Eitem ar yr agenda
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU – PRAWF LLES Y CYHOEDD
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar gynnig gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i gyflwyno Prawf Budd y Cyhoedd newydd wrth
ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod
Ymddygiad.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro (MO) ar y cynnig gan Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) i gyflwyno Prawf Lles y Cyhoedd newydd wrth
ystyried a ddylid ymchwilio i honiadau bod Aelod Etholedig wedi torri'r Cod
Ymddygiad.
Ceisiwyd safbwyntiau’r
Pwyllgor ar y papur trafod a gynhyrchwyd gan y PSOW, Atodiad 1, ar gynnig ei
fod yn cyflwyno prawf ychwanegol wrth ystyried a ddylid ymchwilio i gŵyn a
wnaed iddo fod aelod wedi torri'r Cod Ymddygiad. Mae swyddfa'r PSOW ers nifer o flynyddoedd
wedi cymhwyso prawf dau gam wrth ystyried a ddylid ymchwilio i doriad honedig
Cod Ymddygiad gan Aelod.
Y cam cyntaf fyddai sefydlu a oedd tystiolaeth bod
torri'r Cod wedi digwydd mewn gwirionedd.
Yr ail gam yw ystyried a fyddai'r toriad honedig, os profir, yn debygol
o arwain at osod sancsiwn gan Bwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru. Wrth ystyried y tebygolrwydd o sancsiwn yn
cael ei osod, byddai swyddfa'r PSOW yn ystyried yr achosion sydd wedi cael eu
hystyried gan Bwyllgorau Safonau ledled Cymru a'r camau mae’r pwyllgorau hynny
wedi eu cymryd.
Roedd y PSOW yn pryderu am nifer y cwynion lefel
isel a dderbyniwyd gan ei swyddfa ac roedd yn ceisio cyflwyno prawf ychwanegol
a fyddai'n ystyried a oes angen ymchwiliad neu atgyfeiriad at Bwyllgor Safonau
neu Banel Dyfarnu er budd y cyhoedd.
Mae'r Ombwdsmon yn ei gwneud yn glir yn y papur ynghlwm fel Atodiad 1 ei
fod yn gweld ei rôl fel ymchwilio i achosion difrifol er mwyn cynnal hyder y
cyhoedd mewn safonau mewn bywyd cyhoeddus.
Ni fyddai’n agor ymchwiliad oni bai ei fod o'r farn ei bod yn gymesur i
wneud hynny, o ystyried amgylchiadau'r tor-rheol honedig.
Wrth
benderfynu a oedd ymchwiliad er lles y cyhoedd, byddai’r Ombwdsmon yn ystyried
nifer o ffactorau sy'n cael eu nodi yn Atodiad 1. Ni fyddai pob un o'r
ffactorau hyn yn berthnasol ym mhob achos a byddai’r pwysau a roddir i bob un
yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos.
Roedd y PSOW yn ei gwneud yn glir mewn cyfnod o lai o adnoddau y
byddai’n rhaid iddo flaenoriaethu'r materion y byddai ei swyddfa yn ymchwilio
iddynt, ac mae’n bosibl na fyddai’n briodol mwyach i ddefnyddio adnoddau ar
gyfer ymchwilio i gwynion lefel isel. Yn ogystal, byddai'n ystyried a ddylid
parhau â'r arfer o gyfeirio’r achosion hynny, er y gall fod tystiolaeth o dorri
y penderfynodd ymchwilio iddo, i MO Lleol ei ymchwilio oherwydd yr ail gam o’i
brawf cyfredol. Gofynnwyd am farn yr
aelodau ar y pwynt hwn hefyd.
Cadarnhaodd yr MO y perygl, os byddai Prawf Lles y
Cyhoedd y PCSO yn cael ei gymhwyso ar lefel trothwy rhy uchel, y gallai fod
posibilrwydd o dorri'r Cod Ymddygiad a ddylai fod yn destun sancsiwn heb gael
ei ymchwilio.
Deallodd y Cadeirydd y rhesymeg y tu ôl i'r bwriad i gyflwyno prawf lles y
cyhoedd. Fodd bynnag, awgrymodd y gallai'r
broses wanhau’r Cod Ymddygiad ac y gallai canfyddiad y cyhoedd o ymagwedd o'r
fath at ymchwiliadau leihau hyder yn y broses ddemocrataidd, os cyflwynwyd yn
unig ar sail yr adnoddau sydd ar gael. Awgrymodd y
Cadeirydd y gallai pwrpas y Pwyllgor Safonau, fel mecanwaith i ddelio â
chwynion lefel isel, fodloni achwynwyr bod eu cwynion wedi cael eu hystyried.
Amlinellodd
yr MO y broses tri cham cyfredol ac eglurodd y gallai’r cyfle i ddelio â
chwynion yn lleol gael ei symud hefyd, a oedd yn codi pryderon nad oedd
sefyllfaoedd yn cael symud i’r cam nesaf. Roedd y
Cynghorydd D.E. Jones wedi cyfeirio at bwysigrwydd yr ystyriaeth a roddwyd i
ddifrifoldeb torri'r Cod Ymddygiad wrth benderfynu ar yr angen am weithredu
pellach.
Cytunodd yr Aelodau o'r Pwyllgor â'r farn a fynegwyd gan y Cadeirydd, bod
yr ymateb i'r PSOW yn egluro bod y Pwyllgor Safonau yn deall y rheswm dros y
bwriad i gyflwyno prawf lles y cyhoedd.
Fodd bynnag, teimlwyd pe bai'r unig reswm dros beidio â chynnal
ymchwiliad oedd oherwydd prawf lles y cyhoedd, yna yn yr amgylchiadau hynny
dylid cyfeirio’r mater at yr MO lleol perthnasol ar gyfer ymgynghori â'r
Pwyllgor Safonau perthnasol.
Eglurodd yr MO nad oedd y mater o gyfeirio Aelodau yn erbyn achosion
Aelodau ar gyfer datrysiad lleol wedi bod yn broblem yn Sir Ddinbych, ond wedi
bod o fudd mewn Awdurdodau Lleol eraill.
O ran pa mor fuddiol yw’r system o gynnig achosion a oedd ym marn yr
Ombwdsmon yn annhebygol o ddenu sancsiwn ar gyfer ymchwiliad lleol, eglurodd yr
MO bod y farn ar y mater hwn yn rhanedig.
Fodd bynnag, roedd yn teimlo ei bod yn ddefnyddiol cael yr hyblygrwydd
ar yr amod nad oedd disgwyl yn awtomatig i MO ymchwilio i'r holl faterion.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd D.E. Jones, rhoddodd yr MO fanylion
am sut y byddai'r PSOW yn ystyried tystiolaeth o ymddygiad tebyg ar ran Aelod,
yn dibynnu ar natur y gŵyn a gafwyd, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 6 ar
dudalen 3 o'r adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, mynegodd y Pwyllgor ei gefnogaeth i'r
cynnig ar Dudalen 21. (4) mewn perthynas â’r hyn a wnaed yn erbyn y
gwleidyddion hynny sy'n torri eu cod ymddygiad drwy wneud cwynion blinderus.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD -bod y Pwyllgor Safonau: -
(a)
yn nodi
cyflwyniad arfaethedig Prawf Lles y Cyhoedd fel y nodir yn y papur a
dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad hwn, ac
(b)
yn gofyn bod y
Swyddog Monitro yn cyfleu’r farn a fynedig gan y Pwyllgor i'r Ombwdsmon ar y
materion a ystyriwyd.
(G. Williams i weithredu ar hyn)
Dogfennau ategol: