuned roeddent yn amharod rhannu’r wybodaeth gyda’r Cyngor am resymau Diogelu Data.    

 

Mewn ymateb i awgrym gan yr aelodau, aeth y swyddogion ati i drafod gyda’r gweithwyr ieuenctid a fyddai’n ymarferol cynnig cyhoeddusrwydd i glybiau a chymdeithasau yn gyfnewid am eu cydweithrediad gyda’r broses o fapio'r gwasanaethau sydd ar gael yn y gymuned.

 

Awgrymodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg efallai y byddai’n fuddiol cyflwyno adroddiad tebyg i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor i Grwpiau Ardal yr Aelodau (GAA) gan y byddent yn eu rhinwedd fel llygaid a chlustiau’r cymunedau, yn gwybod am unrhyw grwpiau eraill nad ydynt ar y gronfa ddata neu wedi derbyn gohebiaeth gan y swyddogion.

 

Roedd yr Aelodau a Phennaeth Addysg yn gytûn bod aneglurder argymhelliad Estyn yn ei gwneud yn anodd iawn i’r Cyngor wybod beth yn union yr oeddent ei angen er mwyn bod yn fodlon eu bod wedi cydymffurfio’n llawn â’r argymhelliad.   Serch hynny, roedd y swyddogion yn fodlon fod ganddynt broses effeithiol, eglur ar waith i ganfod y rhan fwyaf o wasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn y Sir.   Roeddent yn fodlon y gallai’r Awdurdod ddangos eu bod wedi bodloni Argymhelliad 2 y tro nesaf y bydd arolwg gan Estyn.   Byddai mesur effaith y gwasanaethau hyn ar yr Awdurdod a’i bartneriaid a mesur gwerth am arian i ddarparu gwell canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc dros gyfnod hir o amser yn llawer anoddach.   Felly awgrymwyd y dylai Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio drafod y dull mwyaf priodol o archwilio’r agwedd hon.   Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD -  

 

(a)    Yn seiliedig ar yr wybodaeth a'r sylwadau a nodwyd uchod, mae’r Pwyllgor o’r farn fod yr Awdurdod Addysg Lleol wedi diwallu argymhellion Estyn; ac

(b)    Mai Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio yw’r dull mwyaf priodol o fonitro effaith a gwerth am arian gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau i ddarparu gwell canlyniadau ar eu cyfer nhw, ar gyfer yr Awdurdod a’i bartneriaid.

 

 

Dogfennau ategol: