Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2013 I'R 31 MAWRTH 2014

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn ynghyd   â’r Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn yn Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn 1af Ebrill 2013 i’r 31ain Mawrth 2014 (copi yn amgaëdig) sydd yn amlinellu effeithiau’r mesurau amddiffyn ac yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r cynnydd a wnaed yn y maes allweddol hwn ynghyd â chydnabod ei bwysigrwydd.

10:15am – 11am

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2013 hyd 31 Mawrth 2014 (dosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cynghorwyd y Cyngor bod cyflwyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud amddiffyn oedolion yn ofyniad statudol am y tro cyntaf. Byddai’r broses amddiffyn oedolion yn debyg i’r un sy'n cael ei dilyn mewn achos plant. Roedd proses newydd o ran adolygiadau achosion difrifol yn cael ei gweithredu, ond roedd y cyngor yn dal i aros am ganllawiau terfynol ynghylch gweithdrefnau oedolion.

 

Tynnwyd sylw at nifer cynyddol yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion yn y sir (tudalen 2) ac eglurwyd nad oedd hyn o reidrwydd yn golygu cynydd yn nifer yr achosion ond ei fod o bosib yn ganlyniad o ymwybyddiaeth well o fodolaeth y broses atgyfeirio a sut i gael mynediad ati.

 

Clywodd y Pwyllgor bod nifer yr atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) a phroffil y dioddefwyr honedig yn Sir Ddinbych yn debyg ac oeddynt yn Sir y Fflint a Wrecsam ill dau (merched oedrannus gan amlaf).  Yn genedlaethol roedd hyn yn golygu bod Sir Ddinbych ar ganol y gynghrair o ran ystadegau Llywodraeth Cymru.

 

Ynghylch cwynion, fe bwysleisiwyd nad oedd canlyniad ‘amhendant’ yn golygu na fyddai unrhyw weithredu’n digwydd.  Fe eir i’r afael ag unrhyw fylchau posib neu ddiffygion a adnabuwyd yn ystod y broses ymchwilio fel mater o drefn.  Mae canlyniad ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad POVA yn seiliedig ar y tebygolrwydd bod trosedd wedi digwydd, gall hyn fod yn anodd iawn mewn achosion lle na fu unrhyw dystion, lle bod hi'n gair un yn erbyn y llall. Mi fyddai rhai achosion fodd bynnag lle byddai tystiolaeth feddygol yn effeithio'r tebygolrwydd y naill ffordd neu'r llall.

 

Proses oedd POVA y byddai asiantaethau amrywiol yn ei defnyddio er mwyn casglu tystiolaeth, gyda’r bwriad o benderfynu os ddigwyddodd unrhyw gamdriniaeth.  Y penderfyniad cychwynnol fyddai: a yw’r unigolyn diamddiffyn mewn perygl niwed enbyd? Os oedd, byddai’n cael ei symud i le diogel cyn unrhyw ymchwiliad manwl i’r drosedd honedig.

 

Esboniwyd i’r Pwyllgor bod rhai sefyllfaoedd lle’r oedd ffigyrau'n dangos bod canran uchel o 'breswylwyr' wedi'u heffeithio neu fod canran uchel o staff wedi cyflawni trosedd honedig. Yn fwy aml na pheidio, roedd y rhain yn sefydliadau mawr lle bu cwyn dienw yn erbyn aelod staff dienw, ac felly’n golygu yr ystyrir bod y preswylwyr i gyd wedi’u heffeithio a’r staff i gyd yn droseddwyr honedig – roedd gan hyn y potensial i effeithio ar y ffigyrau.  O ganlyniad, gofynnodd aelodau i droednodyn gael ei gynnwys at y perwyl hwn mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

 

RoeddRoedd Dyfarniad gan y Goruchaf Lys ynghylch y prawf ar gyfer ‘amddifadu o ryddid' at bwrpas Erthygl 5 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi arwain at gynydd sylweddol yn niferoedd y ceisiadau adolygu yn genedlaethol ac yn lleol. Roedd y broses asesu hir ar gyfer adolygiadau amddifadu o ryddid a’r gost oedd ynghlwm wrth bob adolygiad unigol wedi rhoi pwysau cynyddol ar staff a chyllideb yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Hyd yn hyn roedd 11 o aseswyr lles gorau wedi eu hyfforddi i gynyddu nifer y staff oedd ar gael i gyflawni gwaith yn ymwneud  â’r adolygiadau hyn.  Fodd bynnag, nid oedd hyn yn ddigon o hyd i fynd i’r afael â’r cynydd amcangyfrifedig mewn ceisiadau adolygu. Adnabuwyd hefyd bod angen i gynyddu gallu staff ‘Ardaloedd’ i fynd i’r afael ag ymholiadau POVA, o ganlyniad byddai trafodaethau’n dechrau â hyfforddwr allanol yn gynnar yn y flwyddyn newydd i weld sut y gellid hwyluso hyn.

 

Cadarnhawyd nad oedd unrhyw swyddi wedi’u colli fel rhan o’r broses pennu cyllideb ar gyfer 2015/16, a disgwyliwyd y byddai’r adolygiad gweinyddu cyfredol yn helpu cryfhau’r Gwasanaeth wrth fynd i’r afael â’r cynydd yn nifer yr atgyfeiriadau o flwyddyn i flwyddyn ac â’r gwaith ychwanegol yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar y prawf Amddifadu o Ryddid.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD :

(i) yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad a chydnabod pwysigrwydd agwedd gorfforaethol tuag at Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed a chyfrifoldeb y Cyngor  i drin hyn fel maes blaenoriaeth allweddol a’i osod ochr yn ochr â’r ymrwymiad a phwysigrwydd a roddir gan Sir Ddinbych i Amddiffyn Plant; a

(ii) bod yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych ar gyfer y cyfnod Ebrill 2014 hyd Mawrth 2015 i’w gyflwyno i’r Cyngor ymhen deuddeg mis, a bod yr adroddiad i gynnwys gwerthusiad o effaith Dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch Amddifadu o Ryddid o ran cyllideb ac adnoddau’r Gwasanaeth a’i waith.

 

 

Dogfennau ategol: