Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHYBUDD O GYNNIG

I ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Grŵp Llafur.

 

“Bod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor llawn ar 9 Medi, 2014 dan eitem agenda 12 - Cyllideb 2015/15 2016/17 - yn arbennig y cynigion arbedion yn ymwneud â Hawliau Lles yn Atodiad 1 yn cael ei roi o'r neilltu.”

Cofnodion:

Cymerodd yr Is-gadeirydd y Cynghorydd Gwyneth Kensler y Gadair ar gyfer yr eitem hon gan fod y Cynghorydd Blakely wedi bod yn llofnodwr ar y Rhybudd o Gynnig.

 

Roedd y Cynghorydd Colin Hughes wedi datgan cysylltiad sy'n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn y cyswllt hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Jason McLellan y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Grŵp Llafur: -

 

“Bod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor llawn ar 9 Medi 2014 dan eitem 12 ar y rhaglen - Cyllideb 2015/16 2016/17 - yn arbennig y cynigion arbedion sy’n ymwneud â Hawliau Lles yn Atodiad 1 i gael ei roi o'r neilltu."

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd McLellan bod y cynnig yn ymwneud â gosod cynigion o'r neilltu i'r graddau y maent yn gymwys i'r Tîm Hawliau Lles (THLl) yn unig.

 

Hysbysodd y Cynghorydd McLellan y Cyngor:

 

·        Roedd y THLl yn darparu gwasanaeth hanfodol i drigolion Sir Ddinbych a oedd am wahanol resymau wedi dioddef amser o galedi. Mae'r THLl wedi cynhyrchu dros £5 miliwn o incwm ychwanegol i'w gleientiaid ac wedyn i'r economi leol yn y flwyddyn flaenorol. Ar ben hynny, mae cannoedd o deuluoedd wedi dod allan o dlodi - yn enwedig tlodi tanwydd (a ddiffinnir fel mwy na 10% o incwm y cartref yn cael ei wario ar gostau ynni) - o ganlyniad i gyngor a gafwyd gan y THLl.

·        Roedd adroddiad diweddar a gynhyrchwyd gan y Cyngor ar Bopeth (CAB), sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r THLl, yn nodi Sir Ddinbych fel y lle gyda phroblemau dyledion mwyaf yn y DU. Mae’r CAB yn ymgymryd â’r holl gyngor ar ddyledion ar hyn o bryd. Y disgwyl yw y bydd y CAB yn gyfrifol am yr holl gyngor lles os bydd Sir Ddinbych yn rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth gan y THLl, gan arwain at fwy o risg o bwysau ar y CAB.

·        Gan gyfeirio at y wybodaeth a ddarparwyd i Aelodau mewn cyfarfodydd gweithdy cyllideb dros yr haf ynghylch yr arbedion posibl o £200 mil mewn Hawliau Lles. Y dewis a drafodwyd yn y cyfarfod oedd y posibilrwydd o allanoli’r  gwasanaeth. Daeth yn amlwg yn ddiweddarach bod opsiynau eraill a allai ddarparu arbedion nad oeddent wedi eu cyflwyno yn y cyfarfod.

·        Dylid ystyried y risgiau y gallai rhoi'r gorau i’r gwasanaeth THLl ei achosi, gan gynnwys y gostyngiad posibl mewn cyllid o Gytundeb Canlyniadau Llywodraeth Cymru - sy'n cael ei gyfrifo yn rhannol ar symud pobl allan o dlodi. Cynigiwyd bod y Cyngor yn ailystyried arbedion effeithlonrwydd posibl y Tîm Hawliau Lles gan ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael gyda golwg ar gytuno ar fodel darparu â llai o risg.

Gofynnodd Arweinydd y Cyngor, Hugh Evans sut y gallai'r cynnig gael ei ystyried gan y Cyngor o gofio nad oedd yn ymddangos yn dilyn y protocol a dderbynnir, lle y dylai dulliau ariannu amgen gael eu cynnig lle na ellid cytuno ar benderfyniadau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd bod Cyfansoddiad y Cyngor yn darparu, o dan adran 13.1 o'r Rheolau Sefydlog, y gall cynnig gael ei wneud i ddiwygio neu ddiddymu penderfyniad blaenorol os yw'n cael ei lofnodi gan o leiaf 10 aelod. Ar ben hynny eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd y dylai'r protocol dros gynnig newidiadau i argymhellion y gyllideb gynnwys opsiynau ariannu amgen (i gynyddu ei siawns o ystyriaeth ffafriol gan y Cyngor), ond ni fyddai cael dewisiadau eraill yn atal Aelodau rhag cynnig newidiadau.

 

Cyfaddefodd y Cynghorydd McLellan, er bod y protocol wedi cael ei gytuno gan y Cyngor nad oedd wedi pleidleisio ar ei gyfer ac roedd wedi codi pryderon am y broses yn y cyfarfod Llywodraethu Corfforaethol.

 

Yna cafwyd trafodaeth ynghylch tarddiad yr anawsterau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol, toriadau i'r cyllid a ddyrannwyd iddynt a'r gofynion i fod yn fwy effeithlon wrth wario a darparu gwasanaeth.

 

Cafodd y protocol ar gyfer gwneud penderfyniadau ar gynnig cyllideb ei drafod yn faith. Teimlai sawl aelod bod digon o gyfle wedi’i roi i drafod y cynigion, gofyn am fwy o wybodaeth neu herio penderfyniadau os nad ydynt yn fodlon ar y cynigion a gyflwynwyd iddynt. Cytunodd yr Aelodau hynny er mor anodd yw’r penderfyniadau hyn roedd yn rhaid iddynt gael eu gwneud. Teimlwyd yn arbennig lle'r oedd darparwr arall ar gael y gallai risg sy’n rhan o'r toriad arfaethedig gael ei leihau.

 

Gan ddychwelyd at y Cynnig roedd y Cynghorydd McLellan - ar ôl gofyn am gyngor gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd  - yn cynnig gwelliant:

 

“Bod y penderfyniad a wnaed gan y Cyngor llawn ar 9 Medi, 2014 dan eitem 12 ar y rhaglen - Cyllideb - i'r graddau y mae'n ymwneud â chynigion arbedion i Hawliau Lles yn atodiad 1 i gael ei roi o'r neilltu. O ran yr holl gynigion arbedion eraill a nodwyd yn yr atodiad bod y penderfyniad a wnaed ar 9 Medi 2014 yn cael ei gadarnhau gan y Cyngor."

 

Gofynnwyd am bleidlais wedi'i chofnodi a'i chefnogi gan yr 1/6 gofynnol o aelodau oedd yn bresennol.

 

O blaid y cynnig oedd y Cynghorwyr:

 

Armstrong, I.W.; Blakely, B.; Chamberlain-Jones, J; Guy, C.L.; Jones, P.M.; Lloyd-Williams, G.; McLellan, J.M.; Mellor, B.; Mullen-James, W.M.; Murray, R.M.; Penlington, P.; Sandilands, G; Simmons, D; Tasker, W.N. and Williams, C.H.

Yn erbyn y cynnig oedd y Cynghorwyr:

 

Bartley, J.R.; Cowie, W.L.; Davies, J.M.; Davies, M.Ll; Davies, S.A.; Duffy, P.C.; Evans, H.H.; Evans, P.A.; Feeley, R.L.; Holland, M.L.; Hilditch-Roberts, H.; Hughes, T.R.; Irving, H.C.; Jones, E.A.; Jones, H.L; .Kensler, G.M; Owen, P.W.; Owens, D.; Parry, T.M.; Roberts, A.; Smith, B.A.; Smith, D.I.; Thompson-Hill, J.; Welch, J.S.; Williams, C.L.; Williams, E.W. a Williams, H.O.

 

PENDERFYNWYD nad oedd y cynnig fel y’i diwygiwyd yn cael ei gefnogi.