Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN LLEIHAU TRETH Y CYNGOR 2015/15

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) i fabwysiadu'r Cynlluniau Lleihau Treth y Cyngor a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Diwygiadau i Ofynion Rhagnodedig (Cymru) 2015, o ran blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar fabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Cymru Gyfan a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor Cymru Gyfan a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2015.

 

Eglurodd fod Deddf Diwygio Lles 2012 yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu budd-dal treth y cyngor yn ei ffurf bresennol ar draws y DU.  O 31 Mawrth 2013 daeth budd-dal treth y cyngor i ben ac mae'r cyfrifoldeb am ddarparu cefnogaeth ar gyfer treth y cyngor a'r arian sy'n gysylltiedig ag ef, wedi ei basio i Lywodraeth Cymru (LlC).  Mae LlC, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru, wedi cyflwyno cynllun newydd i ddarparu cymorth treth y cyngor a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2013.

 

Roedd LlC wedi cymeradwyo’r ddwy set o reoliadau ar 14 Ionawr 2014 ac roedd gofyn mabwysiadu Rheoliadau newydd Cynlluniau Gostyngiadau Treth y Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau diwygio 2015, erbyn 31 Ionawr 2015.

 

Y Cynllun Arfaethedig 2015/16.

 

Wrth ystyried datblygu cynllun newydd ar gyfer 2015/16 roedd LlC wedi cytuno y dylai'r cynllun diwygiedig ddilyn y paramedrau canlynol:-

 

·                 Parhau gydag un cynllun a ddiffinnir yn genedlaethol i ddarparu lefel gyson o gymorth i hawlwyr yng Nghymru.  Roedd uchafswm lefel y cymorth wedi’i osod ar 100%.

·                 Parhau i ddarparu nifer fach o elfennau dewisol, yn debyg i'r rhai sydd ar gael o dan y cynllun presennol, gan alluogi awdurdodau lleol i ymateb i'w hamgylchiadau lleol gwahanol, ar yr amod bod y costau o unrhyw amrywiad lleol yn cael eu hariannu yn lleol.

·                 Parhau i fod yn seiliedig ar ddiwygiad o’r system Budd-dal Treth y Cyngor flaenorol, tan 2016-17 fel bod risgiau gweithredol yn cael eu rheoli ac y gallai cymorth barhau i gael ei ddarparu.

·                    Mân ddiwygiadau i adlewyrchu cyflwyno Absenoldeb Rhiant a Rennir a thâl rhieni statudol a rennir a wnaeth ddisodli cyfnod tadolaeth ychwanegol a thâl tadolaeth statudol ychwanegol o 5 Ebrill 2015. Roedd darpariaethau trosiannol hefyd wedi’u darparu ar gyfer y rhai sy'n cael tâl tadolaeth ar 1 Ebrill 2015.

·                 Cafodd diwygiad ei gynnwys a oedd yn adlewyrchu newidiadau a wnaed i Reoliadau Budd-dal Tai i ddileu hawl awtomatig i Leihau Treth y Cyngor ar gyfer ceiswyr gwaith mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), sy'n gymwys ar hyn o bryd yn rhinwedd derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm.  Roedd diwygiadau i’r Rheoliadau Codiadau yn cael gwared ar fynediad i CTRS ar gyfer ceiswyr gwaith AEE. Fodd bynnag, roedd hyn ond yn berthnasol i'r rhai a oedd yn gwneud cais newydd am CTRS ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015 neu sy'n stopio â bod yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm am gyfnod ar ôl y dyddiad hwn, er enghraifft, os byddant yn mynd i mewn i gyflogaeth dros dro.

·                 Cafodd mân ddiwygiadau canlyniadol hefyd eu gwneud mewn perthynas â diffiniadau ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a chyfeiriadau at Gredyd Cynhwysol.  Nid oedd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm bellach yn cynnwys lwfansau cyfrannol sy’n seiliedig ar incwm ar wahân, yn hytrach dim ond lwfans cyfrannol a elwir yn 'lwfans cyflogaeth a chymorth'.  Gwnaed diwygiadau hefyd i fewnosod cyfeiriadau at Gredyd Cynhwysol yn Rheoliadau 2013 lle roedd cyfeiriadau eisoes at fudd-daliadau eraill sy'n gysylltiedig ag incwm.

·                 Byddai’r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeiswyr i leihau Treth y Cyngor yn cael eu huwchraddio yn unol â'r Budd-dal Tai, fel y nodwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

 

Roedd Elfennau dewisol ar gyfer penderfyniad y Cyngor yn cynnwys:-

 

a)              Y gallu i ymestyn y cyfnod talu estynedig safonol o 4 wythnos a roddir i bobl wedi iddynt ddychwelyd i’r gwaith, pan maent wedi bod yn derbyn budd-dal cymwys perthnasol am o leiaf 26 wythnos.

 

b)              Disgresiwn i ddiystyru rhan o neu swm llawn pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel wrth gyfrifo incwm.

 

c)               Y gallu i ôl-ddyddio, hyd at 6 mis, unrhyw ddyfarniadau Cymorth Treth y Cyngor ar gyfer cwsmeriaid o oedran gweithio fwy na'r cyfnod safonol o 3 mis cyn y cais.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod LlC wedi cynnal ymarfer ymgynghori ffurfiol ar y cynllun presennol a’r newidiadau posibl, gan ei alluogi i fod yn gost niwtral i Awdurdodau Lleol.  Roedd sylwadau wedi eu gwneud gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Sir Ddinbych, gan awgrymu diwygiadau i'r cynllun.

 

Ar ôl ystyriaeth briodol, penderfynwyd parhau â'r cynllun fel y mae tan ar ôl etholiadau nesaf y cynulliad, gydag unrhyw ddiffyg rhwng y lleihad a roddir a’r grant penodol a dderbynnir, yn cael ei feddu gan yr Awdurdod Lleol.  Roedd LlC hefyd wedi penderfynu y byddai’r lefelau cyllid ar gyfer y cynllun yn aros ar lefelau 2013/14, a oedd yn creu pwysau cyllidebol yn 2014/15 ac yn parhau i wneud hynny yn 2015/16.  Bydd mabwysiadu’r cynllun yn helpu pobl ddiamddiffyn, gan sicrhau eu bod yn byw mor annibynnol ag sy’n bosib.

 

Byddai incwm grant yn cael ei golli trwy'r newidiadau i'r system Budd-daliadau Treth y Cyngor.  Yn 2015/16, byddai’r Cyngor yn cael cyllid o £9.167m ar gyfer Cymorth Treth y Cyngor gan LlC.  Fodd bynnag, y gwariant presennol oedd £9.5m, ac os byddai Sir Ddinbych yn cynyddu Treth y Cyngor o 3% ac y byddai'r Heddlu yn cynyddu Treth y Cyngor o 5%, y rhagolwg ar gyfer 2015/16 fyddai tua £9.8m.  Byddai hyn yn arwain at ddiffyg o tua £663k ar gyfer 2015/16.  Gall y diffyg un ai gynyddu neu leihau yn dibynnu ar y lefelau o Dreth y Cyngor a godir ar gyfer 2015/16 ac/neu unrhyw amrywiadau pellach ar lwyth achosion.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:-

 

mabwysiadu Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig (Cymru) (Diwygio) 2015, o ran blwyddyn ariannol 2015/16, a 

bod cymeradwyo 3 elfen ddewisol o’r cynllun, fel a ddangosir yn adran 4.1, yn cael ei barhau yn 2015/16.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 2.20pm.

 

 

Dogfennau ategol: