Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cynghorwyr Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd a Huw Jones, Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig sy’n cyflwyno’r camau a gymerwyd ers yr Adolygiad o Gynlluniau Tref ac Ardal ac sy’n amlinellu’r ffordd ymlaen.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo’r Datganiad Polisi Cynlluniau Tref ac Ardal;

 

(b)       cymeradwyo asesiad Grŵp Cefnogwyr Cynlluniau Tref ac Ardal o brosiectau a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cabinet ond sydd heb eu dechrau eto;

 

(c)        dad-ymrwymo'r dyraniad cyllid i’r prosiectau a aseswyd fel rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf; a

 

(d)       cymeradwyo paratoi rhestr ddiwygiedig o brosiectau blaenoriaeth ar gyfer y Cynlluniau Tref ac Ardal a’r broses arfaethedig ar gyfer dyrannu arian i'r prosiectau yma fel y nodir yn yr adroddiad, a

 

(e)       y dylai meini prawf asesu’r prosiectau a nodir yn Atodiad 3 i'r adroddiad, ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, sicrhau mai dim ond prosiectau sy'n niwtral o ran refeniw y dylid bwrw ymlaen â hwy.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans adroddiad ar y cyd gyda'r Cynghorydd Huw Jones, yn manylu ar y camau a gymerwyd ers yr adolygiad o Gynlluniau Tref ac Ardal (CGP) a'r ffordd ymlaen.  Roedd yn falch bod yr adolygiad wedi cefnogi'r egwyddor o CGP a derbyniodd ganfyddiadau'r adolygiad, gan dynnu sylw at yr angen am fframwaith gweithredol ac alinio CGP â strategaethau a chynlluniau eraill.  Roedd manylion am waith y Gweithgor Hyrwyddwyr CGP wedi’u cynnwys o fewn yr adroddiad, ac ymhelaethodd y Cynghorydd Evans ar y sefyllfa ariannu bresennol a'r dull gweithredu arfaethedig ar gyfer dyraniadau arian yn y dyfodol.  Adroddodd y Cynghorydd Huw Jones ar ei rôl fel Hyrwyddwr CGP a'r dull a gymerodd yn Ardal Dyffryn Dyfrdwy, a chynigiodd gynorthwyo Hyrwyddwyr CGP  eraill i ddyblygu’r dull hwnnw o gefnogi'r broses CGP.

 

Nododd y Cabinet gasgliadau'r adolygiad a'r camau gweithredu dilynol mewn ymateb, gan gynnwys ailasesiad o brosiectau a oedd wedi arwain at argymhelliad i ddad-ymrwymo arian.   Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i roi sylwadau ar ddatblygu a chyflawni’r CGP yn eu hardaloedd penodol, a hefyd fe ystyriwyd y dull gweithredu arfaethedig ar gyfer dyraniadau cyllid yn y dyfodol, gan gynnwys y meini prawf asesu prosiect.

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y materion canlynol -

 

·        mynegwyd amheuon ynghylch y diffyg pwysoli rhwng y gwahanol gategorïau o feini prawf asesu, yn enwedig o ran goblygiadau refeniw yn y dyfodol - cytunwyd yn bennaf bod y meini prawf yn cael eu diwygio i sicrhau y dylid ond symud ymlaen â phrosiectau niwtral o ran refeniw

·        tra mynegwyd cefnogaeth ar gyfer y broses newydd, amlygwyd yr angen i sicrhau bod y prosiectau hynny sydd eisoes wedi'u cymeradwyo yn cael eu cyflawni, a chadarnhaodd swyddogion, i helpu i hwyluso'r broses, byddai prosiectau’n cael eu hymgorffori yn y cynlluniau busnes gwasanaeth perthnasol

·        gofynnwyd am sicrwydd ynghylch y broses o fonitro elfennau arian cyfatebol prosiectau penodol a’u tebygolrwydd o lwyddiant, ac awgrymwyd y gellid adlewyrchu’r elfen hon yn y meini prawf asesu - adroddodd y swyddogion am fesurau i wneud y gorau o gyllid allanol, ond cydnabuwyd bod rhywfaint o oddrychedd wrth sgorio’r elfen honno o’r prosiect, fodd bynnag, darparwyd sicrwydd bod y prosiectau yn parhau i gael eu hadolygu’n gyson; cytunwyd hefyd y byddai'r Grŵp Hyrwyddwyr CGP yn cynnal adolygiad chwe misol o brosiectau ac os nad oedd hyder y byddai'r prosiect yn cael ei gyflawni, byddai’r cyllid yn cael ei ddad-ymrwymo ac ar gael ar gyfer prosiectau CPG eraill

·        tynnwyd sylw at yr angen am fwy o ryngweithio rhwng Hyrwyddwyr CGP, Grwpiau Ardal yr Aelodau a Chynghorau Tref / Cymuned, a meithrin dull cyfannol o gyflwyno'r CGP - cyfeiriodd yr Arweinydd at y dull  arfer gorau a gymerwyd gan y Cynghorydd Huw Jones fel Hyrwyddwr CGP, y gellid ei efelychu ar draws ardaloedd eraill, a’i ddisgwyliad bod y CGP yn eitem sefydlog ar raglen cyfarfodydd Grwpiau Ardal yr Aelodau  a Chynghorau Tref / Cymuned, gyda Hyrwyddwyr CGP yn rhoi diweddariad ym mhob cyfarfod

·        Adroddodd y Cynghorydd Meirick Davies am ei bryderon ynghylch dad-ymrwymo cyllid ar gyfer dau brosiect yn ward ei ardal, a'r angen am well cyfathrebiad yn hynny o beth, teimlodd hefyd y dylid darparu ffurflen benodol ar gyfer ceisiadau am gyllid prosiect - cadarnhaodd y swyddogion bod ffurflen yn cael ei pharatoi ar gyfer hyn, a fyddai'n cael ei chylchredeg cyn gynted ag y bo modd.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo Datganiad Polisi Cynlluniau Tref ac Ardal;

 

(b)       cymeradwyo asesiad Grŵp Hyrwyddwyr Cynlluniau Tref ac Ardal o brosiectau a gymeradwywyd yn ffurfiol gan y Cabinet, ond sydd heb ddechrau eto;

 

(c)        dad-ymrwymo'r dyraniad arian i’r prosiectau hynny a aseswyd fel rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf;

 

(d)       cymeradwyo paratoi rhestr ddiwygiedig o brosiectau blaenoriaeth Cynllun Tref ac Ardal a’r broses arfaethedig ar gyfer dyrannu arian i'r prosiectau hyn fel y nodwyd yn yr adroddiad, a

 

(e)       y dylai’r meini prawf asesu prosiectau a nodir yn Atodiad 3 i'r adroddiad, sicrhau mai dim ond prosiectau yn y dyfodol sy'n niwtral o ran refeniw y dylid bwrw ymlaen â nhw.

 

Pleidleisiodd y Cynghorydd Eryl Williams yn erbyn penderfyniad (e) uchod.

 

 

Dogfennau ategol: