Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2015/16 - 2016/17

Ystyried adroddiad gan Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) yn argymell arbedion cyllidebol i’w cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn argymell arbedion cyllidebol Cam 2 i'w cymeradwyo. Roedd yr adroddiad yn amlinellu sefyllfa gyfredol y gyllideb ac yn manylu ar y cynigion diweddaraf i ganfod arbedion sy’n dod i gyfanswm o £3.6 miliwn yn 2015/16 ac £1.8 miliwn yn 2016/17. Atgoffwyd y Cyngor bod yna ddyletswydd gyfreithiol i osod a chyflwyno’r gyllideb.

 

Roedd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau yn croniclo cynnydd yr arbedion arfaethedig a restrwyd yn atodiad 1. Dechreuodd y broses yn Ebrill 2014 gyda chyfres o 17 o gyfarfodydd cyllideb Gwasanaeth yn edrych ar ganfod arbedion posibl. Cafodd meysydd a nodwyd yn y cyfarfodydd hynny eu cyflwyno i weithdai cyllideb - 9 i gyd hyd yn hyn – i Aelodau ystyried y cynigion a gyflwynwyd. Yn y gweithdai hynny cyflwynwyd 3 dewis i’r Aelodau:

 

1.    mabwysiadu - cynnig i ddod i'r Cyngor llawn nesaf i'w gymeradwyo;

2.    datblygu – gofynnwyd am ragor o wybodaeth a dod yn ôl i weithdy cyllideb arall ym mis Hydref, ac os derbynnir, y Cyngor llawn yn nes ymlaen;

3.    gohirio - i beidio â bwrw ymlaen ar y pryd.

Roedd 3 phwynt penderfyniad allweddol; Cyngor llawn ym mis Medi, cyfarfod heddiw a gosod y gyllideb yn ffurfiol ym mis Chwefror 2015. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer y cyfnod pontio sydd ei angen i sicrhau y gall yr arbedion gael eu gweithredu o 1 Ebrill 2015.

 

Asesiadau Effaith wedi cael eu llunio o ymgynghoriadau, gan gynnwys:

 

·        Cyfarfodydd pwyllgorau archwilio yn gwerthuso cynigion yn atodiad 1 (teledu cylch cyfyng a Darparwyr Gwasanaethau).

·        Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi adolygu'r broses cynllunio ariannol ac wedi ei gymeradwyo.

·        Cafodd ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd o'r enw "Torri'r Gôt yn ôl y Brethyn" ei lansio ym mis Hydref er mwyn asesu effaith y toriadau ar y gymuned.

·        Cysylltwyd â Chynghorau Tref a Chymuned i drafod y posibilrwydd ohonynt yn cyllido rhai gwasanaethau.

·        Bwrdd Gwasanaethau Lleol, CGGSDd a phartneriaid eraill wedi bod yn rhan o drafodaethau lle gall newidiadau effeithio arnynt.

·        Undebau Llafur a gweithwyr.

·        Cafodd manylion effaith gronnus yr holl arbedion arfaethedig eu dangos yn atodiad 6. Pe cytunwyd ar yr holl gynigion yna gellir parhau i amddiffyn ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a meysydd blaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol.

 

Disgrifiodd y Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch yr arbedion arfaethedig. Roeddent yn cynnwys postio ar wefan Sir Ddinbych a chyfryngau cymdeithasol; sesiynau briffio’r wasg leol; lleoliad paneli arddangos a chopïau papur o'r cynigion ym mhob derbynfa, mannau dinesig a rheng flaen a chyhoeddi sesiynau briffio staff rheng flaen yn rheolaidd i ymgysylltu â'r trigolion.

 

O'r adborth a dderbyniwyd y 5 pryder mwyaf oedd:

1.    Tipio anghyfreithlon

2.    Lleihau arian ar gyfer plant ag anableddau

3.    Cynnal a chadw priffyrdd / dirywiad yng nghyflwr y ffyrdd

4.    Newidiadau i ddarpariaeth seicoleg addysg / cwnsela

5.    Rhoi’r gorau i ddarparu cyllid ar gyfer Gwasanaeth Cerddoriaeth William Mathias

 

Awgrymiadau a dderbyniwyd yn cynnwys:

1.    Rhoi'r gorau i ariannu sefydliadau allanol

2.    Cysylltu â busnes preifat ar gyfer defnyddio cyfleusterau cyhoeddus

3.    Cynghorau Tref a Chymuned i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am ardaloedd chwarae

4.    Lleihau gwasanaeth goleuadau stryd

5.    Croesfannau pelican neu wirfoddolwyr yn lle talu hebryngwr croesfan ysgol.

Roedd y tîm Cyfathrebu yn rhaglennu amrywiaeth o weithgareddau cyfathrebu i gefnogi rhoi'r cynigion ar waith - gan gynnwys ymgynghoriadau ffurfiol ar gyfer rhai sydd eu hangen e.e. cludiant i deithwyr a darpariaeth gwasanaeth gofal dydd ayyb.

 

Eglurodd y Swyddog Gwella Corfforaethol effaith gyffredinol y cynigion a nodir yn fanwl yn atodiad 6.  Mae'r papur yn canolbwyntio ar y sefyllfaoedd gwaethaf a mwyaf tebygol o roi’r rhaglen arbedion ar waith. Nodwyd bod cryn ymdrech wedi cael ei roi i mewn gan y Gwasanaethau i leihau/liniaru faint o brosiectau sy’n cael effaith negyddol ar yr ardaloedd a aseswyd.

 

Roedd y Cyngor yn meddwl am y toriadau llymder a osodir gan lywodraeth ganolog a dyfelir y byddent yn parhau waeth beth yw canlyniad yr etholiad cyffredinol. Awgrymwyd bod yr Aelodau’n cysylltu â'u ACau ac ASau i ofyn am gyllid tecach yng Nghymru.

 

Cafwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a godwyd gan y Cyngor:

 

·        Roedd cyllideb Cynlluniau Tref ac Ardal wedi caffael tanwariant sylweddol. Felly, cytunwyd i roi'r gorau i ychwanegu at y cronfeydd hynny. Byddai arian yn parhau i gael ei ddyrannu i Gynlluniau T & C hyd nes iddynt gael eu disbyddu.

·        Roedd defnydd yr Awdurdod o ymgynghorwyr yn destun archwilio’n rheolaidd a dylai gwybodaeth fod ar gael yn rhwydd.

·        Ffioedd proffesiynol/hyfforddiant yn cael ei ddyrannu ar lefel gwasanaeth, a byddant wedi cael eu hystyried o dan eu hymarferion rhyddid a hyblygrwydd.

·        Roedd arbedion yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn deillio o ymddeoliad y Prif Seicolegydd Addysg. Nid oedd hyn wedi effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn parhau i gael ei ddarparu.

·        Gwasanaeth gwaith cymdeithasol addysg yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau bod y ffocws ar y swyddogaeth graidd statudol - presenoldeb - a bod diogelu ac amddiffyn yn gyfrifoldeb y bartneriaeth iawn gydag ysgolion.

·        Byddai'r gwasanaeth cwnsela addysg yn cadw'r gofyniad statudol o fonitro. O gofio bod cyllidebau ysgolion wedi eu diogelu i raddau helaeth rhag toriadau, bydd angen iddynt gyflogi cwnselwyr yn uniongyrchol ar gyfer unrhyw wasanaeth ychwanegol.

·        Ni fyddai'r cynnig cyllid cerddoriaeth William Mathias yn effeithio ar wersi cerddoriaeth craidd a fyddai'n parhau ym mhob ysgol. Fodd bynnag, byddai angen i sesiynau peripatetig ac ensemble gael eu hariannu'n uniongyrchol gan ysgolion neu ddarpariaeth arall.

·        Ni fyddai unrhyw effaith anghyfartal ar yr iaith Gymraeg.

·        Nid yw'r uno posibl gyda Chonwy yn cael ei ystyried fel rhan o broses pennu'r gyllideb eleni.

 

Pryderon a chwestiynau a godwyd gan Aelodau:

 

·        Nid oedd atodiad 6 yn mynd i'r afael ag effaith y toriadau hyn ar drigolion ar incwm is, colli grant gwisg ysgol, tripiau ysgolion a gwasanaethau bws lleol ar gyfer yr henoed.

·        Beth fyddai'n digwydd pe na allai Cynghorau Tref/Cymuned neu ysgolion ariannu'r gwasanaethau y mae'r Sir yn eu tynnu'n ôl?

·        Ymatebodd llai nag 1% o drigolion Sir Ddinbych i'r ymarfer Torri’r Gôt yn ôl y Brethyn.

·        Diffyg eglurder ynglŷn â lle byddai'r toriadau yn y Gwasanaethau Cefn Gwlad.

·        Nid oedd gan Gynghorau Tref a Chymuned y wybodaeth sydd ei hangen i osod y praeseptau’r mis nesaf os oedd disgwyl iddynt ariannu gwasanaethau.

 

Ailadroddodd y Prif Weithredwr bod angen gwneud y penderfyniadau anodd hyn heb unrhyw fai ar y Cyngor ond mewn ymateb i'r toriadau ariannol i'r Cyngor. Roedd yn canmol Swyddogion ac Aelodau am fod yn gallu amddiffyn ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a darpariaeth ieuenctid ac yn cadarnhau y byddent yn ymdrechu i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Smith am bleidlais a gofnodwyd ac fe gytunodd y nifer angenrheidiol o’r Aelodau.

 

O blaid cymeradwyo'r cynigion arbedion cam 2 oedd y Cynghorwyr:

 

Bartley, J.R.; Cowie, W.L.; Davies, J.M.; Davies, M.Ll.; Davies, S.A.; Duffy, P.C.; Evans, H.H.; Evans, P.A.; Feeley, R.L.; Holland, M.L.; Hilditch-Roberts, H.; Hughes, T.R.; Irving, H.C.; Jones, E.A.; Jones, H.L.; Owen, P.W.; Owens, D.; Parry, T.M.; Roberts, A.; Smith, B.A.; Smith, D.I.; Thompson-Hill, J.; Welch, J.S.; Williams, C.L.; Williams, E.W. a Williams, H.O.

 

 

Yn erbyn cymeradwyo'r arbedion cam 2 oedd y Cynghorwyr:

 

Armstrong, I.W.; Chamberlain-Jones, J; Jones, P.M.; Lloyd-Williams, G; McLellan, J.M.; Mellor, B; Mullen-James, W.M.; Murray, R.M.; Penlington, P.; Sandilands, G; Simmons, D a Tasker, W.N.

 

Roedd y Cynghorwyr Blakely a Kensler yn ymatal rhag pleidleisio.

 

 

PENDERFYNWYD bod cynigion arbedion cam 2 yn cael eu cymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: