Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047857

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047857.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 047857 ynglŷn â difrifoldeb y digwyddiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

[Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)           addasrwydd Gyrrwr Rhif 047857 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          honiad o ymosodiad wedi cael ei wneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 047857 ar 11 Awst 2014, yr ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (mae crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         y Pwyllgor Trwyddedu ar 3 Rhagfyr 2014 wedi gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr, wrth aros am ganlyniad achos troseddol yn yr achos hwn (manylion a oedd wedi’u hatodi fel adroddiad atodol), a

 

(iv)         bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod yng nghwmni ei gynrychiolydd cyfreithiol a'i gyflogwr.  Yn dilyn cyflwyniadau, cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r (HB) adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.  Dangoswyd recordiad TCC o'r digwyddiad a oedd yn destun yr adroddiad i'r Pwyllgor Trwyddedu, ac fe gafodd ei ailchwarae nifer o weithiau trwy gydol y gwrandawiad ar gais yr aelodau.

 

Cyflwynodd cynrychiolydd cyfreithiol y Gyrrwr nifer o eirdaon ysgrifenedig yn cadarnhau cymeriad da ei chleient, a dywedodd ei fod wedi bod yn gweithio fel gyrrwr tacsi heb ddigwyddiadau blaenorol.  Esboniodd yr amgylchiadau ynghylch ple ei chleient yn Llys yr Ynadon, a'i barodrwydd i dderbyn ei ran yn y digwyddiad a chymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.  Mewn camau lliniaru pellach, fe fanylodd ar fersiwn ei chleient o’r digwyddiadau yn arwain at y digwyddiad, ac yn ystod y digwyddiad a oedd ar y TCC, ynghyd â'i edifeirwch gwirioneddol.  Wrth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, tynnodd sylw at nifer o anghysondebau yn natganiadau’r tystion a roddwyd, gan ddadlau yn erbyn hygrededd y tystion hynny na ellid dibynnu arnynt.  O ganlyniad, roedd hi'n dadlau, o ystyried amgylchiadau'r achos, bod ymateb ei chleient yn ddealladwy, er bod hynny’n groes i’w gymeriad yn llwyr, a’i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded tacsi.

 

Holodd Aelodau gwestiynau i'r Gyrrwr ynghylch ei fersiwn ef o ddigwyddiadau, gan gynnwys ei farn am y digwyddiad a chanlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn.  Fe wnaeth y Gyrrwr gydnabod bod ei ymddygiad wedi bod yn annerbyniol, gan fynegi ei ofid dwfn am y digwyddiad ac ymddiheurodd yn llaes.  Roedd gan y Gyrrwr gefnogaeth lawn ei gyflogwr a siaradodd ar ei ran ac ymatebodd i gwestiynau ynghylch ei gyflogaeth, a chadarnhau ei fod yn weithiwr gwerthfawr.  Cyfeiriodd hefyd at ei rwystredigaeth ynghylch elfennau o fasnach tacsis y Rhyl yn gyffredinol, sy’n peri tensiwn ac i yrwyr trwyddedig anghytuno â’i gilydd.

 

Gwnaeth y cynrychiolydd cyfreithiol ddatganiad terfynol yn crynhoi ei chyflwyniadau cynharach a oedd yn tystio i gymeriad da ei chleient, gan dynnu sylw at y sefyllfa eithafol a wynebodd, a’i ofid diffuant a’i barodrwydd i gymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.  Fe apeliodd i’r pwyllgor i beidio â thynnu ei drwydded oddi arno, gan ddadlau nad oedd unrhyw sail gyfreithiol i atal neu ddirymu yn yr achos hwn.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 047857 ynglŷn â difrifoldeb y digwyddiad a’i ymddygiad yn y dyfodol.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Yn ystod trafodaethau, ystyriodd yr aelodau ddifrifoldeb y digwyddiad ac er bod pryderon difrifol dros ymddygiad y Gyrrwr yn yr achos hwn, derbyniwyd ei fersiwn ef o'r digwyddiadau a’r camau lliniaru gan y Pwyllgor Trwyddedu, ac fe’i ystyriwyd yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded.  Roedd yr Aelodau o’r farn bod y Gyrrwr yn wylaidd a wirioneddol yn edifar am y gweithredoedd y cymrodd cyfrifoldeb amdanynt.  Ystyriwyd y geirdaon a oedd yn cadarnhau cymeriad da a gwasanaeth gwerthfawr y Gyrrwr hefyd.  Fodd bynnag, er bod hynny’n ddealladwy, roedd yr ymddygiad a ddangoswyd gan y Gyrrwr tra roedd ar ddyletswydd yn amlwg yn annerbyniol ac wedi dwyn anfri ar y Cyngor.  O ganlyniad, cytunwyd i roi rhybudd ffurfiol i’r Gyrrwr ynghylch difrifoldeb y digwyddiad ac ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a’i gynrychiolydd cyfreithiol.

 

 

Dogfennau ategol: