Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 047689

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 047689.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 047689 yn cael ei rybuddio ynghylch difrifoldeb y digwyddiad ac y caiff rhybudd ysgrifenedig terfynol ei gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)           addasrwydd Gyrrwr Rhif 047689 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          honiad o ymosodiad wedi cael ei wneud yn erbyn Gyrrwr Rhif 047689 ar 11 Awst 2014, yr ymchwiliwyd iddo gan Swyddogion Gorfodaeth Trwyddedu (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi eu hatodi i’r adroddiad);

 

(iii)         y Pwyllgor Trwyddedu ar 3 Rhagfyr 2014 wedi gohirio ystyried addasrwydd y Gyrrwr, wrth aros am ganlyniad achos troseddol yn yr achos hwn (manylion a oedd wedi’u hatodi fel adroddiad atodol), a

 

(iv)         gofynnwyd i’r Gyrrwr fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dilyn cyflwyniadau, cadarnhaodd ei fod wedi cael yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r (HB) adroddiad a manylodd ar ffeithiau’r achos.  Dangoswyd recordiad TCC o'r digwyddiad a oedd yn destun yr adroddiad i'r Pwyllgor Trwyddedu, ac fe gafodd ei ailchwarae nifer o weithiau trwy gydol y gwrandawiad ar gais yr aelodau.

 

Fel cam lliniaru, cyflwynodd y Gyrrwr ddatganiad ysgrifenedig gan ei Gyfreithwyr a oedd yn cynnwys cyfeiriad at ganlyniad yr achos troseddol yn yr achos hwn ac amgylchiadau'r drosedd.  O ystyried y manylion hynny, ynghyd â'r amser ers y digwyddiad pan oedd y gyrrwr wedi parhau i yrru tacsis, byddai dirymu trwydded y Gyrrwr yn anghyfiawn yn yr achos hwn.  Hefyd, eglurodd y Gyrrwr ei fersiwn ef o'r digwyddiadau yn arwain at y digwyddiad ac fe siaradodd am y recordiad TCC gyda’r aelodau, gan wadu'r honiad o ymosod a phwysleisio ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd.

 

Holodd yr Aelodau’r Gyrrwr ynghylch y dystiolaeth a gyflwynwyd a’i ymddygiad cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.  Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau'r aelodau a gwadodd yr honiad o ymosod ond mynegodd ofid dros wrthdaro â’r ymosodwr ac ymhelaethodd ymhellach ar ei fwriadau a’r gweithredoedd yn ystod y digwyddiad.  Wrth fynegi ei edifeirwch, fe wnaeth y Gyrrwr gydnabod sut y byddai'r digwyddiad yn cael ei ystyried gan y cyhoedd ac fe dderbyniodd hefyd y dylai wedi delio â’r sefyllfa'n wahanol.  Cyfeiriodd at ei awydd i barhau â'i broffesiwn fel gyrrwr tacsi a rhoddodd sicrwydd pendant ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, dywedodd y Gyrrwr ei fod yn mwynhau ei swydd ac yn dda yn ei swydd, ac apeliodd i'r pwyllgor i beidio â dirymu ei drwydded.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD bod Gyrrwr Rhif 047689 yn cael ei rybuddio ynghylch difrifoldeb y digwyddiad ac y caiff rhybudd ysgrifenedig terfynol ei gyhoeddi ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 [Roedd y Cynghorydd Stuart Davies am i nodyn gael ei wneud iddo bleidleisio yn erbyn y penderfyniad uchod.]

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a datganiadau'r Gyrrwr i gefnogi ei achos, a’i atebion i’r cwestiynau.  Ystyriwyd bod y Gyrrwr wedi achosi’r digwyddiad ac roedd aelodau yn feirniadol iawn o'i ymddygiad a oedd wedi dwyn anfri ar y Cyngor.  Codwyd pryderon hefyd fod y Gyrrwr wedi cael ei ddwyn gerbron y pwyllgor yn flaenorol, yn ymwneud â materion ymddygiad.  Wrth asesu addasrwydd y Gyrrwr fel gyrrwr trwyddedig, ystyriodd yr aelodau bod elfennau o'r recordiad TCC yn amhendant, ond roedd y Gyrrwr wedi cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y digwyddiadau.  Cydnabuwyd hefyd ei fod wedi parhau i yrru ers hynny heb ddigwyddiad ac wedi mynegi edifeirwch am ei weithredoedd.  O ganlyniad, penderfynodd yr aelodau i roi rhybudd terfynol fod y Gyrrwr mewn perygl o golli ei drwydded os bydd unrhyw droseddau yn y dyfodol.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 [Yn ystod y cyfarfod, cafodd datganiad ei gyflwyno ynglŷn â chyflwr y diwydiant tacsis yn Sir Ddinbych a gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion trwyddedu edrych i mewn i'r materion a godwyd, a rhoi ymateb i'r pwyllgor arno.]

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.55pm.

 

Dogfennau ategol: