Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB AR GYFER 2015/16

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2015/16.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar Gyllideb 2015/16 (Cynigion Terfynol - Cam 3) (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r aelodau gymeradwyo cam olaf y rhaglen o arbedion cyllidebol a mesurau eraill er mwyn cyflwyno’r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cynnwys lefel arfaethedig o gynnydd i Dreth y Cyngor ac yn defnyddio balansau cyffredinol.

 

Yn 2015/16, y targed ar gyfer arbedion fyddai £8.3m.  Mae dau gam cyntaf y broses gyllideb wedi nodi arbedion o £7.3m ar gyfer 2015/16 gan adael bwlch o £1m.

 

Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill y newidiadau rhwng y Setliad Drafft a’r Setliad Terfynol a'r effaith ar y bwlch cyllido.  Byddai’r gwahaniaethau yn cyfrannu £473k i’r gofyniad arbed ar gyfer 2015/16.

 

Fel rhan o gyllideb 2014/15, cytunwyd fel mesur untro i ddefnyddio balansau cyffredinol o £500k i lenwi'r bwlch yng ngofyniad cyllido'r cyngor.  Yng ngweithdy cyllideb mis Rhagfyr 2014, cyflwynwyd i’r aelodau gynnig ar gyfer defnydd parhaus o £500k i ariannu'r gyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf a dyma’r aelodau hynny a oedd yn bresennol yn ailadrodd eu barn i roi blaenoriaeth i'r gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn y rowndiau cyllideb yn y dyfodol. 

 

Roedd yr aelodau hynny a oedd yn bresennol yng ngweithdy cyllideb mis Rhagfyr 2014 hefyd yn cefnogi yn anffurfiol y cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor o 2.75%.  Dyma'r ffigur cynllunio sylfaenol a ddefnyddiwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.

 

Ailadroddodd y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol dros Tir y Cyhoedd, i aelodau'r Cyngor, yn dilyn cais gan y Cynghorydd Eryl Williams yn y Cabinet, ei fod wedi ysgrifennu at saith Aelod Cynulliad Gogledd Cymru (ACau).  Roedd y Cynghorydd Smith wedi gofyn safbwynt yr ACau ynglŷn â’r effaith y byddai cael gwared ar y cyllid grant sy'n gysylltiedig â Chynllun Benthyca Llywodraeth Leol (LGBI) ar gyfer buddsoddi yn ei gael ar gynnal a chadw ffyrdd.  Mae'r cyllid wedi galluogi Awdurdodau Lleol i fuddsoddi symiau sylweddol o gyfalaf i wella isadeiledd priffyrdd a oedd wedi helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o ddirywiad.  Heb y cyllid, byddai cyflwr y ffyrdd yn dirywio ar raddfa cyflym iawn a fyddai'n cael effaith negyddol ar ddiogelwch ar y ffyrdd a'r economi leol.

 

Hefyd, gofynnodd y Cynghorydd Smith am safbwynt yr ACau ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer ffordd liniaru'r M4.  Gofynnwyd am ymatebion erbyn 29 Ionawr.  Ar yr un adeg lle cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor, roedd y Cynghorydd Smith wedi derbyn pedwar ymateb ysgrifenedig ac un ymateb ar lafar.  Roedd ymatebion eto i gyrraedd gan Ken Skates (AC De Clwyd) ac Ann Jones (AC Dyffryn Clwyd).

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

i)             Cododd yr Aelodau bryderon ynglŷn â’r effaith ar drigolion Sir Ddinbych oherwydd y toriadau yn y gyllideb.  Sicrhaodd y Prif Weithredwr yr aelodau fod Grŵp Archwilio Tasg a Gorffen wedi cael ei sefydlu i graffu ar asesiadau effaith. Mae'r asesiadau effaith hefyd i gynnwys amddifadedd yng Nghymru.  Byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 5 Chwefror i weithio drwy’r 20 eitem mwyaf cymhleth yn y gyllideb. 

ii)            Mae'r mater ‘Cartrefi Gofal’ wedi cael ei drafod yn y Cabinet.  Unwaith eto, ailadroddodd y Prif Weithredwr bod anghenion y trigolion yn  hollbwysig.  Oni bai y gellid dod o hyd i ddewis arall addas, ni fyddai Cartrefi Gofal yn cael eu cau. 

iii)           Toriadau i gyllidebau ysgolion.  Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan ddiddordeb yn yr eitem hon gan fod ei fab yn mynychu Ysgol Uwchradd Prestatyn.  Oherwydd bod nifer y disgyblion ysgol uwchradd yn dirywio, byddai cyllid i'r ysgolion perthnasol yn gostwng yn unol â hynny.  Os yw nifer y disgyblion yn cynyddu yn y dyfodol yna byddai'r arian yn cynyddu hefyd.  Ym mis Mawrth 2014, gwnaethpwyd yr holl ysgolion yn ymwybodol o’r toriadau posibl oherwydd niferoedd disgyblion a chyflwynwyd gwybodaeth hefyd i'r Fforwm Cyllideb Ysgolion.  Dylai'r cyllidebau fod yn ddigon hylaw ac mae timau yn edrych ar achosion unigol i weithio gyda'r ysgolion.  Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarpariaeth chwedched dosbarth Ôl-16 wedi cael ei leihau hefyd.

iv)           Codir tâl am wasanaethau anabledd yn y dyfodol.  Byddai'r taliadau yn berthnasol i bobl a fyddai’n gallu fforddio’r taliadau hyn.

v)            Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd wedi derbyn hysbysiad ffurfiol hyd yma gan Lywodraeth Cymru na fyddai'r uno gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn mynd yn ei flaen.  Derbyniwyd hysbysiad amgen na fyddai'r uno bellach yn mynd rhagddo.  Bellach roedd gan Sir Ddinbych strategaeth ariannol dwy flynedd a’r prif ffocws fyddai’r Cynllun Corfforaethol.

 

Cytunodd yr Aelodau bod y lefel o doriadau wedi bod yn anodd dros ben a’i fod yn bwysig cael proses ar waith er mwyn darparu cyllideb gytbwys.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill y byddai modd ymdrin â’r pedwar argymhelliad ar wahân.  Eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Evans.

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi'i chofnodi gan y Cynghorydd Paul Penlington a chefnogwyd hynny gan yr 1/6 gofynnol o aelodau oedd yn bresennol.

 

Argymhelliad (i) - Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16 fel y dangosir yn atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Pleidleisiodd 22 o aelodau o blaid yr argymhelliad:

 

Y Cynghorwyr JR Bartley, B Blakeley, WL Cowie, JA Davies, JM Davies, M Ll Davies, RJ Davies, SA Davies, PC Duffy, HH Evans, PA Evans, RL Feeley, H Hilditch-Roberts, HC Irving, H Ll Jones, PW Owen, D Owens, BA Smith, DI Smith, J Thompson-Hill, JS Welch a EW Williams.

 

Pleidleisiodd 16 o aelodau yn erbyn yr argymhelliad:

 

Cynghorwyr J A Butterfield, J Chamberlain Jones, C L Guy, C Hughes, T R Hughes, E A Jones, P M Jones, G Lloyd-Williams, J M McLellan, R M Murray, P Penlington, A Roberts, G Sandilands, D Simmons, C H Williams a C L Williams.

 

Ataliodd un aelod - y Cynghorydd GM Kensler

 

 

Argymhelliad (ii) - Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynnydd dilynol yn Nhreth y Cyngor, ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16

 

Pleidleisiodd 36 o aelodau o blaid yr argymhelliad:

 

Y Cynghorwyr J R Bartley, J A Butterfield, J Chamberlain Jones, W L Cowie, J A Davies, J M Davies, M Ll Davies, R J Davies, SA Davies, P C Duffy, H H Evans, P A Evans, R L Feeley, C L Guy, H Hilditch-Roberts, C Hughes, H C Irving, E A Jones, H Ll Jones, P M Jones, G Lloyd-Williams, J M McLellan, R M Murray, P W Owen, D Owens, P Penlington, A Roberts, G Sandilands, D Simmons, B A Smith, D I Smith, J Thompson-Hill, J S Welch, C H Williams, C L Williams,  a E W Williams.

 

Pleidleisiodd un aelod yn erbyn yr argymhelliad:

 

Y Cynghorydd T R Hughes

 

Gyda dau aelod yn ymatal:

 

Y Cynghorwyr B Blakeley a GM Kensler

 

 

Yn y fan hon, cytunodd yr aelodau i bleidleisio ar argymhellion (iii) a (iv) trwy godi dwylo yn hytrach na pleidlais wedi'i chofnodi ac roeddent yn unfrydol o blaid yr argymhellion.

 

 PENDERFYNWYD:

 

(i)            Bod y Cyngor yn cymeradwyo cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16 

(ii)          Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynnydd dilynol yn Nhreth y Cyngor, ar gyfartaledd o 2.75% yn 2015/16

(iii)         Bod y Cyngor yn cymeradwyo defnyddio £500k o falansau cyffredinol i gefnogi'r gyllideb refeniw am y tair blynedd ariannol nesaf

(iv)         Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r argymhelliad bod y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol yn cymryd blaenoriaeth mewn rowndiau gosod cyllideb yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: