Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARHOLIADAU ALLANOL WEDI EU GWIRIO AC ASESIADAU ATHRAWON

Ystyried adroddiad gan Swyddog Effeithiolrwydd Perfformiad Ysgol: Uwchradd (copi ynghlwm) i adolygu perfformiad ysgolion, a phlant sy'n derbyn gofal; ac effaith Gwe ar gyrhaeddiad addysgol pwerau'r Sir.

9.40 a.m. – 10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad Arholiadau CA4 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pherfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych.   Gwnaeth hefyd roi ymddiheuriadau Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, y Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion Rhanbarthol, am ei absenoldeb o’r cyfarfod, nad oedd modd ei osgoi.  Nid oedd yn gallu bod yn bresennol gan fod GwE yr wythnos honno yn cael ei arolygu gan Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC).

 

Roedd adroddiad wedi ei gyflwyno yn flaenorol ar gyfer ystyriaeth gan y Pwyllgorau Archwilio Perfformiad ym mis Hydref 2014.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor wybodaeth am berfformiad a wiriwyd canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4) ac ôl-16, ynghyd ag Adroddiad Blynyddol GwE, y Gwasanaeth Effeithlonrwydd Ysgolion Rhanbarthol, ar ei waith yn Sir Ddinbych.

 

Roedd y canlyniadau cyffredinol yn hynod foddhaol, ac roedd canlyniadau Lefel 2 yn arbennig o ddymunol.   Er bod y Cyngor wedi bod yn cyflawni'n uwch na chyfartaledd Cymru ym mhob un o'r dangosyddion CA4, nid oedd yn bwriadu bod yn hunanfodlon a byddai'n parhau i ymdrechu am ragoriaeth ym mhob cyfnod allweddol mewn ymgais i wella canlyniadau ar gyfer pob disgybl a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt ar gyfer y dyfodol.

 

Er gwaethaf y perfformiad gwell o ran canlyniadau CA4, roedd perfformiad rhai ysgolion unigol wedi dirywio ac mae’r pwyllgor archwilio wedi eu hannog i gefnogi'r ysgolion hynny ar eu taith at wella.

 

Cynhaliwyd trafodaeth fanwl ac mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dywedodd y swyddogion:

 

·         Roedd Ysgol Uwchradd Prestatyn wedi bod yn cael cefnogaeth sylweddol i hwyluso gwelliant oddi wrth y sir a GwE.  Byddai effaith cefnogaeth GwE i'r ysgol yn cael ei gwerthuso yn y dyfodol agos

·         Cyfarfu swyddogion yr Adran Addysg a GwE bob pythefnos i drafod eu cynlluniau gwaith ac i sicrhau bod yr ysgolion sy'n cael cefnogaeth yn mynd rhagddynt gyda'u gwelliant.

·         Roedd cefnogaeth yn cael ei rhoi i dîm rheoli Ysgol Brynhyfryd yn dilyn secondiad eu Pennaeth i GwE.  Byddai effaith y gefnogaeth yn cael ei monitro yn barhaus yn wyneb y ffaith bod perfformiad yr ysgol mewn rhai meysydd wedi dirywio.

·         Roedd trafodaethau ar y gweill gydag arweinwyr busnes ym Mwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, o ran sut y gallai adrannau addysg awdurdodau lleol roi’r sgiliau a'r cymwysterau perthnasol yn y ffordd orau i ddisgyblion er mwyn gwella'r economi leol o fewn cyfyngiadau'r cwricwlwm cenedlaethol.  Byddai rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys sefydlu Fforwm Cyflogwyr Addysg.

·         O fewn categoreiddio uwchradd Llywodraeth Cymru, roedd Sir Ddinbych yn y 4ydd safle ar y cyd yng Nghymru allan o 22 awdurdod addysg.  Er nad oedd gan Sir Ddinbych unrhyw ysgolion unigol yng nghategori 4, y categori isaf, roedd dwy ysgol yng nghategori 3.  Dyhead y Sir fyddai cael pob ysgol yn naill ai categori 1 neu 2.   Er mwyn cyflawni hyn, byddai gwaith a chefnogaeth bellach yn ofynnol ar gyfer tair ysgol.  Awgrymwyd yn ystod y cyfarfod y gallai archwilio fod â rôl i'w chwarae wrth sicrhau’r gwelliant hwn.

·         Roedd strategaeth tymor hir ar waith i fynd i'r afael â'r amrywiad mewn perfformiad rhwng ysgolion mewn perthynas â chyrhaeddiad lefel 2, gan gynnwys iaith a mathemateg.  Roedd y strategaeth hon yn cynnwys nodi disgyblion sy’n ei chael yn anodd yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i'w galluogi i wireddu eu potensial yn nes ymlaen yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4.  Byddai'r gwaith hwn yn ategu amcanion y strategaeth rhifedd a llythrennedd genedlaethol.

·         Yn Fforwm Ieuenctid y Sir, gofynnwyd am safbwyntiau disgyblion ar faterion addysgol, e.e. pynciau a dulliau addysgu.

·         Er y cydnabu bod ethos ysgolion unigol yn cael rhywfaint o effaith ar gyrhaeddiad addysgol, roedd pob ysgol a’u staff yn gwbl ymwybodol o ba safonau perfformiad a ddisgwylid ganddynt, yn lleol a chenedlaethol.  Roedd hefyd yn cael ei gydnabod yn eang bod cydberthynas rhwng addysgu da a disgyblion ysbrydoledig.

·         Tynnwyd sylw at gyflawniadau addysgol ysgolion arbennig y Sir a'i Blant sy'n Derbyn Gofal.  Fodd bynnag, nododd swyddogion ac aelodau eu siom parhaus nad oedd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gyflawniadau addysgol ysgolion arbennig.  Penderfynwyd, felly, bod llythyr yn cael ei anfon at y Pennaeth Addysg yn Llywodraeth Cymru yn cyfleu barn y Pwyllgor ei fod yn cymryd camau i adrodd yn flynyddol mewn modd dilys a phriodol ar gyflawniadau a chyrhaeddiad addysgol disgyblion mewn ysgolion arbennig.

·         Roedd gan swyddogion bryderon tebyg i aelodau mewn perthynas â faint o gydnabyddiaeth a roddwyd gan y sector addysg uwch i gymhwyster Bagloriaeth Cymru.  Roedd swyddogion wedi tynnu sylw LlC at y pryder hwn, ond awgrymwyd efallai y bydd archwilio hefyd am edrych i mewn i'r broblem a'i heffaith ar ddisgyblion y Sir.

·         Roedd angen gwella sgôr pwyntiau ehangach mewn perthynas â chanlyniadau lefel 3 gyda golwg ar wella safle’r Sir yng Nghymru (20fed ar hyn o bryd) a chefnogi disgyblion i wireddu eu potensial llawn a dilyn y llwybr addysgol / gyrfa y maent wedi’i ddewis.

·         Roedd y mater sy'n ymwneud ag adeiladwaith adeiladau ysgol a’u haddasrwydd ar gyfer addysgu modern yn cael sylw drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.  Fodd bynnag, roedd hyn yn ddibynnol ar gyllid llywodraeth ganolog yn ogystal â chyllid llywodraeth leol a allai gael eu heffeithio yn ddifrifol yn y tymor hir gan y toriadau ariannol yn y sector cyhoeddus.  Codwyd materion ynghylch addasrwydd rhai adeiladau yn Ysgol Plas Brondyffryn ar gyfer ysgol arbennig

·         Cadarnhawyd bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gwreiddiol rhwng holl Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a GwE yn CLG generig wedi’i anelu at dargedu cefnogaeth i ysgolion sy'n tanberfformio.  Gan nad oedd y rhan fwyaf o ysgolion Sir Ddinbych yn syrthio i'r categori hwn, roedd wedi gwireddu manteision cyfyngedig yn rhannol yn unig o'i fuddsoddiad yn y gwasanaeth.  Serch hynny, nid oedd gan yr ysgolion a oedd wedi gweithio'n agos gyda GwE ddim byd ond canmoliaeth am y gwasanaeth a'r gefnogaeth a gawsant.  O dan y CLG diwygiedig ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol (2014/15), roedd swm penodol o arian wedi ei roi o'r neilltu ar gyfer ymyrraeth yn Sir Ddinbych.  Y bwriad oedd y gallai rhywfaint o'r arian hwn gael ei ddefnyddio i ymyrryd i gefnogi ysgolion da i symud ymlaen i fod yn ysgolion ardderchog.

·         Pwysleisiwyd bod y cyllid ar gyfer gwasanaethau gwella ysgolion gan Lywodraeth Cymru wedi ei ddiogelu rhag y toriadau yn y gyllideb, dylai hyn sicrhau y dylai lefel y gwasanaeth a ddarperir gan GwE gael ei gynnal a bod o ansawdd da cyson.

 

Yn dilyn y drafodaeth fanwl, llongyfarchodd y Pwyllgor y staff addysg ac ysgolion ar eu perfformiad.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)            cymeradwyo perfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a'r meincnodau allanol sydd ar gael ar hyn o bryd

(ii)          bod llythyr yn cael ei anfon at y Pennaeth Addysg yn Llywodraeth Cymru yn cyfleu barn y Pwyllgor y dylai camau gael eu cymryd yn genedlaethol i adrodd yn flynyddol, mewn modd dilys a phriodol, ar gyflawniadau a chyrhaeddiad addysgol disgyblion mewn ysgolion arbennig.

(iii)         bod y Pwyllgor yn ystyried cynnwys yn ei Raglen Gwaith i’r Dyfodol, gwaith mewn perthynas â:

a.    chynyddu nifer y disgyblion sy'n cyflawni graddau A* ac A ar Lefel 2 (TGAU) a Lefel 3 (Safon Uwch a Galwedigaethol Cyfwerth), gan gynnwys cynyddu’r sgôr pwyntiau ehangach, trwy gefnogaeth gan yr Awdurdod Addysg Lleol a GwE

b.    archwilio a monitro effeithiolrwydd y gefnogaeth a roddir i’r ddwy ysgol uwchradd yn y Rhyl i wella eu lefelau cyrhaeddiad Lefel 2 ac i gynnal gwelliant yn yr ysgolion hynny’n barhaus

c.    archwilio a monitro effeithiolrwydd y gefnogaeth a roddir i Ysgol Uwchradd Prestatyn i wella ei lefelau cyrhaeddiad Lefel 2 a Lefel 3 ac i gynnal gwelliant yn yr ysgol honno’n barhaus

d.    archwilio a monitro effeithiolrwydd y gefnogaeth a ddarperir i Ysgol Brynhyfryd gyda golwg ar adennill ei lefelau cyrhaeddiad Lefel 2 a Lefel 3 blaenorol  a gwella ymhellach tuag at fod yn ysgol ragorol

e.    archwilio a monitro cyraeddiadau addysgol Lefel 3 myfyrwyr Chweched dosbarth y Rhyl i benderfynu a yw eu canlyniadau addysgol yn cael eu diwallu i safon foddhaol sy'n eu cefnogi ar eu llwybrau addysgol / gyrfa y maent wedi’u dewis

f.      archwilio ffyrdd y gall y Cyngor weithio gyda Llywodraeth Cymru mewn ymgais i ehangu'r gydnabyddiaeth a roddir gan sefydliadau addysg uwch i gymhwyster Bagloriaeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: