Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYFODOL GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL MEWNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Phlant, (copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gytuno ag ymgynghoriad ar wasanaethau mewnol y dyfodol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i -

 

(a)       yn unol â'r fframwaith statudol priodol, ymgynghori â phob defnyddiwr gwasanaeth unigol a'u teulu o ran y cynigion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i gynnwys asesiad o'u hanghenion ac argaeledd darpariaeth arall addas i ddiwallu'r anghenion hynny;

 

(b)       cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ehangach ar foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol;

 

(c)        cyflwyno adroddiad/adroddiadau ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau y cyfeirir atynt yn (a) a (b) uchod i'r Grŵp Tasg a Gorffen cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cabinet gydag arfarniad opsiynau ar gyfer pob un o'r gwasanaethau; a

 

(d)       bod y Cabinet yn cadarnhau na fydd unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth unigol yn cael ei symud oni bai bod darpariaeth arall addas yn cael ei nodi.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd  y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad yn gofyn i’r Cabinet gytuno ag ymgynghoriad ar wasanaethau gofal cymdeithasol mewnol y dyfodol.   Cyfranodd gyd-destun i'r adroddiad gan dynnu sylw at ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) ac effaith y toriadau sylweddol yn y gyllideb.

 

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar gynaliadwyedd ariannol y gwasanaethau gofal cymdeithasol mewnol y Cyngor ac ar eu hargymhelliad i allanoli gwasanaethau ac arbed £700,000 a gytunwyd arno fel rhan o’r broses o osod y gyllideb.  Er mwyn symud ymlaen â’r gwaith hwnnw roedd angen ymgymryd ag ymarfer ymgynghori, gan gynnwys asesiadau effaith ar gydraddoldeb.  Mae llawer o sylw wedi bod ar y cynnig i gau y tri chartref gofal preswyl presennol a chafwyd sicrwydd ar y cychwyn cyntaf na fyddai unrhyw un ohonynt yn cael eu cau oni bai fod modd diwallu gofynion y trigolion mewn darpariaeth arall. Roedd y Cynghorydd Feeley hefyd yn awyddus i dynnu sylw at ansawdd y ddarpariaeth yn y sector preifat a oedd wedi bod yn destun rhywfaint o gyhoeddusrwydd annheg gan gynghori bod bron i 90% o leoliadau cartrefi gofal a ariennir gan y Cyngor yn y cartrefi sector preifat.

 

Cyfeiriodd y Cabinet at yr effaith y byddai cau cartrefi gofal yn ei gael ar eu preswylwyr, teuluoedd a chymunedau ehangach. Roedd yr aelodau'n awyddus i archwilio'r posibilrwydd o opsiynau eraill, fel cynlluniau tai gofal ychwanegol ynghyd â phecynnau gofal gwell gan alluogi pobl i fyw gartref yn annibynnol am gyfnod hirach, ond tynwyd sylw at yr angen i ystyried a allai anghenion defnyddwyr gwasanaeth presennol ac yn y dyfodol gael eu diwallu o fewn eu hardaloedd presennol pe baent yn bwrw mlaen â’r cynigion.  Mae mwy o ddarpariaeth o'r fath i’w gael mewn ardaloedd mwy poblog y sir ond yn brin yn y De, yn enwedig yn ardal Corwen ac mae angen rhoi ystyriaeth i ddarpariaeth iaith Gymraeg wrth ymgymryd ag asesiadau effaith ar unigolion.  Ymhelaethodd y swyddogion ar y cynnydd o ran datblygu darpariaeth amgen mewn ardaloedd penodol ynghyd â'r broses ymgynghori a fyddai'n cynnwys cyfarfod â phreswylwyr cartrefi gofal a'u teuluoedd i egluro sut y gellir darparu gwasanaethau a chasglu barn ar unrhyw newidiadau.  Byddai asesiad effaith ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn cael ei wneud a fyddai'n cynnwys darpariaeth iaith Gymraeg.  Teimlai'r Aelodau y byddai’n fanteisiol cael y Grŵp Grwp Tasg a Gorffen i ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad cyn i'r mater gael ei adrodd yn ôl i'r Cabinet ym mis Ebrill/Mai 2015.

 

Fe dynodd y Cynghorydd Ray Bartley sylw at yr angen am ymgynghoriad cyhoeddus ehangach ac fe ysgogodd hynny drafodaeth hir am natur yr ymgynghoriad i'w gynnal o ran safbwyntiau canfasio a diwallu anghenion penodol y defnyddwyr gwasanaeth presennol a'r ddadl ehangach ar foderneiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol.  Yn gyffredinol derbyniwyd bod angen dau ymgynghoriad ar wahân.  Amlygwyd yr angen am gyfathrebu effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a staff hefyd ynghyd â rheolaeth briodol o’r wasg.  Pwysleisiodd y Cynghorydd Cefyn Williams fod Cysgod y Gaer yn rhan bwysig o'r gymuned leol a oedd eisoes wedi bod yn destun cau ysgolion a chyfleusterau llai ac roedd yn bryderus bod darpariaeth arall addas yn golygu symud allan o'r ardal i drigolion lleol. 

 

Ystyriodd y Cabinet bod angen i ddiwygio'r argymhellion yng ngoleuni'r ddadl ac yn dilyn hynny -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i -

 

(a)       yn unol â'r fframwaith statudol priodol, ymgynghori â phob defnyddiwr gwasanaeth unigol a'u teulu o ran y cynigion y cyfeirir atynt yn yr adroddiad i gynnwys asesiad o'u hanghenion ac argaeledd darpariaeth arall addas i ddiwallu'r anghenion hynny;

 

(b)       cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus ehangach ar foderneiddio gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol;

 

(c)        cyflwyno adroddiad/adroddiadau ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau y cyfeirir atynt yn (a) a (b) uchod i'r Grŵp Tasg a Gorffen cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Cabinet gydag arfarniad opsiynau ar gyfer pob un o'r gwasanaethau, a

 

(d)       bod y Cabinet yn cadarnhau na fydd unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth unigol yn cael ei symud oni bai bod darpariaeth arall addas yn cael ei nodi.

 

 

Dogfennau ategol: