Eitem ar yr agenda
PERFFORMIAD MEWN PERTHYNAS Â CHYRRAEDD Y SAFONAU PERFFORMIAD LLYFRGELLOEDD NEWYDD
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden i adolygu'r Safonau
Perfformiad Llyfrgelloedd newydd - "Mae llyfrgelloedd yn gwneud
gwahaniaeth".
10.40 a.m. -11.10 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig yr
adroddiad, "Cwrdd â'r Fframwaith Newydd o Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus
Cymru 2014-17" (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Hefyd,
gofynnodd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion am sylwadau'r aelodau ar
weledigaeth y dyfodol ar gyfer llyfrgelloedd y Sir fel canolfannau cymunedol.
Gofynnwyd am yr
adroddiad gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn dilyn yr Adroddiad Gwybodaeth
a ddosbarthwyd i'r Aelodau ym mis Mai 2014.
Yn ystod cyflwyno’r adroddiad,
pwysleisiwyd er gwaethaf y ffaith nad oedd Sir Ddinbych yn bodloni tri allan
o'r wyth o safonau cenedlaethol a osodwyd gan y rheoleiddiwr - CyMAL, bod y
Llyfrgell yn wasanaeth hynod o boblogaidd gyda defnyddwyr. Roedd
safonau nad oedd wedi eu bodloni yn ymwneud â niferoedd staffio, arolygon
cyflwr adeiladu ac a oedd Wifi ar gael.
Gan fod yr olaf yn y broses o
gael ei fodloni, roedd penderfyniad ymwybodol wedi ei gymryd o ran peidio
ymdrechu i fodloni’r ddau arall ar sail cyfyngiadau cyllidebol a'r ffaith bod
yr holl adeiladau o ansawdd boddhaol ac mai ymarfer gweinyddol diangen oedd yr
arolwg. Roedd y Cyngor yn gyson, am y 12
mlynedd diwethaf neu fwy, wedi bod yn y chwartel uchaf yng Nghymru ar gyfer y
nifer o ymweliadau â llyfrgelloedd, nifer o lyfrau a fenthycwyd a boddhad
cwsmeriaid - yn ddiweddar roedd wedi ei barnu’n gyntaf ar y cyd yng Nghymru ar
gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid ymhlith rhai dan 16 oed.
Roedd CyMAL yn cydnabod bod gwasanaeth llyfrgell y Sir yn
wasanaeth poblogaidd a gwerthfawr – roedd nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu mewn
gwirionedd yn ystod 2013/14. Wrth symud
ymlaen a, gyda'r bwriad o barhau â darparu gwasanaeth poblogaidd yn wyneb
toriadau ariannol, roedd dull arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau
llyfrgelloedd ochr yn ochr â gwasanaethau cymunedol ac awdurdodau lleol eraill
yn cael ei gynnig, drwy sefydlu Canolfannau Cymunedol.
Byddai pob canolfan gymunedol, a leolir mewn adeiladau
llyfrgelloedd presennol, yn cael ei theilwra i ddarparu'r gwasanaethau
allweddol sydd eu hangen yn y cymunedau unigol hynny.
Er nad oedd y cynigion hynny wedi eu hanelu at gyflawni
pob un o ddangosyddion fframwaith newydd CyMAL, roeddent yn cyd-fynd â
gweledigaeth LlC ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned a chanolfannau cymunedol
wedi'u cynllunio i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gyfannol.
Roedd swyddogion wedi cyfarfod â swyddogion CyMAL i
drafod y weledigaeth arfaethedig yn y dyfodol ar gyfer llyfrgelloedd y sir ac
roeddent yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion ac yn gefnogol ohonynt ar y
cyfan.
Mewn
ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth swyddogion:
·
amlinellu'r costau cyfalaf a refeniw o osod a
chynnal a chadw Wifi mewn llyfrgelloedd a'r gwahanol ffynonellau ariannu a oedd
wedi eu defnyddio i gyllido'r gwaith o’u gosod
·
cadarnhau bod cynlluniau ar y gweill i osod
Wifi yn y ddwy lyfrgell arall yn ystod 2015
·
manylu am y mathau o wasanaethau, cyhoeddus a
gwirfoddol, a allai gael eu lleoli o fewn y canolfannau cymunedol arfaethedig
·
cadarnhau y byddai'r gwasanaeth llyfrgell
ysgol yn dod i ben ym mis Mawrth 2015, ond gan fod y mwyafrif o ysgolion yn
cysylltu â’r gwasanaeth llyfrgell prif ffrwd ag ymholiadau a cheisiadau, ni
ddylai’r ffaith bod y gwasanaeth yn dod i ben gael effaith andwyol
·
byddai trosglwyddo cyfrifoldeb rheoli ar
gyfer y gwasanaeth llyfrgell i'r Gwasanaeth Cefnogi Cwsmeriaid ac Addysg yn
rhoi cyfle delfrydol i wella'r berthynas waith rhwng y gwasanaethau addysg a
llyfrgelloedd. Byddai hefyd yn hwyluso cyflwyno
gwasanaethau addysg penodol h.y. cyrsiau sgiliau digidol a llenyddol o fewn
canolfannau cymunedol yn y dyfodol
·
cadarnhau ei fod yn ofyniad statudol i bob
awdurdod lleol ddarparu gwasanaeth llyfrgell, roedd y dull o ddarparu'r
gwasanaeth yn ôl disgresiwn pob Cyngor unigol
·
dweud bod y Gwasanaeth wedi prynu llyfrau
drwy'r consortia Cymru Gyfan oedd yn gwireddu arbedion ariannol sylweddol i'r
Cyngor
·
nodi bod yr ardaloedd a fyddai’n cael eu
rhyddhau o fewn llyfrgelloedd, unwaith y bydd arddangosfeydd sy'n seiliedig ar
gelf wedi eu dileu'n raddol, yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau yn y
gymuned. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu na
fyddai staff y gwasanaeth celf ar gael i gynorthwyo grwpiau celfyddydol i
drefnu / gosod arddangosfeydd yng nghanolfannau eraill o fewn y gymuned.
·
cadarnhau y byddai'r gwasanaeth celf yn barod
i weithio gyda grwpiau cymunedol ac ati, i ganfod a gwneud cais am gyllid
allanol ar gyfer gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y gymuned
·
cadarnhau y dylai’r Gwasanaeth, er gwaethaf y
toriadau y mae'n eu hwynebu, fod â digon o gapasiti yn y dyfodol i ymgymryd â'i
arolygon boddhad cwsmeriaid ei hun yn hytrach na thalu darparwr allanol i
ymgymryd â hwy.
Holodd
yr Aelodau hefyd am y posibilrwydd o’r holl lyfrgelloedd / canolfannau
cymunedol a leolir mewn ardaloedd lle roedd band eang ffibr optig ar gael yn
darparu’r gwasanaethau hynny, ac am gynlluniau i arddangosfa barhaol ar gyfer y
diweddar Philip Jones-Griffiths gael ei lleoli yn Llyfrgell Rhuddlan.
Llongyfarchodd
yr Aelodau y swyddogion a staff am ddarparu gwasanaeth mor boblogaidd a
gwerthfawr er nad ydynt yn bodloni holl ofynion y Rheoleiddiwr, a hefyd am fod
yn barod i gwrdd â'r Rheoleiddiwr ac esbonio pam nad yw dangosyddion wedi eu
bodloni ac egluro gweledigaeth a rhesymeg yr Awdurdod. Gwnaeth y Pwyllgor:
Benderfynu:
(i) yn amodol ar y sylwadau uchod ar ofynion Pumed
Fframwaith Safonau Llyfrgelloedd i dderbyn perfformiad a amcangyfrifir y
Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2014-17; ac
(ii) i roi yn ei raglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer
Hydref 2015 Asesiad Blynyddol CyMAL yn seiliedig ar berfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell 2014-15; a
(iii) bod yr adroddiad yn Hydref 2015 hefyd yn
cynnwys adroddiad cynnydd ar y gwaith o ddatblygu llyfrgelloedd yn ganolfannau
cymunedol.
Dogfennau ategol:
- Library Standards Report W 150115, Eitem 7. PDF 103 KB
- Library Standards Report 150115 - Apps, Eitem 7. PDF 138 KB