Eitem ar yr agenda
CYFLWYNO TALIADAU AM GASGLIADAU GWASTRAFF GWYRDD
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm)
sy’n amlinellu faint o bobl sydd wedi cofrestru hyd yma ar gyfer y gwasanaeth
gwastraff gwyrdd newydd, yr incwm a ragwelir a gynhyrchir gan y gwasanaeth a'r
effaith ar y gwasanaeth, ei gyllideb a’r targed arbedion.
10.45 a.m. – 11.30 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwastraff a Thrafnidiaeth
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar y cynnydd ar lefel y
cwsmer sy’n manteisio ar y cynllun gwastraff gwyrdd trethadwy newydd ynghyd â
goblygiadau gwasanaeth a chyllideb cysylltiedig. Roedd yn falch o adrodd ar ffigurau cwsmer
diweddaraf ac esboniodd yn fanylach fecanwaith y cynllun fel a ganlyn -
·
y
targed oedd rhwng 10,000 - 15,000 eiddo ac o 29 Ionawr (deufis cyn cychwyn y
cynllun) roedd 8,308 o eiddo wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, mae hyn wedi
rhagori ar y ffigur a amcangyfrifwyd ar hyn o bryd; a'r disgwyl oedd i'r duedd
gadarnhaol hon barhau gyda chyfran o gwsmeriaid tua diwedd mis Mawrth
·
y
dyddiad cau ar gyfer y cynnig 'cyn cŵn caer' ar gyfer y rhai sydd wedi
cofrestru ar gyfer y cynllun wedi’i ymestyn o 31 Ionawr to 14 Chwefror 2015
·
y
broses gofrestru ar-lein wedi bod yn hynod effeithiol ac yn hawdd i'w defnyddio
gyda dwy ran o dair wedi cofrestru ar-lein
·
y
cynllun wedi’i gyflwyno fel mesur arbedion effeithlonrwydd ac mae’r defnydd a
wnaed ohono wedi effeithio yn
uniongyrchol ar faint o staff sydd eu hangen i gyflawni'r gwaith - fel yr oedd
disgwyl ni fyddai rhai unigolion yn cofrestru ar gyfer y cynllun nes bod y
tymor tyfu wedi dechrau ac roedd hi’n anodd cadarnhau ar y pwynt hwn faint o
staff a fyddai’n cael eu gwneud yn ddiwaith o ganlyniad i gyflwyno’r cynllun
·
mae
nifer o ddatganiadau o ddiddordeb mewn cymryd diswyddiad gwirfoddol wedi eu
gwneud ar draws y Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd a rhagwelid y dylai
bod y datganiadau hynny o ddiddordeb, ynghyd â 'gwastraff naturiol', yn
ddigonol i dalu am unrhyw ddiswyddiadau sy'n ofynnol yn dilyn cyflwyno'r
cynllun gwastraff gwyrdd trethadwy newydd
·
tra
mai Sir Ddinbych oedd y cyngor cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno taliadau am
gasglu a gwaredu gwastraff gwyrdd, mae chwe chyngor yn Ne Cymru eisoes yn codi
tâl am y gwasanaeth.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion
yn-
·
cadarnhau
bod y polisi codi tâl ar gyfer y gwasanaeth yn cydymffurfio yn llwyr â
chanllawiau Glasbrint Llywodraeth Cymru ar Gasgliadau; yr oedd hefyd yn debyg
i'r hyn a wnaeth nifer o gynghorau yn Lloegr mewn perthynas â gwastraff gwyrdd
·
cynghori
nad oeddent yn rhagweld y nifer o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon o wastraff
gwyrdd yn cynyddu yn fawr yn dilyn cyflwyno'r tâl. Yn ymateb i adroddiadau oedd yn nodi mai
Sir Ddinbych oedd yr awdurdod sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o ran
ystadegau tipio anghyfreithlon, fe ddywedodd y swyddogion fod hyn yn ganlyniad
i arferion cofnodi cadarn yn y sir a gallu’r system ddata 'Flycapture' yn
genedlaethol i adlewyrchu hyn a pherfformiad y sir wrth gael gwared ar wastraff
wedi’i dipio yn anghyfreithlon. Mae'r mater hwn wedi cael ei drafod gan archwilio yn y deuddeg mis diwethaf
·
tra
bod tua 38,000 eiddo ar hyn o bryd wedi derbyn biniau gwyrdd, tydi pob un
ohonynt ddim yn defnyddio'r gwasanaeth ac mae nifer yn compostio’r gwastraff eu
hunain. Nid yw’r unigolion hynny sy’n compostio wedi eu cynnwys yn ffigurau
ailgylchu’r sir
·
ar
hyn o bryd mae tua 4k tunnell o wastraff gwyrdd yn cael ei gasglu bob blwyddyn
yn y sir ac er y tybir y byddai'r rhai a gofrestrwyd ar gyfer y cynllun yn rhoi
mwy o wastraff gwyrdd allan, roedd cynilion wedi eu cyfrifo yn seiliedig ar y
nifer o lwybrau a gweithlu sydd eu hangen i weithredu'r cynllun yn hytrach na
chanolbwyntio ar gyfanswm y gwastraff gwyrdd a gasglwyd
·
rhagwelwyd
y byddai tynnu’r gwasanaeth sy’n rhad ac am ddim yn ôl yn arwain at y Cyngor i
golli ei le ar frig y gynghrair ailgylchu yng Nghymru, yn ôl pob tebyg yn
cofrestru gostyngiad o tua 4%. Fodd bynnag, dylai barhau i fod ymhlith yr uchaf o ran yr ailgylchwyr gorau ac ni chosbir y
cyngor yn sgîl y gostyngiad yn ei gyfradd ailgylchu
·
unwaith
y byddai’r cynllun newydd yn weithredol ac yn ystod yr wythnos diwethaf ym mis
Mawrth 2015, byddai wedyn yn wasanaeth ailgylchu 12 mis. Byddai gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu
bob pythefnos - 24 o gasgliadau y flwyddyn (yn methu un casgliad adeg y
Nadolig)
·
byddai'r
gwasanaeth yn rhedeg am 12 mis o'r casgliad cyntaf - ar gyfer y mwyafrif o bobl byddai hynny yn
fis Mawrth i mis Chwefror y flwyddyn
nesaf, ond ar gyfer y rhai sy'n ymuno yn ddiweddarach, ee Mehefin, byddent yn
derbyn y gwasanaeth hyd at y mis Mai canlynol
·
byddai’r
eiddo hynny wedi cofrestru â'r gwasanaeth yn derbyn codau bar i’w hatodi ar eu
biniau gwyrdd, ac fel mesur gwirio ychwanegol byddai offer GPS yn cael ei osod
ar bob cerbyd casglu gwastraff gwyrdd er mwyn dilysu biniau a chyfeiriadau
eiddo
·
mae
£9k wedi cael ei roi o'r neilltu i hysbysebu ac i sefydlu'r gwasanaeth newydd.
Mae £4k wedi cael ei glustnodi i gyflogi staff asiantaeth i ddelio â'r broses
gofrestru. Hyd yma nid oes staff asiantaeth wedi cael eu cyflogi gan fod y broses
gofrestru wedi’i wneud yn fewnol drwy ddefnyddio staff y Gwasanaeth a oedd ar
hyn o bryd yn cyflawni ‘dyletswyddau ysgafn’ ar ôl cael anaf neu salwch
·
rhoddwyd
sicrwydd fod lorïau casglu gwastraff ddim yn mynd o gwmpas i godi casgliadau a
fethwyd achos bai deiliad y tŷ ac nid bai yr awdurdod
·
mae
loriau gwastraff bin ar raglen amnewid dreigl, ac felly yn cael gwared ar
unrhyw gerbydau yn weddill i anghenion yn y rhaglen hon unwaith y byddai’r
gwasanaeth y codir tâl amdano wedi cael ei sefydlu.
·
byddai
preswylwyr na fyddai’n defnyddio'r gwasanaeth newydd ac sy’n dewis peidio â
chadw eu biniau gwyrdd yn cael gwybod bod y gwastraff yn ailgylchadwy a bod
modd mynd â’u bin i safle amwynderau sifil lleol os y dymunent wneud hynny
·
byddai
cyhoeddusrwydd pellach ynghylch y cynllun yn cael ei gynnal yn ystod y misoedd
i ddod, gan gynnwys hysbysebu ar gerbydau sbwriel ac ati. Awgrymodd Aelodau y
gallai fod yn ddefnyddiol, fel rhan o'r ymgyrch gyhoeddusrwydd ddiweddaraf, i
dynnu sylw preswylwyr at yr agwedd gwerth am arian ar gyfer y gwasanaeth mewn
cymhariaeth i lwytho'r gwastraff budur yn eu ceir a chostau tanwydd a thraul o
gario’r gwastraff i safle mwynderau sifil
Gofynnodd yr Aelodau i'r swyddogion i fonitro
meysydd risg sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth newydd hwn wrth gyflwyno’r gwasanaeth, yn enwedig y tunelli o
wastraff gweddilliol a gesglir o’i gymharu â'r gyfradd, nifer a natur yr
achosion tipio anghyfreithlon presennol a'r trigolion sy’n manteisio ar y
gwasanaeth. Byddai'r wybodaeth hon yn ddefnyddiol i'r Grŵp Tasg a Gorffen a
fyddai'n gwerthuso effaith y toriadau i’r gyllideb “Torri’r Got yn ôl y
Brethyn” maes o law.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod -
(a) y dylid derbyn yr adroddiad, a
(b) dylai’r Grŵp Tasg a Gorffen Archwilio (a sefydlwyd i werthuso effaith
y toriadau yn y gyllideb) archwilio a monitro effaith cyflwyno'r taliadau am
gasglu gwastraff gwyrdd fel rhan o'i waith ar y cynigion Torri’r Got yn ôl y
Brethyn.
Dogfennau ategol:
- Green Waste Report W 290115, Eitem 6. PDF 161 KB
- Green Waste Report - App 1W 290115, Eitem 6. PDF 169 KB