Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH RHEOLI LLIFOGYDD A MATERION YN YMWNEUD Â LLIFOGYDD

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan yr Uwch Beiriannydd, Rheoli perygl Llifogydd, sy’n gofyn i’r Pwyllgor drafod p’un ai yw’r Cyngor yn cwrdd â’i rwymedigaethau statudol a dewisol mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn.

9.35am- 10.15am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus adroddiad yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Perygl Llifogydd) (a gylchredwyd yn flaenorol) ar y Strategaeth Rheoli Llifogydd Lleol a Materion yn ymwneud â Llifogydd. Amlinellodd gefndir cynhyrchu'r Strategaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cymeradwyo Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol y Cyngor yn ffurfiol, a’r cam nesaf yw gweithredu’r Strategaeth. Mae nifer o'r camau gweithredu a'r mesurau a nodwyd eisoes yn cael eu cyflawni neu wedi eu clustnodi ar gyfer eu gweithredu yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru gyda golwg ar sicrhau cyllid ychwanegol tuag at rai o'r cynlluniau.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, gan fod Adolygiad Llifogydd Arfordirol Adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn amhendant o ran difrifoldeb llifogydd arfordirol mis Rhagfyr 2013, bod y Cyngor wedi comisiynu ymgynghorwyr i ymgymryd â gwaith pellach yn y maes hwn. Mae adroddiad yr ymgynghorwyr wedi dod i gasgliadau annisgwyl. O ganlyniad, mae'r adroddiad wedi ei rhannu â Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn derbyn eu barn ar y casgliadau y daethpwyd iddynt. Yn dibynnu ar farn y budd-ddeiliaid ar gasgliadau’r ymgynghorwyr, efallai y bydd y Cyngor yn herio canfyddiadau’r ymgynghorwyr maes o law. Felly, gofynnodd yr Aelodau a oedd modd cyflwyno adroddiad yr ymgynghorwyr i'r Pwyllgor, ynghyd â sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ystod ei gyfarfod nesaf ym mis Ionawr 2015. Ar ôl cwblhau a chytuno ar adroddiad yr ymgynghorwyr, bydd y Cyngor yn cynnal asesiad pellach o’i amddiffynfeydd rhag llifogydd arfordirol. Serch hynny, ni ellir byth rhoi unrhyw sicrwydd na fyddai llifogydd yn digwydd pan fo tywydd difrifol.

 

Atebodd yr Uwch Beiriannydd (Rheoli Perygl Llifogydd) gwestiynau mewn perthynas â llifddorau unigol yn y Rhyl a Phrestatyn a dywedodd bod pryderon penodol mewn perthynas â bylchau yn y morglawdd ar Draeth Barkby a ger Canolfan Nova Prestatyn. Addawodd y byddai’n edrych eto ar y bylchau hyn er mwyn sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd difrifol. Cadarnhawyd bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal i sicrhau bod unrhyw berygl o lifogydd arfordirol yng Nghanolfan Nova, sydd wedi ei hadnewyddu, yn cael ei leihau. Mae angen gwaith pellach mewn perthynas â datblygu amddiffynfeydd eilaidd gwell rhag llifogydd yn ardal Splash Point / Ffordd Garford yn y Rhyl. Mae hyn yn amodol ar drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid.

 

Holodd yr Aelodau ynglŷn â hyfywedd casglu coed Nadolig yn gynnar yn y flwyddyn newydd a’u defnyddio i gynorthwyo'r broses o ailadeiladu twyni tywod yn ardal Traeth Barkby. Mae ymarfer tebyg wedi bod yn hynod lwyddiannus y blynyddoedd blaenorol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau pellach, cadarnhawyd bod y diffiniad o ardaloedd lle mae perygl llifogydd er dibenion y Rheoliadau Perygl Llifogydd Ewropeaidd yn wahanol iawn i’r diffiniad lleol o 'Ardaloedd Perygl Llifogydd' er dibenion ceisiadau cynllunio a chynllunio rhag argyfwng. Ni ddylai’r anghysondeb hwn effeithio ar siawns yr ardal o dderbyn arian ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn newid y ffordd y mae ardaloedd lle ceir perygl llifogydd yn cael eu datblygu ac nad oes unrhyw ardal fewndirol yn Sir Ddinbych wedi ei nodi fel ardal y gallai fod angen iddi 'ddychwelyd i'r môr' er mwyn lliniaru perygl llifogydd arfordirol eang. Yr unig ardaloedd yn y sir a nodwyd yw ardaloedd twyni tywod arfordirol. Mae'r ardaloedd penodol hyn yn eithaf da am ailadeiladu eu hunain yn naturiol.

 

Mae'r strategaeth llifogydd arfordirol yn cael ei rheoli’n agos a'i diwygio’n rheolaidd oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd ac er mwyn ystyried prosiectau posibl ar hyd yr arfordir ac yn y môr, e.e. y posibilrwydd o ddatblygu morlyn llanw i gynhyrchu ynni.

 

Mae'r rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer Cam 3 o Gynllun Amddiffyn Arfordir Gorllewin y Rhyl bellach wedi ei sicrhau ac mae’r gwaith ar y safle i fod i ddechrau ym mis Ionawr 2015. Mae gwaith rhanbarthol er mwyn rheoli perygl llifogydd yn hanfodol, gan nad yw llifogydd yn cydnabod ffiniau sirol na chenedlaethol.

 

Mewn perthynas â Phrosiectau Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol Clwyd ac Elwy, dywedwyd nad oedd Cadwyn Clwyd wedi sicrhau arian i benderfynu ar y dull mwyaf priodol o gadw dŵr ar y tir uchel am gyfnod hwy o amser er mwyn lliniaru'r perygl llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn arwain y gwaith yma ac yn ddiweddar mae swyddogion wedi gweld copi o'r adroddiad drafft ar ddalgylch afon Elwy. Yn dilyn trafodaeth fanwl gan y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: -

 

(i) yn amodol ar gymryd camau gweithredu mewn ymateb i’r pwyntiau a’r sylwadau uchod, bod y Cyngor yn ymdrechu i gyflawni ei rwymedigaethau statudol a dewisol mewn perthynas â rheoli perygl llifogydd ac amddiffyn;

(ii) yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Cyngor yn cymeradwyo'r camau rheoli perygl llifogydd y maent wedi eu cymryd hyd i reoli perygl llifogydd, yn enwedig mewn ymateb i lifogydd arfordirol mis Rhagfyr 2013; a

(iii) bod adroddiad yr ymgynghorwyr, ‘Asesu Amddiffynfeydd Arfordirol y Rhyl', ynghyd â sylwadau’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ar ei ganfyddiadau, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2015 ar gyfer archwiliad manwl.

 

 

 

Dogfennau ategol: