Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2015/16 (CYNIGION TERFYNOL - CAM 3)

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi’n amgaeedig) sy’n cyflwyno cyfnod olaf rhaglen o arbedion cyllideb a mesurau eraill i’w hargymell i’r Cyngor er mwyn darparu’r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cefnogi cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16 fel y dangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ac yn eu hargymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn;

 

(b)       argymell i'r Cyngor gynyddu Treth y Cyngor o ganlyniad i hynny, ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16;

 

(c)        argymell i'r Cyngor bod £500k o falansau cyffredinol yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gyllideb refeniw am y tair blynedd ariannol nesaf;

 

(d)       argymell i'r Cyngor bod y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn cymryd blaenoriaeth mewn rowndiau gosod cyllideb yn y dyfodol, a

 

(e)       cyfeiriad at holl ymatebion Aelodau'r Cynulliad yng ngogledd Cymru am y gostyngiad yn y cyllid a roddir i briffyrdd Sir Ddinbych a’r cyllid a ddyrannwyd ar gyfer y gwelliannau i’r M4 yn cael ei gynnwys yn adroddiad Cyllideb 2015/16 i’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y cam olaf o raglen arbedion cyllidebol a mesurau eraill i'w hargymell i'r Cyngor er mwyn cyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys lefel gynyddol arfaethedig yn Nhreth y Cyngor a’r defnydd o falansau cyffredinol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at ganlyniadau'r gweithdai cyllideb a oedd wedi llywio’r cynigion cyllideb ac amlinellodd y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf.  Ymhelaethodd ar y cynigion ar gyfer 2015/16 a’r cynnydd cyfartalog o 2.75% o ganlyniad i hynny yn lefel Treth y Cyngor, ynghyd â'r rhesymeg y tu ôl i'r cynnig i ddefnyddio balansau cyffredinol i ariannu'r gyllideb dros y tair blynedd nesaf.  Yng ngoleuni ymrwymiad yr aelodau i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol, argymhellwyd hefyd bod hyn yn cymryd blaenoriaeth mewn rowndiau gosod cyllideb yn y dyfodol.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion canlynol -

 

·        Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams bod posibilrwydd cryf y gellid sicrhau cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer prosiectau adeiladu ysgolion arfaethedig yn ardal Rhuthun a fyddai'n rhyddhau cyllid i ddelio â phwysau cyllidebol eraill

·        ni fyddai canlyniad yr ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol yn effeithio ar gyllideb 2015/16 ond roedd arbedion o’r broses honno yn ddyledus yn 2016/17 – roedd y proffil gwariant ar gyfer prosiectau gofal ychwanegol ar gyfer y dyfodol wedi'u disgrifio yng nghrynodeb y Cynllun Corfforaethol (Atodiad 4 i'r adroddiad)

·        cyfeiriwyd at waith y Gweithgor Strategaeth Safleoedd Carafanau o ran y potensial i godi refeniw treth y cyngor ar gyfer blynyddoedd i ddod

·        Teimlai'r Cynghorydd Eryl Williams y dylid cynnwys ffigurau dangosol ar gyfer derbyniadau cyfalaf sy'n deillio o brosiectau ysgol wedi’u cwblhau, yn y Cynllun Corfforaethol, yn enwedig o ran tryloywder – esboniwyd anhawster y dull hwn o ran symiau ac argaeledd y derbyniadau hynny, ac nid oedd llawer o deilyngdod mewn dyrannu derbyniadau ymlaen llaw a oedd wedi achosi problemau yn y gorffennol

·        Ailadroddodd y Cynghorydd David Smith ei bryderon blaenorol bod cryn dipyn yn llai yn cael ei wario ar gynnal a chadw priffyrdd, na allai fod yn ddigon i gynnal ansawdd ffyrdd y sir neu gyflawni canlyniad y Cynllun Corfforaethol ar gyfer priffyrdd.  Rhannodd Aelodau’r pryderon hynny a thrafodwyd y toriadau i'r gyllideb priffyrdd a cholli cyllid allanol, ac a ddylai priffyrdd gael blaenoriaeth ar gyfer arian mewn achos o lithriant yn y Cynllun Corfforaethol, neu argaeledd derbyniadau cyfalaf.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Eryl Williams at benderfyniad 10(c) yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet a gofynnodd bod ymatebion gan Aelodau'r Cynulliad yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad Cyllideb i’r Cyngor

·        cyfeiriwyd at resymau hanesyddol pam bod lefel treth y cyngor yn Sir Ddinbych yn un o'r uchaf yng Nghymru, a chytunwyd y byddai adroddiad y Gyllideb i'r Cyngor yn cynnwys cymhariaeth o lefelau treth y cyngor i ddangos safle Sir Ddinbych yn gyffredinol – esboniwyd hefyd y gwahanol ddulliau o alinio lefelau treth y cyngor rhwng Sir Ddinbych a Chonwy os symudwyd ymlaen ag uno.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at broses agored a thryloyw y gyllideb, a dywedodd fod addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael eu diogelu er gwaethaf yr hinsawdd ariannol anodd, ac ailadroddodd ei ymrwymiad i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol.  Teimlai hefyd ei bod yn bwysig ystyried effaith y toriadau yn y gyllideb ar berfformiad y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cefnogi cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16 fel y gwelir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, ac argymell yn unol â hynny i'r Cyngor llawn;

 

(b)       argymell i'r Cyngor y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16;

 

(c)        argymell i'r Cyngor bod £500,000 o falansau cyffredinol yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gyllideb refeniw ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf;

 

(d)       argymell i'r Cyngor bod y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn cymryd blaenoriaeth mewn rowndiau pennu cyllideb yn y dyfodol, a

 

(e)       cynnwys cyfeiriad at yr ymatebion gan Aelodau'r Cynulliad yng Ngogledd Cymru ynghylch eu safle ar y gostyngiad mewn cyllid priffyrdd ar gyfer Sir Ddinbych, a dyrannu cyllid ar gyfer gwelliannau yr M4, yn adroddiad Cyllideb 2015/16 i'r Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: