Eitem ar yr agenda
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU
I ystyried adroddiad (mae copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro ar gyfarfod
Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2014.
Cofnodion:
Copi
o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) (copi’n amgaeedig) a oedd yn rhoi gwybod
am y drafodaeth yn Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru (NWSCF) ar 26
Tachwedd, 2014, a oedd wedi'i fynychu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru (PSOW).
Prif fusnes y cyfarfod oedd cwrdd ag Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Cymru (PSOW), Mr Nick Bennett, a gofyn am ei farn
ynglŷn â materion sy'n wynebu Pwyllgorau Safonau yng Nghymru ar hyn o
bryd. Roedd y NWSCF wedi ysgrifennu 13 o
gwestiynau er mwyn strwythuro'r drafodaeth gyda'r PSOW. Ceir copi o'r cwestiynau a ofynnwyd i'r
PSOW, ynghyd â chofnod o'i atebion, yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.
Crynhodd yr MO yr adroddiad ac eglurodd fod y PSOW
yn awyddus i gwrdd â chynrychiolwyr y Pwyllgor Safonau, a gwrando ar eu barn
a'u pryderon am faterion cyfredol. Roedd
yn gefnogol iawn i waith Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ac i’r cymorth
y mae Pwyllgorau Safonau yng Ngogledd Cymru yn ei gynnig i’w gilydd drwy
gyfrwng y Fforwm. Darparodd yr MO
grynodeb manwl o drafodion y cyfarfod.
Gosododd y PSOW waith ei swyddfa yng nghyd-destun
llai o adnoddau cyhoeddus a'r angen i waith ei swyddfa gynnal hyder y cyhoedd
yn y broses ddemocrataidd tra blaenoriaethir adnoddau prin sydd ganddo. Pwysleisiodd y PSOW nad oedd ganddo fawr o
feddwl o gwynion blinderus a dywedodd bod angen i’r ymchwiliadau y bydd ei
swyddfa yn eu cynnal fod yn gymesur â'r lles i’r cyhoedd yn y mater yr
ymchwilir iddo. Roedd y PSOW wedi bod yn
awyddus i gefnogi datrys cwynion yn lleol mewn perthyn â’r Cod Ymddygiad a
fyddai'n cynyddu pa mor gyflym y gellir ymdrin â chwynion.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon ei fwriad i gyhoeddi
canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol yng ngoleuni dyfarniad diweddar ac i
symleiddio'r canllawiau a ddarperir i Aelodau, yn enwedig mewn perthynas â
datgan cysylltiad. Byddai prawf lles y
cyhoedd hefyd yn cael ei gyflwyno ac roedd hyn yn destun adroddiad ar wahân i'r
Pwyllgor Safonau.
Ystyriodd y Fforwm eitem ar ddarparu
hyfforddiant Cod Ymddygiad i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ac maent wedi
cael gwybod am ddull Cyngor Sir Ynys Môn i ddarparu hyfforddiant wedi'i deilwra
i glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned er mwyn eu galluogi i fod yn y pwynt
cyntaf o gyngor mewn perthynas â materion Cod Ymddygiad. Roedd y dull hwn wedi arwain at ddatblygu'r
berthynas sydd rhwng clercod a'r MO, ac yn dilyn yr hyfforddiant roedd nifer o
glercod wedi manteisio ar y cyfle i gysylltu â'r MO i drafod materion yn
ymwneud â'u Cynghorau. Roedd trafodaeth
ar rinweddau Awdurdodau eraill yn cymryd agwedd debyg at ddarparu hyfforddiant
i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Cafwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau gan y Cynghorydd W.L. Cowie:-
-
Cytunodd y Cadeirydd i ofyn am farn yr NWSCF ynglŷn
â phresenoldeb Cynghorwyr Sir mewn cyfarfodydd NWSCF.
-
Cytunodd yr MO i ddarparu eglurhad ynghylch presenoldeb
Aelodau o'r Pwyllgor Safonau mewn cyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned,
wrth ystyried eitemau busnes Rhan II. Rhoddwyd cadarnhad i Aelodau y
byddai'r Pwyllgor Safonau â hawl i fynychu unrhyw gyfarfod o Gynghorau Dinas,
Tref a Chymuned y Sir, wrth ystyried eitemau busnes Rhan II.
Ymatebodd yr MO i gwestiynau gan y Cyng. D.E. Jones ac esboniodd fod cyfarfodydd y Cyngor
Cymuned, cyfarfodydd lleol y Cyngor, yn gyfarfodydd cyhoeddus a gall unrhyw
aelod o’r cyhoedd eu mynychu. Amlygodd y
Cynghorydd Jones sylwadau hefyd yn ymwneud ag argaeledd adnoddau digonol ar
gyfer clercod Cynghorau Tref a Chymuned i weithredu protocol datrysiad
lleol.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD -bod y Pwyllgor Safonau:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad,
(b)
y Swyddog Monitro i ddarparu
eglurhad ynghylch presenoldeb Aelodau o'r Pwyllgor Safonau mewn cyfarfodydd
Cynghorau Dinas, Tref a Chytundeb, wrth ystyried eitemau busnes Rhan II.
(G. Williams i weithredu ar hyn)
Dogfennau ategol: