Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOLION CYNRADD ARDAL RHUTHUN

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg (copi’n amgaeedig) sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion ac i awgrymu bod y Cyngor yn cymeradwyo buddsoddiad mewn tri phrosiect ysgol gynradd yn ardal Rhuthun.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016 ac agor ysgol a reolir yn wirfoddol Categori 2 newydd ar y safleoedd presennol ar 1 Medi 2016.

 

(b)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 a throsglwyddo’r disgyblion i Ysgol Penbarras neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-daro ag agor yr adeiladau ysgol newydd, ac

 

(c)        argymell y dylai’r Cyngor cymeradwyo’r Achosion Busnes a’r Dyraniad Cyfalaf ar gyfer

 

1.    Ysgol Safle Glasdir i ddisodli’r ddarpariaeth bresennol yn Ysgol Stryd y Rhos / Ysgol Penbarras

2.    adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn

3.    adeilad ysgol newydd ar gyfer ysgol ardal Llanfair a Phentrecelyn, yn amodol ar ganlyniad y cynigion trefniadaeth ysgolion.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddechrau ymgynghori ar gynigion trefniadaeth ysgolion sy'n codi o adolygiad ardal Rhuthun, ac argymell i'r Cyngor gymeradwyo buddsoddiad ar gyfer tri phrosiect ysgol gynradd yn yr ardal.

 

Roedd Aelodau'r Cabinet wedi ymgyfarwyddo gyda phob ysgol sy’n destun adolygiad ardal Rhuthun, ac roeddent yn gwbl ymwybodol o anghenion a gofynion pob un o'r ysgolion hynny.  Pwysleisiwyd nad oedd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch y cynigion, a gofynnwyd am gymeradwyaeth i gychwyn y broses ymgynghori.  O ran yr ymrwymiad ariannol i brosiectau ysgol, dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson, yn dilyn adolygiad o'r achosion busnes, bod y Grŵp Buddsoddi Strategol wedi argymell cymeradwyo.  Eglurodd nad oedd y prosiectau yn rhan o'r prosiectau a ariennir gan Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond roedd gan y Cyngor ddigon o gyfalaf mewnol i'w cyflawni.  Ychwanegodd y Cynghorydd Eryl Williams, er nad oedd unrhyw ddibyniaeth ar gyllid allanol, roedd yn obeithiol y gellid diogelu cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif.

 

Roedd y rhesymeg y tu ôl i ad-drefnu ysgolion cynradd yn Rhuthun wedi cael ei nodi yn yr adroddiad, a thrafododd y Cabinet gyda swyddogion ynghylch argymhellion yr adroddiad, er mwyn symud ymlaen i gam nesaf y cynigion trefniadaeth ysgolion.  Roedd prif bwyntiau trafod ynghylch yr argymhellion yn cynnwys -

 

·        Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol wirfoddol a reolir newydd Categori 2

 

Rhoddwyd gwybod i’r Cabinet am y gefnogaeth gyffredinol i'r ysgol ardal gymryd lle'r ddwy ysgol, yn enwedig o ystyried cyflwr yr adeiladau presennol.   Y mater dadleuol yn y cynnig hwn oedd categoreiddio iaith yr ysgol newydd, ond y bwriad oedd peidio â dechrau trafodaeth ar hyn o bryd, ond i ddechrau ymgynghori ac adrodd yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol.  Nodwyd bod rhieni a phartïon eraill â diddordeb eisoes wedi codi pryderon, a sicrhawyd y byddai'r holl faterion a godwyd yn cael eu trafod a'u hystyried yn ofalus yn ystod y broses ymgynghori cyn gwneud penderfyniad.  Roedd yr Arweinydd wedi cyfarfod cynrychiolwyr o'r ddwy ysgol, a siaradodd am y teimladau cryf o gwmpas y mater categoreiddio a'r gwahanol safbwyntiau a geir.  Roedd yn awyddus i ysgol newydd fod o’r budd gorau i’r plant a'r ardal yn y dyfodol.  Cyfeiriwyd at yr adolygiad o gategoreiddio iaith ysgolion y sir, a rhoddodd y swyddogion sicrwydd bod categoreiddio pob ysgol yn cael ei fonitro trwy'r Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Teimlai'r Cynghorydd Meirick Davies yn gryf y dylai'r ymgynghoriad gynnwys agor ysgol Categori 1 newydd yn hytrach na Chategori 2. Derbyniodd y Cynghorydd Eryl Williams y farn honno, ond ymatebodd y byddai'r dadleuon o ran categoreiddio yr un fath, a byddai'r holl faterion yn cael eu hystyried yn ystod y broses ymgynghori.  Gofynnwyd am sicrwydd na fyddai disgyblion dan anfantais oherwydd y newid dilynol i’r categoreiddio iaith, ac amlygodd y swyddogion y ffaith bod disgyblion ffrwd Gymraeg mewn ysgolion Categori 2 yn gorfod cyflawni'r un canlyniadau â disgyblion mewn ysgolion Categori 1.

 

·        Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Stryd y Rhos

 

Ailadroddwyd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig yn seiliedig ar gynaliadwyedd tymor hir Ysgol Rhewl.  Mynegwyd rhai amheuon ynghylch a allai'r ysgol arfaethedig yng Nglasdir ddal disgyblion ychwanegol o ystyried y nifer arfaethedig o leoedd ysgol.  Eglurodd swyddogion y cyfrifiadau ar gyfer nifer y disgyblion ynghyd ag ystyriaethau eraill gan gynnwys lleoedd dros ben - roedd hyblygrwydd o fewn y broses ar hyn o bryd a fyddai'n caniatáu ar gyfer diwygio rhagamcanion disgyblion, yn dibynnu ar ganlyniadau eraill fel y rhai sy'n ymwneud ag Ysgol Rhewl ac Ysgol Llanbedr, a fyddai'n caniatáu i'r ysgol gael maint priodol ar gyfer yr ardal.  Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Williams ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Merfyn Parry, a rhannodd safbwyntiau Llywodraethwyr Ysgol Rhewl a fyddai'n ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion.  Dywedodd y swyddogion bod y Pennaeth wedi cael gwybod yn anffurfiol cyn cyfarfod y Cabinet, a dylid codi pob mater arall fel rhan o'r broses ymgynghori.  O ran lleoedd dros ben, ni fyddai'n briodol defnyddio meini prawf gwahanol i brosiectau ysgol nad ydynt yn destun arian ysgolion yr 21ain ganrif.  Amlygodd y Cynghorydd Martyn Holland bwysigrwydd cyfathrebu, ac adroddodd y swyddogion ar hyd a lled yr ymgynghoriad yn hyn o beth er mwyn darparu proses agored a thryloyw. 

 

·        Argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r achosion busnes a dyraniad cyfalaf ar gyfer tri phrosiect ysgol gynradd yn ardal Rhuthun

 

Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams bwysigrwydd dyrannu cyllid penodol ar y cam hwn er mwyn rhoi mwy o sicrwydd ac adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i'r prosiectau adeiladu ysgolion os yw'r cynigion yn cael eu cymeradwyo.

 

(I) Safle Glasdir (adleoli o Stryd y Rhys/ Ysgol Pen Barras) - Eglurodd y Swyddogion y cynnig ar gyfer dwy ysgol ar safle a rennir yng Nglasdir a rhoddwyd adroddiad am eu trafodaethau gyda chynrychiolwyr ysgol ynglŷn â’u gofynion, a fyddai'n cael eu diwallu cyn belled ag y bo modd, o ystyried cyfyngiadau ariannol y prosiect ac sy’n cael sylw fel rhan o’r cam dylunio manwl.  Croesawodd yr Aelodau Lleol y cynigion ar gyfer y ddwy ysgol ar safle Glasdir, ond codasant nifer o faterion sydd angen eu hystyried, yn bennaf o gwmpas y defnydd o gyfleusterau a rennir a rheoli traffig, gan dynnu sylw at y ffaith bod cyfraniad gan gynrychiolwyr ysgolion yn hollbwysig wrth ystyried eu gofynion yn y dyfodol.  Fe wnaeth y swyddogion gydnabod bod dyluniad cywir o’r adeilad yn hanfodol, gan roi adroddiad am waith a wnaed i reoli disgwyliadau a gofynion yr ysgolion i sicrhau effeithlonrwydd er budd y ddwy ysgol o fewn y cyfyngiadau ariannol ac amser ar gyfer y prosiect.  Byddai unrhyw dderbyniadau cyfalaf a gynhyrchir ar ôl cwblhau'r prosiectau ysgol yn cael eu cadw’n gorfforaethol.  Rhoddwyd sicrwydd pellach y byddai nifer y lleoedd ysgol yn cael eu diwygio’n briodol yn dilyn canlyniadau adolygiadau eraill yn ymwneud ag Ysgol Rhewl ac Ysgol Llanbedr.  Derbyniwyd hefyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer safle Glasdir wedi dod i ben, ond roedd swyddogion mewn cysylltiad â Swyddogion Cynllunio ac yn hyderus na fyddai cael caniatâd cynllunio yn broblem gyda'r dyluniad cywir.

 

 (Ii) Ysgol Carreg Emlyn - Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adroddiad yn cynnwys amserlenni dangosol ar gyfer adeilad arfaethedig yr ysgol newydd, ond roedd yn debygol y gallai'r prosiect ddechrau yn gynt os cânt gymeradwyaeth gan nad oedd gofyniad i gyflwyno hysbysiad statudol ynghylch y cynnig.

 

(Iii) Ysgol Ardal Llanfair a Phentrecelyn – Roedd y cynnig ar gyfer adeilad ysgol newydd ar gyfer ardal Llanfair a Phentrecelyn wedi cael ei drafod fel rhan o'r argymhelliad cyntaf.

 

Wrth gynnig yr argymhellion, diolchodd y Cynghorydd Eryl Williams i'r aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n ffurfiol ynghylch y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn o 31 Awst 2016, ac i agor ysgol Wirfoddol a Reolir newydd Categori 2 ar y safleoedd presennol ar 1 Medi 2016;

 

(b)       cymeradwyo symud ymlaen i ymgynghori'n ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Rhewl o 31 Awst 2017, gyda disgyblion yn trosglwyddo i naill ai Ysgol Pen Barras neu Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agoriad yr adeiladau ysgol newydd, ac

 

(c)        argymell i'r Cyngor gymeradwyo'r achosion busnes a dyraniad cyfalaf ar gyfer

 

1.    disodli darpariaeth bresennol Stryd y Rhos / Ysgol Pen Barras ar Safle Glasdir

2.    adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn

3.    adeilad ysgol newydd ar gyfer ysgol ardal Llanfair a Phentrecelyn, yn amodol ar ganlyniad y cynigion trefniadaeth ysgolion.

 

Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: