Eitem ar yr agenda
PAPUR GWYN – DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL, PŴER I BOBL LEOL
Ystyried adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd (copi’n amgaeedig),
ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru - 'Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni -
Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl
Leol’.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau
Dynol a Democrataidd, ar Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru o’r enw Diwygio
Llywodraeth Leol: Pŵer i Bobl Leol, ('y Papur'), a oedd wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd y Papur yn destun ymgynghoriad tan 28 mis Ebrill ac roedd yr
adroddiad yn ceisio canfod barn y Pwyllgor ar y cynigion sydd yn y papur, yn
enwedig yr elfennau hynny sy'n ymwneud yn uniongyrchol â materion llywodraethu
corfforaethol. Roedd crynodeb o’r Cynllun Corfforaethol wedi’i
gynnwys fel Atodiad 1.
Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd yr adroddiad ac
eglurodd bod y Papur helaeth yn cynnwys nifer o gynigion polisi clir, gan
ailadrodd ymrwymiadau polisi blaenorol, megis uno, cysylltiadau â Bil
Cenedlaethau'r Dyfodol ac ati, a nifer o gwestiynau penagored sy’n ceisio barn
am opsiynau polisi. Roedd rhai o'r cynigion ac opsiynau polisi yn gymhleth
ond yn cynnig manylion cyfyngedig o amgylch sut y byddai cynigion yn cael eu
rhoi ar waith. Roedd naw prif bennod yn y Papur a oedd yn cynnwys arolwg ymgynghori,
Atodiad 2. Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried yn arbennig y Bennod o’r enw 'Llywodraethu
a Gwella Corfforaethol' ynghyd â meysydd eraill yn y Papur a oedd yn effeithio
ar faterion llywodraethu corfforaethol a oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad.
Cafodd yr anawsterau a wynebwyd wrth ddarparu ymateb eu hamlinellu gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol
a Democrataidd. Esboniodd y bwriadwyd drafftio dogfen i ymateb i
bob mater a godwyd yn yr arolwg tri deg tudalen ac i gynhyrchu dogfen glawr
sy'n rhoi barn, os cytuna’r Aelodau, ar y themâu cadarnhaol yn y Papur Gwyn. Fodd bynnag, i
fynegi'r farn bod y Papur Gwyn yn canolbwyntio ar faterion allweddol ac amlygu
barn Sir Ddinbych ar y materion hyn.
Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd grynodeb manwl o'r
adroddiad a oedd wedi canolbwyntio ar feysydd canlynol y Papur:-
Paragraff 2.12
Paragraff 2.10
Pennod 3, f, g
Paragraff 3.5
Pennod 4
Pennod 6
Paragraff 6.4
Pennod 7
Pennod 8
Pennod 9
Amlinellodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y prif faterion i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Cyfeiriodd at
ddyheadau Llywodraeth Cymru i wella a chynyddu safonau Arweinyddiaeth o
safbwynt llywodraethu corfforaethol ar lefel swyddogion a gwleidyddol, gyda'r
newidiadau arfaethedig i broses benodi uwch swyddogion mewn Awdurdodau Lleol. Amlinellwyd y
tri opsiwn a ystyriwyd i gyflawni’r amcanion gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd, a chyfeiriwyd yn arbennig at y posibilrwydd o gyflwyno Comisiwn Penodiadau
Sector Cyhoeddus a sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus
Cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at y manteision sydd i'w cyflawni drwy groesawu'r ffocws ar lywodraethu
corfforaethol, arweinyddiaeth, perfformiad a gwella a thynnu sylw at feysydd
sy’n cael eu hystyried fel arfer da.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr angen i'r
Pwyllgor ganolbwyntio a rhoi ffocws ar faterion llywodraethu wrth ystyried
cynnwys yr ymateb.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd
mynegodd yr Aelodau eu barn mewn perthynas â'r materion canlynol: -
-
y manteision
i'w cyflawni o rannu prosesau arfer gorau, fel sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd
yn Sir Ddinbych.
-
pwysigrwydd
cyfansoddiad y Byrddau Ardal Lleol perthnasol sy'n cyfrannu at y broses.
-
arwyddocâd
cyfranogiad cymunedau lleol wrth wneud penderfyniadau ar lefel leol.
-
rôl, cylch
gwaith a dynodiad Cynghorau Cymuned yn y dyfodol.
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd ei fod wedi
dechrau drafftio ymateb naratif o Sir Ddinbych a oedd yn cynnwys ymatebion i
bob un o'r blychau ticio, gan dynnu sylw at unrhyw faterion o bryder ac
amlinellu meysydd yr ystyrir i fod yn themâu mawr. Pwysleisiodd
bwysigrwydd cyfranogiad Aelodau a chynnwys eu barn yn yr ymateb.
Cytunodd y Cadeirydd y dylai'r ymateb naratif gael ei
fynegi mewn ffurf bositif, a mynegodd y farn bod llawer o'r arferion gorau
eisoes wedi cael eu mabwysiadu a'u gwneud gan yr Awdurdod. Teimlwyd y
dylai'r ymateb hefyd gynnwys y pryderon a fynegwyd mewn perthynas â manylion
penodol megis aelodaeth y Byrddau Ardal Lleol a'r agweddau gweinyddol.
Ystyriodd yr Aelodau'r mater a oedd yn ymwneud â
chyfansoddiad y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, a chyfeiriwyd yn arbennig
at nifer yr Aelodau Annibynnol a’u penodiad.
Eglurodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ei fod wedi dechrau drafftio ymateb mewn perthynas ag Aelodau Annibynnol a
oedd yn cynnwys: -
·
Byddai
Aelodau Annibynnol yn dod â safbwynt ffres gyda her a barn wahanol i rai’r
Aelodau Etholedig, ac roedd hyn wedi gweithio'n dda o ran Pwyllgor Archwilio
Llywodraethu Corfforaethol Sir Ddinbych.
·
Roedd y
Pwyllgor yn falch o nodi na awgrymwyd y dylid cael mwyafrif o Aelodau
Annibynnol.
·
Teimlwyd na ddylai
cadeiryddion yn awtomatig fod yn Aelodau Annibynnol, ond ni ddylai hyn atal
Aelod Annibynnol rhag bod yn gadeirydd, gyda'r Pwyllgor yn penodi'r cadeirydd.
Amlygodd Mr P. Whitham bwysigrwydd
Aelodau Annibynnol i fod yn wybodus, deallus a gyda gwir ddiddordeb mewn
gwasanaethu fel Aelodau ar Bwyllgorau Llywodraethu Corfforaethol, a gofynnodd a
fyddai cynyddu nifer yr Aelodau Annibynnol sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau
Llywodraethu Corfforaethol yn mynd i’r afael â'r mater hwn.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - yn amodol
ar sylwadau’r Aelodau, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn
derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac
(b)
yn
cytuno bod y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd
yn drafftio ymateb fel yr amlinellwyd yn ystod y drafodaeth.
(GW i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- W Paper Report, Eitem 7. PDF 130 KB
- W Paper App 1, Eitem 7. PDF 482 KB
- W Paper App 2, Eitem 7. PDF 722 KB