Eitem ar yr agenda
Y DIWEDDARAF AR GAFFAEL GWASANAETHAU ADEILADU
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro (copi ynghlwm)
sy'n nodi manylion cynnydd gwaith dilynol diweddaraf Archwilio Mewnol mewn
perthynas â Chaffael Gwasanaethau Adeiladu.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Rheolwr Caffael Strategol
Dros Dro eisoes wedi'i ddosbarthu.
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion o gynnydd yr adran Archwilio Mewnol o
waith dilynol diweddaraf o ran Caffael y Gwasanaethau Adeiladu yn dilyn ei
adroddiad cychwynnol ym mis Hydref 2013 ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
(SAC) ar gyfer Mawrth 2014. Dyma’r ail adroddiad dilynol, gyda’r un blaenorol
ym mis Medi 2014.
Gofynnodd y Pwyllgor am adroddiad dilynol pellach ar gyfer Caffael
Gwasanaethau Adeiladu i’w gyflwyno i roi sicrwydd bod gwelliannau wedi'u gwneud
ers adroddiad mis Rhagfyr 2014.
Wedi’u cynnwys yn yr adroddiad y mae manylion canfyddiadau adroddiad
Archwilio Mewnol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu a wnaed ym mis Hydref 2013,
ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd yn cwmpasu gwaith cynnal a chadw
adeiladau ysgolion. Mae'r cynllun gweithredu dilynol (Atodiad 1) yn
cynnwys 21 cam gweithredu y gwasanaeth Archwilio Mewnol a chynlluniau
gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru. Er bod rhywfaint o
gynnydd wedi’i wneud ers yr adroddiadau dilynol ym mis Medi a mis Rhagfyr 2014,
dim ond wyth cam gweithredu sydd wedi eu gweithredu'n llawn. Mae dau arall
bellach wedi'u cwblhau a’r camau sy'n weddill ar y gweill i’w cwblhau. Yn arbennig, bu
cynnydd o ran datblygu strategaeth gaffael ddrafft a bu cynnydd sylweddol yn y
swyddogaeth rheoli contractau yn y system e-ffynonellu yn dilyn ymdrech bellach
i gasglu data. Efallai bod trosglwyddo i'r Gwasanaeth Caffael
Cydweithredol gan Gyllid ac Asedau i Gyfathrebu, Marchnata a Hamdden yn debygol
o effeithio ryw fymryn ar rai amserlenni.
Darparodd y Rheolwr Caffael Strategol dros dro grynodeb manwl o'r Cynllun
Gweithredu (Atodiad 1) ac eglurodd fod y rhan fwyaf o'r oedi a gafwyd wedi
ymwneud â staffio a materion Cronfa Cydweithredol Rhanbarthol. Mae
Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cydnabod y cynnydd a wnaed ac yn
cyfeirio at y materion a oedd sy’n dal i fodoli ac awgrymodd bod adroddiad
cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mai, 2015 pan fydd y
pwyntiau gweithredu hyn wedi cael sylw.
Amlygodd Mr P. Whitham bwysigrwydd sicrhau bod pob aelod staff sy'n ymwneud
yn uniongyrchol â chaffael yn ymwybodol o'r Rheolau Gweithdrefn Contractau ac
wedi derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol cyn gynted â phosibl, a bod
tystiolaeth ar gael bod yr hyfforddiant wedi’i ddarparu. Eglurodd yr
ASPM bod pecynnau cynefino corfforaethol ar gyfer staff newydd bellach yn
cynnwys manylion yn ymwneud â'r Rheolau Gweithdrefn Contractau, a bod adolygiad
o ddeunyddiau hyfforddi yn cael ei wneud ar hyn o bryd yn seiliedig ar yr
hyfforddiant a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint, ac mae rhestr o gyrsiau
hyfforddiant yn cael eu trefnu ar gyfer y 180 o aelodau staff gyda swyddi yn
cynnwys gwaith gyda Rheolau Gweithdrefn Contractau. Mae’n rhaid i bob aelod
staff ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eu bod wedi derbyn yr hyfforddiant.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr Whitham, esboniodd yr Rheolwr Caffael
Strategol dros dro y byddai darparu hyfforddiant ar Rheolau Gweithdrefn
Contractau ar gyfer aelodau staff sy'n gweithio mewn ysgolion yn cael eu trefnu
gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg, a gellid darparu manylion yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem fusnes rhif 8 ar yr agenda. Hefyd,
cadarnhaodd yr Rheolwr Caffael Strategol dros dro y byddai'r Rheolau
Gweithdrefn Contractau yn cael eu defnyddio i gyflawni Cynllun Corfforaethol y
Cyngor, a’r rôl y cyfeiriwyd yn arbennig ati yn y rhaglen ysgolion yr unfed
ganrif ar hugain.
Mynegodd y Cynghorydd D.C. Duffy ei bryder ynghylch yr oedi a brofwyd wrth
fodloni amserlenni fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn yr
adroddiad a mynegi ei bryder ynghylch yr
oedi a brofwyd wrth fodloni amserlenni fel yr amlinellir yn y Cynllun
Gweithredu, a
(b)
gofyn bod
adroddiad cynnydd pellach yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Mai 2015 o’r
Pwyllgor.
(SA i Weithredu)
Dogfennau ategol: