Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 40/2013/1585/PO - TIR I'R DWYRAIN O FODELWYDDAN, Y RHYL
- Meeting of Pwyllgor Cynllunio, Dydd Mercher, 21 Ionawr 2015 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried cais
cynllunio amlinellol ar gyfer datblygu 1,715 o anheddau gan gynnwys tai fforddiadwy,
cartref gofal hyd at 80 ystafell wely a 50 o fflatiau gofal (Dosbarth Defnydd
C2), Gwesty hyd at 100 ystafell wely (Dosbarth Defnydd C1), Ysgol Gynradd
Newydd, 2 Ganolfan Leol (gan gynnwys Dosbarth Defnydd A1, A2, A3, C3, D1 a D2),
26 hectar o dir cyflogaeth (yn cynnwys cymysgedd defnydd B1, B2 a B8),
isadeiledd priffyrdd newydd gan gynnwys ffurfio mynediad newydd a chyswllt
rhwng A55 Cyffordd 26 a Ffordd Sarn, llwybrau cerdded a beicio, ardaloedd
agored ffurfiol ac anffurfiol, mannau gwyrdd a thirweddu strwythurol ac
isadeiledd draenio Tir i’r Dwyrain o Fodelwyddan, y Rhyl (copi ynghlwm).
Cofnodion:
[Datganodd y Cynghorydd Alice Jones gysylltiad personol gan ei bod yn berchen ar dir gerllaw safle’r ymgeisydd ac mae hefyd yn aelod o Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan].
[Datganodd y Cynghorydd Dewi Owens gysylltiad personol oherwydd ei fod yn adnabod perchnogion y tir a amlygwyd ar gyfer datblygu].
Roedd cais wedi’i gyflwyno ar gyfer cais cynllunio amlinellol ar dir i’r dwyrain o Fodelwyddan ar gyfer datblygu 1,715 o anheddau, gan gynnwys anheddau fforddiadwy, cartref gofal hyd at 80 gwely a 50 fflat gofal agos (dosbarth defnydd C2), gwesty hyd at 100 ystafell wely (dosbarth defnydd C1), ysgol gynradd newydd, 2 ganolfan leol (gan gynnwys Dosbarth defnydd A1, A2, A3, C3, D1 a D2), 26 hectar o dir cyflogaeth (sy'n cynnwys cymysgedd o ddefnydd B1, B2 a B8), seilwaith priffyrdd newydd gan gynnwys ffurfio mynedfa newydd a chyswllt rhwng yr A55 Cyffordd 26 a Ffordd Sarn, llwybrau cerdded a beicio, mannau ffurfiol ac anffurfiol, mannau gwyrdd a thirlunio strwythurol a seilwaith draenio.
Siaradwyr Cyhoeddus-
Ailadroddodd y
Parchedig Andrew Miller (Yn erbyn)
–sail ei wrthwynebiad a dywedodd fod y datblygiad yn rhy fawr ar gyfer lleoliad
y pentref. Dywedodd y Parchedig Miller
hefyd ei fod wedi cyflwyno cwyn ffurfiol yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych gan honni
achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus gan Swyddogion Cynllunio.
Mr John Hutchinson, Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan (Yn erbyn) - eglurodd nad oedd gan Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan unrhyw gysylltiad â'r Parchedig Miller. Dywedodd Mr Hutchinson fod y datblygiad yn seiliedig ar wybodaeth wedi dyddio ar dwf yn y boblogaeth. Byddai'r datblygiad yn rhy fawr ar gyfer anghenion tai go iawn i bobl leol. Byddai'n difetha tir amaethyddol. Byddai’r perygl o lifogydd hefyd yn bryder mawr.
Mr Owen Jones, Cynllunio Boyer (Asiant) (O blaid) - eglurodd bod y CDLl wedi ei fabwysiadu yn 2013. Bu gwaith sylweddol ar y cynllun hwn ers dros 5 mlynedd. Mae'r cynlluniau a gyflwynwyd yn dilyn Polisi a'r briff datblygu.
Trafodaeth Gyffredinol - Mewn ymateb i faterion a godwyd yn y drafodaeth, rhoddodd y Swyddog Cynllunio rywfaint o wybodaeth gefndir a chyd-destun y cais. Eglurodd y Swyddog Cynllunio bod y cais ar gyfer Caniatâd Cynllunio Amlinellol. Felly, byddai'r datblygiad yn digwydd dros nifer o gamau. Byddai pob cam yn cael ei gyflwyno yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol i weithio drwy faterion a gadwyd yn ôl ac amodau manwl. Roedd Swyddogion Cynllunio yn gweithio gyda Chyfreithwyr ar hyn o bryd i sicrhau y byddai'r holl elfennau o fewn y cynllun yn cael eu cyflawni. Mae'r CDLl a fabwysiadwyd yn gofyn am nifer o elfennau manwl i'w darparu fel rhan o'r cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys o leiaf 10% o dai fforddiadwy, tir cyflogaeth, ysgol gynradd a gofynion eraill. Mae'r prif Bolisi CCC5 yn nodi hyn i gyd ac yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad. Mae materion llifogydd a draenio wedi cael sylw yn y dogfennau a gyflwynwyd ac maent wedi cael eu hasesu'n llawn gan Uwch Beiriannydd Perygl Llifogydd y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Nid oedd gan unrhyw un o'r arbenigwyr unrhyw bryderon o ran risgiau llifogydd ar y tir. Byddai system draenio trefol cynaliadwy yn cael ei gosod yn y datblygiad.
Byddai'r caniatâd cynllunio amlinellol yn amodol ar Gytundeb Adran 106. Roedd Swyddogion Cynllunio wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) o ran pa gyfleusterau iechyd y dylid eu darparu ar y safle. Bydd yr elfen hon ymhlith eraill yn cael ei thrin mewn ceisiadau cynllunio pellach fydd yn cael eu cyflwyno nôl i'r Pwyllgor.
Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol Dave Smith wrth y Pwyllgor ei fod yn cytuno â'r datblygiad. Cododd y mater o gyfleoedd economaidd a fyddai'n dod i'r ardal i roi hwb i'r economi leol.
Eglurodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) ei bod yn cynrychioli Grŵp Gweithredu Datblygu Bodelwyddan. Roedd y Cynghorydd Jones yn argymell gwrthod y datblygiad. Roedd nifer fawr o drigolion Bodelwyddan yn erbyn y datblygiad arfaethedig oherwydd pryder am faterion llifogydd ac roedd y datblygiad yn cael ei gynnig ar gyfer yr ardal anghywir. O ran tai fforddiadwy, dim ond 173 o dai fforddiadwy fyddai’n cael eu hadeiladu. Nid oedd y twf yn y boblogaeth wedi bod mor doreithiog â'r disgwyl fel y profodd cyfrifiad 2011/2012. Roedd maint gwirioneddol y datblygiad yn rhy fawr ar gyfer pentref Bodelwyddan. Roedd refferendwm wedi'i gynnal yn 2009 ac roedd y canlyniad yn "na" ysgubol i'r datblygiad.
Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Alice Jones i wrthod y cais, yn erbyn argymhelliad swyddogion, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU - 15
YMATAL - 1
GWRTHOD - 9
PENDERFYNWYD
y dylid CANIATÁU’R cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd
yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol:
- ITEM 5 - LAND EAST OF BODELWYDDAN, Eitem 5. PDF 6 KB
- ITEM 5 - LAND EAST OF BODELWYDDAN - APPENDIX, Eitem 5. PDF 4 MB