Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLAETH ARIANNOL YSGOLION

Derbyn adroddiad llafar gan Reolwr Cynllunio Addysg ac Adnoddau ar reolaeth ariannol ysgolion.

 

 

Cofnodion:

Darparodd y Pennaeth Archwiliad Mewnol grynodeb o'r cefndir i faterion sy'n ymwneud â rheolaeth ariannol ysgolion ac eglurodd fod y pryderon a godwyd yn ymwneud â balansau credyd ysgol yn hytrach na balansau diffyg.  Dywedodd wrth y Pwyllgor o safbwynt archwiliad cawsant eu rheoli'n dda er bod pwysau ar falansau penodol.  Roedd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg wedi cwrdd ag Aelodau ac roedd hyn wedi rhoi sicrwydd iddynt mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol.

 

Dosbarthwyd copi o'r rhagolwg tair blynedd yn ôl ysgol ar gyfer 2014-15 i 2015-16 yn y cyfarfod.  Mynegodd y Cynghorydd P.C. Duffy bryder nad oedd y ddogfen wedi cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Crynhodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg y papur rhagolwg tair blynedd a oedd yn rhoi manylion ar Gyfanswm y ffigurau Gwarged(diffyg) ar gyfer Cyllideb 2014/15, Gwarged (diffyg) 2014/15, % Gwirioneddol i Amrywiant o fewn y gyllideb, adfachu dros y trothwy o 5% a thros trothwy LlC.

 

Amlygwyd y materion canlynol gan y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg: -

 

-                  Argymhellodd LlC fod lefel y balansau yn £3.3 miliwn.

-                  Cyfanswm gwarged ar gyfer pob ysgol a gofnodwyd ar hyn o bryd yn £2.9 miliwn, a oedd yn is na Pholisi Sir Ddinbych sy’n argymell 5%.

-                  Mae gan rai ysgolion  falansau sy’n fwy na 5%.

-                  Newid Rheoliadau Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2010, ar yr amod bod gan Awdurdodau Lleol y pŵer i adfachu balansau sy’n fwy na £50k ar gyfer ysgolion cynradd a £100k ar gyfer ysgolion uwchradd.

-                  Mae Sir Ddinbych ar hyn o bryd £400k yn is nag argymhelliad Llywodraeth Cymru ar gyfer balansau ar gyfer yr holl ysgolion. 

-                  Oherwydd sbectrwm eang o ysgolion mae Sir Ddinbych wedi penderfynu peidio â gorfodi'r rheol yn eu hysgolion.  Mae’r effaith dros gyfnod o dair blynedd yn fwy perthnasol na thros flwyddyn.

-                  Mae cyfeiriad wedi’i wneud at y perthnasedd ac effaith cyllideb sy’n sefyll yn stond ar gyfer ysgolion tan 2014/15 a 2015/16.

-                  Holodd Cynrychiolydd i  Swyddfa Archwilio Cymru y rheswm dros ddwy ysgol uwchradd i fod â balansau mwy nag ysgolion eraill.  Eglurodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg bod yr ysgolion yn ysgolion arbennig a bod y balansau a gedwir  ar gyfer ymgymryd â gwaith a raglennwyd yn yr ysgolion.

-                  Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd, fe eglurodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg bod Ysgol Pendref yn ysgol mewn trafferthion ariannol, a bod cynllun adfer yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg at y cynllun tair blynedd a dywedodd wrth y Pwyllgor bod cylchredu cyllidebau ysgolion uwchradd ar fin digwydd.  Fodd bynnag, byddai'r rhai sy'n ymwneud ag ysgolion cynradd yn cael eu gohirio dros dr oherwydd newidiadau LlC yn ymwneud â'r cyfnod cyllido sylfaen.  Byddai rheolwyr cyllid yn gweithio gyda llywodraethwyr yr ysgol a'r pennaeth i gynhyrchu cynllun tair blynedd diwygiedig, a byddai’r manylion wedi’u cynnwys yn y ffigurau  yn cael eu dosbarthu.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnwys  yr ystyriaeth bellach i adroddiad ym mlaenraglen waith y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer trafodaeth.  Teimlai'r Prif Gyfrifydd y gallai fod yn fuddiol os byddai’r adroddiad yn cyd-daro â'r adroddiad ar y sefyllfa derfynol ar gyfer 2014/15.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cyfeiriodd y Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg i'r rheolau prynu ar gyfer ysgolion a rhoi manylion y ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer staff ysgol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheolau Gweithdrefn Contractau newydd.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-

 

(a)            yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac yn

(b)            gofynnir bod ystyriaeth i adroddiad pellach yn cael ei gynnwys ym mlaenraglen waith y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion.

     (JW, CW a RW i Weithredu)