Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 19 Mawrth 2015 9.30 am (Item 3.)
- View the declarations of interest for item 3.
Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen
rhoi sylw brys iddo o dan ddarpariaethau Rhan II:-
1.
Cau’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol – Mynegodd
yr Aelodau bryderon ynglŷn â cholli’r gwasanaeth hwn ddiwedd mis Mawrth
2015. Er ei fod yn wasanaeth yn y Rhyl mae’n darparu gwasanaeth i’r sir gyfan,
yn enwedig unigolion a grwpiau cymunedol yn rhai o wardiau mwyaf difreintiedig
y sir. Cynghorodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol y gwnaed penderfyniad yn 2013 i leihau cyllid yr Asiantaeth
Datblygu Cymunedol o £25 mil.
Gwnaed y penderfyniad yn rhannol i ddelio â
gostyngiad yn y gyllideb, ond hefyd i ddiwallu anghenion datblygu a darparu
gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddiwallu gofynion deddfwriaeth gofal
cymdeithasol newydd. Roedd trefniadau trosglwyddo ar waith yn ystod y
ddwy flynedd ddiwethaf a byddai’r ddau aelod o staff yr effeithir arnynt yn
symud i rolau newydd o fewn y Gwasanaeth. Roedd
Swyddogion, gan gynnwys y Cyfarwyddwr wedi cyfarfod gyda Chyngor Tref y Rhyl a
Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i drafod dyfodol yr adeilad a dulliau amgen o
ddarparu’r gwasanaethau sydd ar gael yno ar hyn o bryd.
Pwysleisiwyd bod rhai o’r gwasanaethau yr oedd y
Cyngor yn eu cynnig yn yr Asiantaeth ar hyn o bryd yn wasanaethau anstatudol,
ond yn ystod cyfnodau anodd roedd yn rhaid i’r Awdurdod ganolbwyntio ar
wasanaethau statudol a swyddogaethau craidd. Gan fod rhai
o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn
cael eu cynnig trwy asiantaethau eraill megis y Ganolfan Waith yna ni fyddai’n
effeithlon defnyddio adnoddau cyfyngedig y Cyngor i ddyblygu’r gwasanaethau
hynny. Cynghorodd y Cyfarwyddwr bod y Cyngor yn fodlon
bod sefydliad ‘partner’ yn defnyddio'r cyfleuster ac yn defnyddio'r offer sydd
yno sydd yn eiddo i’r Cyngor ar hyn o bryd. Pe
bai menter gymdeithasol yn defnyddio’r adeilad gallant hwy fanteisio ar fentrau
megis rhenti, trethi a chostau gwasanaeth is ac ati. Fodd bynnag, ni allai’r
Cyngor ddarparu staff ar gyfer y Ganolfan gan na fyddai’r amcanion bellach yn
cydymffurfio â gweledigaeth Llywodraeth Cymru a'r disgwyliadau ar gyfer
gwasanaethau gofal cymdeithasol wrth symud ymlaen. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Aelodau bod
cyfarfod arall wedi’i drefnu yn y dyddiau nesaf gyda Phartneriaeth Arfordirol y
Rhyl i weld os gellir datblygu eu diddordeb yn y cyfleuster, ac mewn ymateb i
gwestiynau’r aelodau fe gynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y
Bartneriaeth yn gorff sefydliadol cofrestredig.
Roedd y Pwyllgor o’r farn fod y Rhyl yn colli
gwasanaeth cymunedol gwerthfawr unwaith eto. Hysbyswyd
y swyddogion bod ambell eitem yn yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn eiddo i’r
gymuned ac felly ni ddylid eu symud o’r cyfleuster heb ganiatâd y gymuned. Mewn
ymateb i bryderon yr Aelodau ynglŷn â sut y gellir llenwi’r gwagle sy’n
cael ei greu trwy gau’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol cynghorodd y Cyfarwyddwr
fod gan y sector gwirfoddol rôl bwysig yn y maes hwn gan y gallai gael cyllid i
gefnogi gwasanaethau o’r fath gan y llywodraeth ganolog. Awgrymodd
efallai y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor wahodd Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i gyfarfod yn y
dyfodol i drafod eu rôl i gefnogi grwpiau cymunedol yn Sir Ddinbych yn y
dyfodol.
PENDERFYNWYD – gwahodd cynrychiolwyr o
Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i
gyfarfod yn y dyfodol i drafod eu rôl i gefnogi cymunedau i dderbyn
gwasanaethau a chyllid pan fydd gwasanaethau anstatudol y Cyngor yn cael eu
tynnu’n ôl.
2.
Uned Hawliau Lles a Nyrsio Macmillan: Mynegwyd pryderon gan yr Aelodau ynghylch argaeledd
gwasanaethau Nyrsio Macmillan i drigolion Sir Ddinbych ar ôl cau’r Uned Hawliau
Lles ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Roeddent
yn ymwybodol o wybodaeth ddiweddar oedd yn nodi bod trefniadau newydd ar gyfer
mynediad i wasanaethau gofal Nyrsio Macmillan trwy Swyddfa Cyngor ar Bopeth heb
eu llofnodi’n ffurfiol, felly ni fyddai’r gwasanaeth yn weithredol erbyn 1
Ebrill 2015 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. Cynghorodd
Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol na ellir dechrau trefniadau trosglwyddo
ffurfiol nes y gwneir penderfyniad gan y Cyngor Sir i dynnu gwasanaeth Uned
Hawliau Lles yn ôl. Roedd
trefniadau trosglwyddo ar y gweill yn awr ac roedd y swyddogion wedi cyfarfod
â’r staff y diwrnod blaenorol i gwblhau’r trefniadau. Byddai’r
gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yn raddol yn cymryd y cyfrifoldeb i ddarparu
Gwasanaeth Macmillan ar gyfer Sir Ddinbych ac fe fyddent yn derbyn cyllid gan
yr elusen ar ei gyfer.
3.
Gwasanaethau Llawdriniaeth Ddwys yn Ysbyty Glan Clwyd – Mynegodd yr aelodau bryderon ynglŷn â dyfodol y
gwasanaeth llawdriniaeth ddwys yn Ysbyty Glan Clwyd a chywirdeb erthygl yn y
Daily Post, dyddiedig 17 Mawrth 2015, yn dilyn y sicrwydd a roddwyd gan Brif
Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yr Athro Trevor
Purt, ynglŷn â gwasanaethau llawdriniaeth ddwys fydd ar gael yn Ysbyty
Glan Clwyd yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD – y dylid anfon llythyr at
Brif Weithredwr BIPBC yn ceisio eglurhad ynglŷn â’r mathau o
lawdriniaethau fyddai’n cael eu darparu yn Ysbyty Glan Clwyd yn y dyfodol.