Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CADEIRYDD

I ystyried adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) sy’n galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ac i gyfrannu at Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd, cyn i'r eitem gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd, a chyfrannu ato, cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn. Roedd yr MO wedi bod yn arbennig o awyddus i gymryd barn y Cadeirydd a’r Pwyllgor i ystyriaeth ar y cynnwys, a nodir y manylion arfaethedig yn adran 4.

 

Cytunwyd y dylai Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd gael ei gyflwyno ar waith y Pwyllgor, a’i ganfyddiadau ac arsylwadau, i holl Aelodau'r Cyngor fel rhan o ymgyrch y Pwyllgor i gynyddu safonau ymddygiad moesegol a chydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau. Hwn oedd Adroddiad Blynyddol cyntaf y Cadeirydd i'r Cyngor Llawn, oedd yn cwmpasu’r cyfnod Ionawr-Rhagfyr 2014. Byddai’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am dueddiadau, materion o ran cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad Aelodau yn gyffredinol ar draws y Sir, a gwaith y Pwyllgor wrth godi safonau ymddygiad ar lefelau Sir, Tref, Dinas a Chymuned. Roedd  manylion ynghylch y cyfansoddiad a phwerau'r Pwyllgor wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn arbennig at y broses benodi a rôl Aelodau Annibynnol.

 

Cyn 2014, roedd y Pwyllgor wedi bod yn gyfrwng i ddiwygio Cod Ymddygiad y Cyngor i wneud hyfforddiant ar y Cod yn rhwymedigaeth orfodol; cyflwyno Protocol Hunan-Rheoleiddio, gan sicrhau bod hyfforddiant ar draws y Sir i'r Sir a digwyddiadau sioe deithiol 'Cod' yn cael eu cyflwyno gan yr MO a'i ddirprwy ar lefel Cynghorau Tref, Dinas, a Chymuned a deunydd cyhoeddusrwydd i gynorthwyo Clercod yn y cymunedau.
 
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf roedd y Pwyllgor wedi trefnu i gwrdd bum gwaith ac wedi cyfarfod ar 4 achlysur oherwydd bod cyfarfod mis Hydref wedi’i ganslo. Mae tabl yn yr adroddiad yn darparu crynodeb o'r eitemau i’w trafod. Mae'r tair eitem fusnes sefydlog ar y rhaglen ar gyfer pob cyfarfod yn cynnwys:-

 

 

(i)              Adroddiadau gan Aelodau Safonau mewn perthynas â’u presenoldeb ac arsylwadau mewn cyfarfodydd Pwyllgor neu Gyngor, boed ar lefel Sir neu Gymuned.

(ii)             Trosolwg o Gwynion yn erbyn Aelodau gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

(iii)            Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Mae hon yn fenter newydd i alluogi’r Pwyllgor i fabwysiadu’r un dull strategol â’r Pwyllgorau eraill, ac i dargedu ei adnoddau i feysydd eraill o flaenoriaeth.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd W.L. Cowie a fyddai’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi manylion adroddiadau Aelodau ar ymweliadau â chyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.  Eglurodd yr MO, yn amodol ar gymeradwyaeth, y gallai'r adroddiad nodi bod ymweliadau rheolaidd â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned wedi cael eu cynnal gan Aelodau'r Pwyllgor, a phe bai’r MO neu'r DMO yn cael cais i gymryd unrhyw gamau, fe allai hyn gael ei adrodd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater a godwyd. Awgrymodd y Cynghorydd D.E. Jones y gellid cynnwys yr ystadegau cyffredinol yn ymwneud â nifer yr ymweliadau a wnaed, a'u canlyniad dilynol, yn yr adroddiad yn amlinellu cyflwr a fframwaith cyffredinol y Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned. Teimlai'r Cynghorydd Jones y gallai adroddiadau negyddol greu awyrgylch anodd a bod yn niweidiol i annog enwebiadau ar gyfer swyddi gwirfoddol ar Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

 

Cwestiynodd y Cadeirydd y cyfeiriad at Wasanaethau Erlyn y Goron ym Mharagraff 4.2. Rhoddodd yr MO fanylion am bwerau ei ymchwiliad, a chyfeiriodd at yr ystadegau ar gael mewn perthynas â nifer yr achosion na ddilynwyd.  Cytunodd y Pwyllgor fod argaeledd y pŵer wrth gefn yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cytunwyd ar y newidiadau canlynol i'r Adroddiad Blynyddol Drafft:-

 

·                 Paragraff 4.1 - "Cadeirydd y Pwyllgor Safonau" yn cael ei ddiwygio i ddweud "adroddiad y Pwyllgor".

 

·                 Paragraff 4.3 yn cael ei newid i ddweud "Cyn 2014 mae’r Pwyllgor wedi bod yn allweddol yn y Cyngor i ddiwygio ei God Ymddygiad i wneud hyfforddiant ar y Cod yn rhwymedigaeth orfodol ar gyfer Cynghorwyr Sir”

 

·                 Yr Adroddiad i gyfeirio at Egwyddorion Nolan ac i gynnwys y saith egwyddor bywyd cyhoeddus.

 

·                 Cynnwys nodyn am  bresenoldeb y Cadeirydd yn Fforwm Safonau Gogledd Cymru, sy'n cynnwys Cadeiryddion pob un o'r chwe Phwyllgor Safonau yng Ngogledd Cymru, a manylion ynghylch gwaith y Fforwm.

 

·                 Cytunwyd y dylid adlewyrchu cyfeiriad at yr adborth cadarnhaol a negyddol o'r gymuned yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod copi drafft o Adroddiad Blynyddol y Cadeirydd yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Mawrth, 2015 ar gyfer ei archwilio cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y diwygiadau uchod, bod y Pwyllgor Safonau yn:-

 

(a)            derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac

(b)            gofyn bod copi drafft o’r Adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod ym mis Mawrth, 2015 ar gyfer ei archwilio cyn ei gyflwyno i'r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: