Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANFYDDIADAU'R ADOLYGIAD TRAFFIG A PHARCIO

Derbyn adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd (copi ynghlwm) i ystyried canfyddiadau'r adolygiad a gynhaliwyd ar draffig a pharcio mewn deg o drefi a phentrefi'r Sir.

9.40 a.m. – 10.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Phriffyrdd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn manylu ar yr adolygiad Traffig a Pharcio, ac argymhellwyd fod camau gweithredu yn cael eu cynnig o ganlyniad i hynny.  Mae’r adolygiad hwn wedi’i gyfyngu i’r deg prif ganolfan manwerthu trefol yn y sir ac mae’r adolygiad yn archwilio i sut y gall y Cyngor weithredu o ran traffig a pharcio er mwyn bod o fudd i fanwerthu yn nghanol y dref o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella masnach.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys dwy elfen ar wahân sy’n gofyn am gefnogaeth aelodau -

 

(1)       i ddatblygu’r camau gweithredu a argymhellwyd i’w cyflwyno i'r Grwpiau Ardal yr Aelodau perthnasol (GAA) i'w hystyried yn lleol, a

(2)       gwaith pellach yn cael ei wneud fel rhan o broses y gyllideb ryddid a hyblygrwydd i archwilio’r potensial o amrywio taliadau parcio rhwng trefi.

 

Fe ddarparodd Rheolwr  Traffig, Parcio a Diogelwch Ffyrdd rywfaint o gyd-destun i'r adroddiad ac ymhelaethodd ar y fethodoleg adolygu a’r mesurau arfaethedig i fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol.  Trafododd yr Aelodau yr adroddiad adolygu gyda swyddogion a chodwyd y pwyntiau canlynol -

 

·        ymatebion i'r holiaduron trigolion a chymuned busnes a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad wedi bod yn galonogol, gyda chyfradd uwch na'r cyfartaledd wedi’u dychwelyd.  Mae'r rhan fwyaf o bryderon a amlygwyd yn yr ymatebion yn ymwneud â cherbydau sy'n meddiannu mannau parcio ar y stryd am gyfnod hirach na'r amser a ddyrennir.  Mae hynny’n cael effaith andwyol gan ei fod yn rhwystro pobl eraill rhag stopio/ymweld â threfi lleol ac felly mae’r economi leol yn dioddef

·        yr angen am ddigon o lefydd parcio arhosiad byr ar draws y sir er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r trefi

·        yr angen am ddigon o lefydd i barcio ar y stryd hefyd er mwyn annog masnach sy’n galw heibio ac i wella iechyd yr economi lleol a byddai’r GAA yn y sefyllfa orau i benderfynu terfyn amser priodol ar gyfer eu hardaloedd penodol

·        i wneud y mwyaf o’r manteision economaidd mae angen elfen o gymell trigolion/ymwelwyr i ymweld â siopau, caffis lleol ac ati er mwyn eu denu i ganol trefi; dylai hyn yn ei dro dalu ar ei ganfed

·        angen rheoli gwaith gorfodi yn well, gan osgoi patrymau patrol rheolaidd mewn trefi.  Staff gorfodi hefyd yn patrolio mewn gwahanol drefi o amgylch y sir er mwyn osgoi dod yn rhy gyfarwydd â’r cyhoedd/pobl busnes a allai o bosibl arwain at lai o orfodaeth trwyadl

·        dylai fod cydbwysedd priodol rhwng camau gorfodi cadarn, defnyddio agwedd yn seiliedig ar synnwyr cyffredin a hynny ar sail achos i achos tra bod yn gwrtais a dangos parch bob amser at bawb dan sylw; byddai cyflwyno camerâu i’w gwisgo ar y corff yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad yn y dyfodol

·        angen arwyddion clir a chywir ym mhob un o leoliadau parcio cyhoeddus y sir a hefyd ar ffyrdd i mewn i'r trefi i sicrhau bod traffig yn cael ei arwain i mewn i lefydd parcio priodol - yn enwedig mewn ardaloedd twristiaeth fel Llangollen, lle gellir cyfeirio twristiaid i ddefnyddio meysydd parcio anghysbell fel bod y meysydd parcio yn nghanol y dref ei hun yn rhydd i siopwyr

·        mae llawer o’r aelodau yn awyddus, unwaith i’r GAA drafod a chytuno ar y camau gweithredu priodol ar gyfer eu hardaloedd, fod y cynghorau tref/dinas/ cymuned perthnasol yn cael eu hysbysu o'r penderfyiadau

·        angen cynnal trafodaeth ar fanteision ac anfanteision cynllun talu am barcio safonol ar draws y sir neu gynllun amrywiol a fyddai'n addas ar gyfer anghenion y trefi unigol eu hunain.  Byddai trafodaeth ar dalu am barcio ceir yn y dyfodol yn ffurfio rhan o sesiwn gweithdy cyllideb sydd ar y gweill  wrth baratoi ar gyfer cyllideb 2016/17

·        bod angen i unrhyw strategaeth barcio yn y dyfodol a/neu bolisi codi tâl fod yn gynaliadwy ac er bod aelodau yn awyddus i ganolbwyntio ar adfywio yn hytrach na chynhyrchu incwm fe ddywedodd y swyddogion y byddai'n rhaid cydbwyso anghenion yr economi leol yn erbyn yr angen i'r Cyngor i godi incwm fel rhan o'i ymgyrch gyffredinol i leihau’r pwysau ar y gyllideb

·        fe gododd yr aelodau nifer o bwyntiau yn ymwneud â phroblemau parcio o fewn eu hardaloedd lleol ac roedd hefyd rhywfaint o anghytundeb dros nifer o argymhellion yr adolygiad a chywirdeb y data a ddefnyddir, yn enwedig yn ardal Llangollen.  Dywedodd y swyddogion bod y rhan fwyaf o'r materion hynny a godwyd yn yr astudiaeth a’r manylion ar sut i ddatrys problemau unigol yn cael eu trafod yn helaeth yn y GAA priodol yn fuan

·        er bod achosion cyffredin ar draws yr holl drefi byddai angen dull gweithredu wedi'i deilwra i fynd i'r afael â nhw gan ystyried amgylchiadau lleol, a derbyniwyd bod y GAA yn y sefyllfa orau i drafod a phenderfynu camau rheoli traffig priodol ar gyfer eu hardaloedd unigol - penderfynwyd i ddiwygio argymhelliad 3.2 o'r adroddiad i gynnwys yr angen i’r GAA i gytuno ar y camau gweithredu angenrheidiol

·        amlinellwyd gwahanol fathau o gymhellion a chynlluniau parcio ceir, gan gynnwys costau dangosol o osod a chynnal a chadw gwahanol fathau o fetrau parcio, systemau adnabod rhifau ceir, ac ati.; tra bod nifer o fesurau wedi cael eu harchwilio roedd rhai yn gostus ac yn amhoblogaidd gyda'r cyhoedd ac yn y tymor byr argymhellwyd y defnydd o swyddogion gorfodi

·        trafodwyd y pwysau parcio ychwanegol posibl yn Llangollen o ganlyniad i’r ganolfan iechyd a’r archfarchnad newydd arfaethedig, a dywedodd y swyddogion y byddai adroddiad ar wahân ar reoli pwysau traffig yn cael ei gomisiynu, yn ogystal ag adroddiad ar bwysau traffig a rheoli parcio yn y dref pan gynhelir digwyddiadau arbennig yn y Pafiliwn.  Cytunodd y swyddogion i rannu'r adroddiad gyda GAA Dyffryn Dyfrdwy pan fydd ar gael;

·        dywedwyd wrth yr aelodau y byddai'r Cyngor yn cysylltu â'r swyddogion traffig i gael cyngor ar ôl derbyn y ceisiadau ar gyfer datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) gyda'r bwriad o argymell cynlluniau rheoli traffig ar gyfer y safleoedd sydd ar fin cael eu datblygu;

·        trafodwyd y mater o ddadleoli oherwydd cyfyngiadau parcio newydd/diwygiedig a sut y gellid eu rheoli yn y dyfodol, yn ogystal ag argaeledd meysydd parcio i fysiau ar draws y sir, ac

·        gofynnodd yr aelodau  am wybodaeth ar yr incwm blynyddol a gynhyrchwyd gan bob un o feysydd parcio y sir.

 

Eglurodd y swyddogion bod angen penderfyniadau lleol i rai o’r elfennau adolygu ardaloedd unigol ond mae eraill, megis y taliadau parcio ceir amrywiol, angen mynd trwy'r broses o aelodau yn gwneud penderfyniadau.  Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn adroddiad yn ôl ar gasgliadau'r adolygiad talu am barcio cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn:-

 

(a)       derbyn yr adroddiad, ac yn nodi cynnwys yr Adolygiad;

 

(b)       cefnogi, mewn egwyddor, datblygu’r camau gweithredu a argymhellwyd yn yr Adolygiad ac yn ôl y crynodeb yn Atodiad C o’r adroddiad, yn cynnwys cyfrifo’r costau dangosol i bob un o'r camau gweithredu, a thrafod a chytuno ar y camau hyn gyda phob un o'r Grwpiau Ardal yr Aelodau perthnasol;

 

(c)        cefnogi cynnal darn arall o waith manwl i archwilio potensial amrywio ffioedd parcio rhwng trefi yn unol â’r ddarpariaeth a'r galw fel y nodwyd yn yr Adolygiad Traffig a Pharcio, a

 

(d)       derbyn adroddiad pellach ar gasgliadau adolygiad amrywiol taliadau parcio pan fydd ar gael a chyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

[Pleidleisiodd y Cynghorydd Rhys Hughes yn erbyn penderfyniad (c) uchod.]

 

Ar y pwynt hwn (11.20 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: