Eitem ar yr agenda
ADRODDIADAU RHEOLI TRYSORLYS
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n cynnwys Datganiad
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2014/15, Dangosyddion Darbodus 2015/16 a
Diweddariad 2014/15.
Cofnodion:
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n
ymgorffori Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2015/16, Dangosyddion Darbodus
2015/16 ac Adroddiad Diweddaru 2014/15.
Mae'r DSRhT (Atodiad 1) yn dangos
sut y bydd y Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a'i fenthyciadau ar gyfer y
flwyddyn i ddod ac yn sefydlu’r polisïau y mae'r swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys
yn gweithredu o fewn iddynt. Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu effaith debygol y
Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth hon ac ar Ddangosyddion Darbodus. Mae Adroddiad Diweddariad Rheoli’r Trysorlys (Atodiad
2) yn darparu manylion am weithgareddau Rheoli’r
Trysorlys y Cyngor yn ystod 2014/15. Amlinellodd y Prif
Gyfrifydd y newidiadau mewn polisi a oedd yn cynnwys y goblygiadau yn ymwneud â'r
Ddeddf Diwygio Bancio a’r diwedd yn genedlaethol i system gymhorthdal
y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru.
Dywedwyd wrth aelodau mai drafft yw’r ffigurau a
gynhwysir yn y DSRhT a byddant yn cael eu diweddaru cyn eu cymeradwyo gan y
Cyngor yn seiliedig ar y Cynllun Cyfalaf diweddaraf ym mis Chwefror 2015.
Mae Rheoli’r Trysorlys yn golygu edrych ar ôl arian
y Cyngor sy'n rhan hanfodol o waith y Cyngor gan fod oddeutu £0.5 biliwn yn
mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob blwyddyn. Ar unrhyw adeg, mae gan
y Cyngor o leiaf £20miliwn mewn arian parod, felly mae angen i ni wneud yn
siŵr ein bod yn cyflawni'r gyfradd ddychwelyd gorau posibl heb roi’r arian
mewn perygl a dyna pam ein bod yn buddsoddi arian gyda nifer o sefydliadau
ariannol. Wrth fuddsoddi,
blaenoriaethau'r Cyngor yw: -
·
cadw arian yn ddiogel (diogelwch);
·
gwneud yn siŵr ein bod yn cael yr arian yn ôl pan
fyddwn ei angen (hylifedd);
·
gwneud yn siŵr ein bod yn cael cyfradd dychwelyd da
(arenillion).
Mae’r DSRhT ar gyfer 2015/16 wedi'i nodi yn Atodiad
1. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys Dangosyddion Darbodus sy'n gosod cyfyngiadau
ar weithgaredd Rheoli’r Trysorlys y Cyngor ac yn dangos bod y broses fenthyca'r
Cyngor yn fforddiadwy. Mae crynodeb o'r manylion yn Atodiad 1 wedi’i
ddarparu gan y Prif Gyfrifydd.
Mae dangosyddion Cronfa'r Cyngor
yn seiliedig ar y bidiau cyfalaf arfaethedig diweddaraf a’r dyraniadau mewn
bloc, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno
i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 24 Chwefror 2015.
Mae'r dangosyddion Cyfrif Refeniw
Tai wedi’u cyfrifo’n seiliedig ar y Cynllun Busnes Stoc Tai diweddaraf. Mae'r
Dangosyddion Darbodus unigol a argymhellwyd i'w cymeradwyo wedi'u nodi yn
Atodiad 1 - Ychwanegiad A.
MMae LlC wedi dod â’r
trafodaethau i ben â Thrysorlys EM ynglŷn â diwygio system gymhorthdal
y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru. Byddai angen benthyca rhwng £39 miliwn a £55 miliwn ar 2 Ebrill 2015 i
brynu allan o'r cynllun cymhorthdal i allu hunan-ariannu. Mae effaith hyn wedi cael
ei gynnwys yn nangosyddion darbodus y Cyfrif Refeniw Tai ac mae manylion
pellach am brynu allan wedi ei gynnwys yn Adran 8 Atodiad 1. Mae Atodiad 3 yn
cynnwys dadansoddiad risg a sensitifrwydd yn ymwneud â phrynu allan yn y Cyfrif
Refeniw Tai.
Mae'r adroddiad diweddaru ar Reoli’r Trysorlys (Atodiad 2) yn tynnu sylw at
y newidiadau a weithredwyd i'r strategaeth fuddsoddi (Atodiad 1 Adran 3) o
ganlyniad i risg mechnïaeth-i-mewn a fyddai'n golygu na fyddai banciau yn gallu
dibynnu ar gefnogaeth y llywodraeth os ydynt yn mynd i drafferth a byddai'n
ofynnol i fechnïo eu hunain drwy gymryd cyfran o adneuon buddsoddwyr i adeiladu
eu cyfalaf. Mae'r newidiadau dan sylw yn symud i ffwrdd o adneuon
banc confensiynol i fuddsoddiadau diogel megis cytundebau ailbrynu wrth gefn
(REPOs) a bondiau wedi'u gwarchod.
Mae manylion y broses ymgynghori wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad, a chadarnhawyd bod Cod
Ymarfer Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) diwygiedig ar Reoli’r Trysorlys wedi’i fabwysiadu
ar 28 Chwefror, 2012. Esboniwyd ei bod yn un o ofynion Cod y Cyngor i
gymeradwyo’r DSRhT bob blwyddyn ariannol.
Yn y fan hon o’r cyfarfod fe benderfynodd y
Pwyllgor i symud i Ran II i ystyried Atodiad 3 o’r adroddiad - Dadansoddiad o
Gytundeb Risg a Sensitifrwydd Gwirfoddol Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS).
RHAN
II
GWAHARDD Y WASG
A'R CYHOEDD
PENDERFYNWYD dan
ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r
Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth
eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac
15 Rhan 4 Atodlen 12A Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Darparodd y Prif Gyfrifydd grynodeb manwl o Atodiad
3 a oedd yn amlinellu ac yn mesur rhai o'r peryglon amlwg ac effeithiau posibl
sy'n deillio o'r cytundeb cenedlaethol arfaethedig i roi terfyn ar y system
Cymhorthdal Tai yng Nghymru. Mae’r crynodeb hefyd yn
tynnu sylw at rai o'r risgiau ariannol allweddol sy'n gysylltiedig â'r cytundeb
arfaethedig a'r effeithiau posibl ar gynaliadwyedd y Cynllun Busnes Stoc Tai. Amlinellodd y
Prif Gyfrifydd yr argymhellion fel a gyflwynwyd i'r Pennaeth Cyllid ac Asedau,
gan dynnu sylw at natur gymhleth y cytundeb arfaethedig, gyda chyfeiriad yn
arbennig at y goblygiadau sy'n codi o hyblygrwydd y cyfraddau llog.
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau’r Gyfraith, AD a
Democratiaeth fod y Cyngor wedi cymeradwyo'r cytundeb mewn egwyddor gan roi’r
awdurdod dirprwyedig i'r Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid ac Asedau priodol i
drafod y manylion terfynol. Awgrymodd y Cadeirydd bod y sefyllfa yn cael ei
nodi a’i gynnwys yn Rhaglen Waith i'r Dyfodol Pwyllgorau yn dilyn datblygiadau
pellach.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth y Cynghorydd S.A.
Davies yn ymwneud â'r hawl i brynu, fe gadarnhaodd yr Prif Gyfrifydd bod nifer
y trafodion dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fach iawn.
Ar ôl ystyried Atodiad 3 aeth y cyfarfod yn ei
flaen i Ran I.
RHAN 1
Eglurodd y Cadeirydd gyda Chod Ymarfer CIPFA ar Reoli’r Trysorlys bod angen
i Swyddog Adran 151 i sicrhau fod yr holl Aelodau sydd â chyfrifoldebau
Rheoli’r Trysorlys, gan gynnwys craffu ar swyddogaeth Rheoli’r Trysorlys, yn
cael hyfforddiant priodol sy'n berthnasol i'w hanghenion ac yn deall eu rolau
a'u cyfrifoldebau. Cytunodd y Prif Gyfrifydd y gellid rhoi
hyfforddiant iddynt gan anfon manylion y ddarpariaeth hyfforddiant blaenorol
ymlaen at y Cadeirydd.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn
derbyn y DSRhT ar gyfer 2015/16 a'r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2015/16,
2016/17 a 2017/18 (Atodiad 1).
(b)
nodi’r
adroddiad diweddaru Rheoli’r Trysorlys
(Atodiad 2), a
(c)
cytuno bod y Prif
Gyfrifydd yn rhoi manylion i’r Cadeirydd ar y ddarpariaeth hyfforddiant
blaenorol ar faterion Rheoli’r Trysorlys.
(RW i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- TM Report, Eitem 8. PDF 92 KB
- TM App 1, Eitem 8. PDF 380 KB
- TM App 2, Eitem 8. PDF 57 KB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 8./4 yn gyfyngedig